Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Harry'n ennill y wobr aur yn y gystadleuaeth plastro yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cystadleuaeth SkillBuild

Roedd y prentis gyda chwmni Adeiladwaith Derwen Llŷn yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai a Busnes@Llandrillo Menai yn erbyn y plastrwyr ifanc gorau o bob rhan o'r Deyrnas Unedig

Enillodd Harry Sutherland y wobr aur yn y gystadleuaeth plastro wrth gynrychioli Grŵp Llandrillo Menai yn Rownd Derfynol Genedlaethol y gystadleuaeth SkillBuild 2024.

Daeth Harry, 21 oed, o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llŷn, i’r brig yn y Deyrnas Unedig ar ôl tridiau o gystadlu brwd yn Milton Keynes.

Enillodd Harry ei Ddiploma Lefel 2 mewn Plastro yng Ngholeg Menai yn ddiweddar, trwy wneud prentisiaeth gyda Busnes@LlandrilloMenai a'i gyflogwr, Adeiladwaith Derwen Llŷn.

Cymhwysodd ar gyfer rownd derfynol SkillBuild fel un o'r wyth cystadleuydd gorau o bob rhan o'r wlad, yn dilyn cyfres o rowndiau rhanbarthol.

Dywedodd Harry: “Dwi wrth fy modd fy mod wedi cipio’r Aur mewn plastro. Mae wedi bod yn brofiad mor dda, yn profi fy sgiliau yn erbyn pobl yn yr un maes gwaith â mi.

“Mae’r cystadlaethau SkillBuild yn ffordd wych o wneud yn siŵr bod safonau’r sector adeiladu bob amser ar eu huchaf ac i ddangos i’r byd ein bod bob amser yn ymdrechu i’w gwella.”

SkillBuild, a drefnir gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), yw’r gystadleuaeth sgiliau adeiladu fwyaf a hynaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys 10 o grefftau adeiladu.

Mewn 18 awr dros dri diwrnod bydd y cystadleuwyr ym mhob crefft yn gweithio ar brosiect a luniwyd gan banel o feirniaid. Mae'r prosiectau'n profi gwybodaeth a sgiliau'r cystadleuwyr a bydd rhaid iddynt weithio dan bwysau, cadw at amserlen gaeth a sicrhau eu bod yn dilyn protocolau iechyd a diogelwch.

Llwyddodd Harry, a fu'n astudio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli yn flaenorol, i gyrraedd rownd derfynol y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn olynol, ar ôl cyrraedd y pedwerydd safle yn 2023. Yn y cyfnod cyn y rownd derfynol eleni, treuliodd wythnos yng Ngholeg Menai yn Llangefni i baratoi - ac fe dalodd hynny ar ei ganfed.

Dywedodd Dyfed Jones, Dirprwy Reolwr y Maes Rhaglen Adeiladu yng Ngholeg Menai: “Dangosodd Harry ddawn a phenderfynoldeb anhygoel yn y gystadleuaeth blastro.

“Roedd mwy na 100 o gystadleuwyr yn y rowndiau rhanbarthol, a llwyddodd i sicrhau lle ymhlith yr wyth uchaf yn y rownd derfynol. Dros dridiau o gystadlu brwd, disgleiriodd sgiliau Harry ac fe'i coronwyd yn enillydd y gystadleuaeth.

“Mae’r gamp hon yn dyst i waith caled, ymroddiad, ac ymrwymiad Harry i’w grefft. Diolch arbennig i'w diwtoriaid a'i gyflogwr, Derwen Llŷn, am eu cefnogaeth ar hyd y daith hon. Harry, rwyt ti wedi ein gwneud ni i gyd mor falch - dymuniadau gorau am ddyfodol disglair!

Ydych chi eisiau uwchsgilio ar gyfer y diwydiant adeiladu? I gael rhagor o wybodaeth am ystod o gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys prentisiaethau, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date