Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Heather yn ennill lle yn rownd derfynol ysgoloriaeth Calligraphy Cut

Mae’r fyfyrwraig trin gwallt o Goleg Llandrillo eisoes wedi ennill gwobrau, a bellach wedi ennill mwy o ganmoliaeth wrth iddi baratoi ar gyfer rownd derfynol WorldSkills UK

Mae'r gwobrau'n parhau i ddod i Heather Wynne, myfyrwraig trin gwallt o Goleg Llandrillo.

Yn ddiweddar dyfarnwyd gwobr arian i Heather yng nghategori Steilydd Priodasol y Flwyddyn yng Ngwobrau Beauty Full Box, a gorffennodd yn y 10 uchaf yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch y Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, er y galw mawr, mae hi wedi sicrhau un o 10 lle ar Ysgoloriaeth Calligraphy Cut, sy’n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Trin Gwallt Prydain.

Y mis nesaf, os gall hi sicrhau cyllid, mae Heather yn gobeithio teithio i Lundain i gystadlu ochr yn ochr â naw ymgeisydd llwyddiannus arall yr ysgoloriaeth am y cyfle i hyfforddi'n gyfan gwbl o dan sylfaenydd y brand Calligraphy Cut.

Mae Heather, sy’n astudio cwrs Lefel 3 mewn Trin Gwallt yng Ngholeg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, hefyd yn paratoi ar gyfer rowndiau terfynol WorldSkills UK y mis nesaf ar ôl ennill y rownd ranbarthol ym Manceinion yn gynharach eleni.

Ysgoloriaeth Calligraphy Cut yw’r cam diweddaraf ar daith ryfeddol Heather, a ddysgodd ei hun i steilio gwallt trwy wylio fideos YouTube cyn dechrau ei busnes arobryn, Harmony Wedding Hair.

Cofrestrodd yng Ngholeg Llandrillo fis Medi diwethaf i ychwanegu torri a lliwio at ei repertoire, ac mae'n edrych ymlaen at y cyfle i gystadlu yn erbyn y salonau gorau yn Llundain ar Dachwedd 11.

“Mae ysgoloriaeth Calligraphy Cut yn gyfle anhygoel,” meddai’r ddynes 32 oed o Hen Golwyn. “Mae’r bobl eraill sydd wedi dod drwodd yn dod o salonau sydd wedi’u hen sefydlu, rhai o’r goreuon yn y diwydiant, felly dw i'n falch iawn o fod wedi cyrraedd mor bell â hyn.”

Bydd enillydd y clyweliad yn Llundain yn cael ei wahodd i’r Almaen i hyfforddi gyda Frank Brormann, sylfaenydd Calligraphy Cut, sy’n defnyddio teclyn tebyg i ysgrifbin i wneud i'r gwallt edrych yn fwy trwchus a lleihau hollti ym mlaen y gwallt. Byddant hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer rôl yn Nhîm Artistig Rhyngwladol Calligraphy Cut.

Fel rhan o'i hysgoloriaeth, mae Heather eisoes wedi derbyn offer Calligraphy Cut gwerth tua £1,500, yn ogystal â mynediad i academi hyfforddiant ddigidol am flwyddyn.

“Byddai ennill yn anhygoel, ond dw i’n hapus iawn gyda’r hyn dw i wedi’i dderbyn fel rhan o’r ysgoloriaeth,” meddai’r fam i ddau o blant, sydd wedi dysgu sgiliau hollbwysig tra yn y coleg.

“Mae Calligraphy Cut yn ymwneud mwy â'r ochr dorri gwallt, sy'n fwy technegol. Do'n i ddim yn gwybod dim byd am dorri cyn i mi ddod i'r coleg, felly mae'r sgiliau dw i wedi'u hangen ar gyfer hyn yn sgiliau dw i wedi'u dysgu yn ystod fy nghyfnod yma.”

Dysgodd Heather steilio gwallt fel ffordd o gael dau ben llinyn ynghyd tra yn y brifysgol. Enillodd y wobr ranbarthol i Gymru yng Ngwobrau Gwallt y Deyrnas Unedig y llynedd, yn ogystal â'r Gwallt Priodas Gorau yng Ngwobrau Priodas Gogledd Cymru.

Cofrestrodd ar y cwrs Trin Gwallt Lefel 2 fis Medi diwethaf i ddysgu ei chrefft yn ffurfiol, a chyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr Gwallt y Flwyddyn y DU eleni.

Bydd yn cystadlu yn rownd derfynol WorldSkills UK ym Manceinion o 19-22 Tachwedd.

  • Mae Heather yn chwilio am gymorth ariannol gyda'r gost o deithio i Lundain ar gyfer Ysgoloriaeth Calligraphy Cut Os gallwch chi helpu, e-bostiwch Heather: ⁠128153@gllm.ac.uk

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant gwallt a harddwch? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Trin Gwallt a Therapi Harddwch Grŵp Llandrillo Menai.

Gwallt wedi ei steilio gan Heather Wynne, myfyriwr yng Ngholeg Llandrillo