Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Harry i Gynrychioli'r Grŵp yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cystadleuaeth SkillBuild

Mae Harry Sutherland, cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, wedi cyrraedd rownd derfynol y categori plastro fydd yn cael ei chynnal yn Milton Keynes

Bydd Harry Sutherland yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai yn Rownd Derfynol Genedlaethol y gystadleuaeth SkillBuild.

Fis Tachwedd, bydd y bachgen 21 oed o Sarn Meyllteyrn yn cystadlu yng nghategori plastro rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig ar ôl cael ei ddewis yn un o wyth cystadleuydd gorau'r wlad.

Dyma'r ail flwyddyn i Harry gyrraedd y ffeinal, ar ôl iddo ddod yn bedwerydd yn y gystadleuaeth y llynedd.

Gorffennodd Harry ei gwrs Diploma Lefel 2 mewn Plastro yn ddiweddar trwy wneud prentisiaeth gyda Busnes@LlandrilloMenai a'i gyflogwyr Adeiladwaith Derwen Llŷn.

Cyn hynny, astudiodd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, a bydd yn dychwelyd i'r coleg i ymarfer ar gyfer y gystadleuaeth. Bydd hefyd yn treulio wythnos yn hyfforddi yn swyddfa'r gwneuthurwr byrddau plastr, British Gypsum.

Dyma oedd gan Harry i'w ddweud am y gystadleuaeth SkillBuild: “Mae’n gyfle da i ddangos yr hyn y gallwch chi ei wneud. Mae'n llawer o hwyl, ond hefyd yn eich rhoi chi dan bwysau i brofi eich sgiliau.”

Fel yr eglura Harry, mae gwneud yn dda yn y gystadleuaeth yn edrych yn dda ar eich CV: “Rydw i'n gyflogedig, ond hefyd yn gweithio i mi fy hun y tu allan i oriau gwaith ac mae gallu dweud 'mod i wedi dod yn bedwerydd trwy Brydain y llynedd yn sicr yn fantais.”

Mae Harry wedi cael budd o'i amser yn y coleg, yn enwedig ar ôl dechrau ar ei brentisiaeth a gallu rhoi ei sgiliau ar waith.

“Wrth weithio, rydych chi'n cael profiad ymarferol pwysig,” meddai. “Yn y coleg rydych chi'n dysgu'r theori ac mae hynny'n eich helpu chi i ddeall yr ochr ymarferol yn well.

“Mi faswn i'n argymell gwneud prentisiaeth, oherwydd rydych chi'n rhannu'ch wythnos ac yn dysgu'n llawer cynt gan eich bod yn gallu rhoi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu yn y coleg ar waith.”

Cynhelir Rowndiau Terfynol Cenedlaethol SkillBuild 2024 yn y Marshall Arena, Milton Keynes, a bydd yn cynnwys cystadlaethau mewn deg crefft adeiladu.

Mewn 18 awr dros dri diwrnod bydd y cystadleuwyr yn gweithio ar brosiect a luniwyd gan banel o feirniaid. Bydd y prosiect yn profi gwybodaeth a sgiliau'r cystadleuwyr a bydd rhaid iddynt weithio dan bwysau, cadw at amserlen gaeth a sicrhau eu bod yn dilyn protocolau iechyd a diogelwch.

Bydd y gystadleuaeth yn agored i ymwelwyr o 9am ymlaen ddydd Mercher 20 Tachwedd a dydd Iau 21 Tachwedd 2024. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma neu ewch i goconstruct.org/skillbuild