Heather yn ennill Gwallt Priodas Gorau Gogledd Cymru
Dysgodd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo ei sgiliau oddi ar YouTube ac mae hi bellach yn ôl yn y coleg wrth iddi gynllunio i ddarlithio mewn trin gwallt
Yn ddiweddar enillodd Heather Wynne, sy'n fyfyrwraig yng Ngholeg Llandrillo, wobr am y Gwallt Priodas Gorau yng Ngwobrau Priodas Gogledd Cymru.
Mae Heather, sy’n rhedeg Harmony Wedding Hair, yn astudio Trin Gwallt Lefel 2 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos y coleg.
Dechreuodd steilio gwallt fel ffordd o gael dau ben llinyn ynghyd tra yn y brifysgol - gan ddysgu ei hun trwy wylio fideos YouTube.
Ac yn dilyn ei buddugoliaeth ddiweddaraf mewn cystadleuaeth mae busnes yn ffynnu i'r ferch 32 oed.
“Mae’n deimlad anhygoel fy mod wedi ennill Gwallt Priodas Gorau Gogledd Cymru,” meddai Heather, a enillodd hefyd wobr ar gyfer rhanbarth Cymru yng Ngwobrau Gwallt y Deyrnas Unedig yn gynharach eleni.
Lluniau: Martin Vaughan Photography
“Y llynedd roeddwn i yn y pump uchaf, ac eleni roeddwn i’n un o ddim ond pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol, felly roeddwn i wrth fy modd gyda hynny.
“Ar ôl ennill, rydw i wedi darganfod fy mod i wedi cael llawer o ymholiadau, sy'n wych, oherwydd mae pobl yn archebu priodasau tair neu bedair blynedd ymlaen llaw, felly mae'n golygu y gallaf ragamcanu enillion ac archebion.”
Penderfynwyd ar y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn seiliedig ar bleidleisiau gan y priodferched, gyda beirniaid y gystadleuaeth wedyn yn craffu ar enghreifftiau o’u gwaith ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd Heather, o Hen Golwyn, yn erbyn salonau yn y rownd derfynol - sy'n gwneud ei buddugoliaeth hyd yn oed yn fwy rhyfeddol.
Meddai: “Os ydych chi'n meddwl faint o gleientiaid y mae'r salonau'n eu cael bob wythnos, mae hynny'n gryn dipyn o bobl y gallent gael pleidleisiau ganddynt.
“Dim ond un person dwi’n ei wneud bob penwythnos felly i mi gyrraedd rownd derfynol, roeddwn i’n hapus iawn gyda hynny, yn enwedig gan fy mod i wedi dysgu fy hun. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl!”
Yn wreiddiol roedd Heather yn bwriadu bod yn athrawes ysgol gynradd. Cwblhaodd y cwrs Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo cyn mynd i Brifysgol Bangor i wneud gradd mewn Astudiaethau Plentyndod.
“Roeddwn i yn yr ail flwyddyn yn y brifysgol, ac roedd gen i blentyn ifanc sy'n bump oed erbyn hyn,” meddai. “Felly roeddwn i’n ceisio cydbwyso gwaith prifysgol, plant a chartref, a gwelais yr agoriad bach hwn lle gallwn wneud gwallt ar yr ochr.”
Ar ôl i'w busnes ddechrau, dychwelodd i'r coleg i ennill cymwysterau ffurfiol fel y gall un diwrnod ddarlithio mewn trin gwallt.
“Dechreuais gwestiynu, ydw i wir eisiau mynd i weithio mewn ysgol drwy’r dydd bob dydd, neu ydw i eisiau mynd i wneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau’n fawr?” meddai hi. “Does dim straen – mae'r cleientiaid bob amser yn hapus ar y diwrnod, ac mae’n swydd neis iawn.
“Gofynnwyd i mi ddysgu gwallt creadigol, ond oherwydd nad oedd gennyf unrhyw gymwysterau nid oeddwn yn gallu addysgu'n ffurfiol, felly dyna oedd fy rheswm dros ddod yn ôl i'r coleg.
“Y nod yw cwblhau Lefel 2 erbyn Mehefin neu Orffennaf, yna mynd ymlaen i Lefel 3, yna gwneud TAR gobeithio er mwyn i mi allu dysgu fel tiwtor coleg.
“Mae hyn yn cyd-fynd â’r hyn roeddwn i’n bwriadu ei wneud yn wreiddiol, sef dod yn athrawes.”
Mae Heather hefyd yn steilio gwallt ar gyfer partïon plant, gwyliau a digwyddiadau arbennig eraill.
Mae'n amlwg bod ganddi ddawn - ond mae dychwelyd i'r coleg wedi mireinio ei sgiliau ac wedi rhoi mwy o hyder iddi.
“Rwyf wedi gweld bod mynychu'r coleg am yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn help mawr,” meddai.
“Rwy’n dysgu torri a lliwio, yn ennill gwybodaeth am gynnyrch - mae fy athrawon yn gallu dangos cynhyrchion gwahanol i mi, a'u heffaith; os ydych chi’n rhoi cynnig ar y dechneg hon yna bydd hyn yn digwydd. Mae hynny’n help mawr i mi oherwydd rwy’n teimlo fy mod wedi bod gallu mynd gam ymhellach.”
Diddordeb mewn astudio trin gwallt yng Ngholeg Llandrillo? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Trin Gwallt a Therapi Harddwch.