Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cwblhau lleoliadau Denu Talent

Llwyddodd pump o ddysgwyr Coleg Menai i ennill lleoedd ar y cynllun - gyda dau yn cael gwaith llawn amser

Cwblhaodd myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Menai gynllun Denu Talent Môn yn ddiweddar - gyda dau yn cael gwaith o ganlyniad.

Mae Denu Talent Môn yn rhaglen lleoliad gwaith a gynigir gan Gyngor Sir Ynys Môn, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc dros 16 oed ymgymryd â hyd at 12 wythnos o waith cyflogedig.

Llwyddodd Sophie Dickens, Lucie Williams, Ffion Jones, Jessica Bowes a Lucy Griffiths i gael lleoliadau gwaith dros yr haf, ar ôl gwneud cais i'r cynllun yn dilyn cyflwyniad ar gampws y coleg yn Llangefni.

Cawsant i gyd brofiad gwaith amhrisiadwy yn y byd go iawn - a chynigwyd swyddi i Sophie a Lucie pan ddaeth y cyfnod 12 wythnos i ben.

Mae Sophie, sy'n astudio Gradd Sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bellach yn gweithio'n llawn amser yng Ngwasanaeth Ail-alluogi'r Cyngor, sy'n ceisio hybu annibyniaeth pobl sy'n gwella o salwch neu anaf, neu ar ôl colli hunanhyder.

Dywedodd: “Mi wnes i fwynhau’r profiad yn ofnadwy. Roedd yn brofiad gwych dod i adnabod pawb, dod i ddysgu’r pethau cynnil sydd angen i chi sylwi arnynt, a gallu siarad mewn ffordd sensitif gyda phobl gan eu bod yn gallu teimlo’n eithaf bregus.

“Gwnaeth y lleoliad gwaith fy ngalluogi i ennill profiad ac yna i gael fy ystyried ar gyfer gwaith llawn amser, sef beth rydw i'n ei wneud erbyn hyn gyda'r Cyngor.

“Y nod yn y pen draw ydy bod yn weithiwr cymdeithasol, a gan fod gen i'r swydd hon gyda'r Cyngor erbyn hyn maen nhw wedi cynnig i mi fynd ar leoliadau gwaith a chwblhau cyrsiau er mwyn datblygu fy addysg ac ennill gradd mewn gwaith cymdeithasol.

“Hyd yn oed petawn i heb gael fy nerbyn ar gyfer y swydd lawn amser, rhoddodd y cynllun cymaint o brofiad i mi am sut i gyfathrebu ag eraill yn dda, a sut i weithio mewn tîm.”

Mae Lucie Williams, a gwblhaodd ei chwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yr haf hwn, hefyd wedi cael ei chyflogi gan y Gwasanaeth Ail-alluogi ar ôl creu argraff yn ystod ei lleoliad gwaith yng Nghanolfan Dementia Plas Crigyll.

Bu Ffion Jones, sy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, hefyd yn gweithio i’r Gwasanaeth Ail-alluogi, ac mae wedi cael ei hannog i wneud cais am waith llanw yn dilyn ei lleoliad gwaith.

Dywedodd fod y profiad wedi rhoi hyder iddi wrth iddi weithio tuag at ei huchelgais o ddod yn therapydd galwedigaethol.

“Ro'n i’n meddwl y byddai’n brofiad da iawn i weld agwedd newydd ar ofal,” meddai. “Ro'n i’n hoffi’r ffaith ei fod yn waith cymunedol, nad oeddwn i erioed wedi’i wneud o’r blaen, ac roedd yn hwb mawr i'm hyder.

“Ar ôl i mi orffen fy nghwrs, rydw i eisiau mynd i'r brifysgol i astudio therapi galwedigaethol, a dyna rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed. Mae ail-alluogi yn debyg i therapi galwedigaethol gan ei fod yn hybu annibyniaeth, felly roedd yn brofiad da iawn.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y sector gofal? Cliciwch yma i ddysgu rhagor am gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Grŵp Llandrillo Menai.

Pagination