Hannah wedi codi dros £1,000 i PoTS UK
Ar ôl cael diagnosis o gyflwr prin sy'n newid bywyd, trefnodd y fyfyrwraig, sy'n astudio cerdd yng Ngholeg Llandrillo, gig i godi arian
Cododd Hannah Popey, myfyrwraig o Goleg Llandrillo, dros £1,000 i PoTS UK drwy drefnu gig elusennol.
Trefnodd y ferch 18 oed noson o gerddoriaeth ac adloniant er budd yr elusen sy'n cefnogi pobl â PoTS (Postural orthostatic tachycardia syndrome).
Cafodd Hannah ddiagnosis o’r cyflwr yn ddiweddar, ar ôl chwe blynedd o salwch a arweiniodd iddi gael addysg gartref.
Mae curiad ei chalon yn gallu cynyddu’n gyflym unrhyw bryd, hyd yn oed ar ôl codi o eistedd neu orwedd, ac mae hi'n blino’n lân ar ôl gwneud pethau y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol.
Mae Hannah yn astudio Cwrs Lefel 3 mewn Technoleg Cerddoriaeth ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Fel rhan o'i phrosiect mawr terfynol trefnodd ‘A Night to Remember’ yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Comrades Conwy.
Cododd £1,056 i PoTS UK trwy werthu tocynnau a raffl, a’r rhoddion a dderbyniwyd drwy ei thudalen GoFundMe.
Dywedodd Hannah: “Roedd hi’n noson lwyddiannus iawn, a dw i mor ddiolchgar i bawb a brynodd docyn ac a gyfrannodd i elusen sydd mor bwysig i mi.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r Clwb a’r holl berfformwyr a gwirfoddolwyr a roddodd o’u hamser i helpu PoTS UK, elusen sy’n gwneud gwaith gwych i helpu pobl sydd â'r cyflwr.”
Ivory Glam, y perfformiwr drag oedd yn arwain y noson, gyda'r bandiau lleol Noisewave, G-String, Highway 88, ynghyd â Hannah, yn perfformio hefyd.
Ychwanegodd Hannah: "Mae pawb wedi bod yn canmol y gig, ac yn holi os bydda i’n trefnu noson arall gan eu bod wedi mwynhau cymaint.
“Mae PoTS yn gyflwr nad oes llawer o bobl yn gwybod amdano, felly ro'n i eisiau codi ymwybyddiaeth o’r elusen, ond mae gallu cyfrannu £1,056 hefyd yn wych. Dw i eisiau dal ati i godi ymwybyddiaeth a helpu pobl eraill sydd â PoTS neu bobl sydd efallai ddim yn gwybod bod o arnyn nhw.”
Darganfu Hannah ei dawn am gerddoriaeth ar ôl iddi orfod rhoi’r gorau i’w hoff chwaraeon.
Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae hi wedi ysgrifennu a chynhyrchu nifer o'i chaneuon ei hun ac yn eu perfformio'n rheolaidd - gan gynnwys ei thrac diweddaraf Dream to Forget, a siartiodd ar iTunes ar ôl iddi ei recordio ar gyfer albwm High Society Coleg Llandrillo.
Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai ym meysydd Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth