Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Heather yn ennill rownd rhanbarthol cystadleuaeth WorldSkills UK

Ychydig fisoedd ar ôl dechrau ei chwrs trin gwallt ffurfiol cyntaf mae’r fyfyrwraig o Goleg Llandrillo yn aros i gael gwybod a yw hi wedi ennill lle yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig

Er mai dim ond eleni mae Heather Wynne wedi dysgu torri a lliwio gwallt, enillodd Heather rownd ranbarthol trin gwallt WorldSkills UK.

Ar ôl dysgu ei hun drwy wylio fideos YouTube, mae’r fyfyrwraig 32 oed o Goleg Llandrillo wedi ennill gwobrau am ei steiliau priodas.

Cofrestrodd ar y cwrs Lefel 2 Trin Gwallt i ddysgu ei chrefft yn ffurfiol, ac nid oedd erioed wedi torri na lliwio cyn iddi ddechrau ym mis Medi.

Ers hynny mae hi wedi cymryd camau breision, gan gyrraedd rownd derfynol Dysgwr Gwallt Cysyniadol y Flwyddyn y Deyrnas Unedig eleni, cyn dod yn fuddugol yn rownd ragbrofol WorldSkills UK ym Manceinion

Mae Heather, o Hen Golwyn, yn aros i ddarganfod a yw hi wedi ennill lle yn rowndiau terfynol y DU ym mis Tachwedd. Yno bydd yr wyth cystadleuydd gorau o 10 rownd ragbrofol ar draws y wlad yn brwydro am y teitl.

Meddai: “Mae’n anhygoel. Ro'n i mewn sefyllfa gwbl ddieithr wrth gael fy meirniadu am dorri a lliwio yn ogystal â steilio, a doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl. ⁠

“Doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw dorri na lliwio cyn mis Medi, a dim ond ar ôl y Nadolig y dechreuon ni wneud hynny mewn gwirionedd, felly dim ond pump mis sydd wedi bod ers i mi ddechrau. Mae’n glod i Michelle Jones a’r tiwtoriaid anhygoel sydd wedi fy mentora yng Ngholeg Llandrillo ers mis Medi."

Roedd Heather yn un o bump o ddysgwyr Coleg Llandrillo a ddewiswyd ar gyfer y rownd ranbarthol yn seiliedig ar ffotograffau. Y pedwar arall oedd Leah Mathews, Chloe Pugh Mason, Chloe Jones a Rachael Mulvaney.

Dywedodd Heather fod Michelle, rheolwr y salon, wedi “ein mentora a’n paratoi ni”, gan ychwanegu: “Rydan ni wedi cael llawer o sesiynau un-i-un gyda hi ar sgiliau y mae angen i ni weithio arnyn nhw. Mae hi’n amlwg wedi gwneud gwaith gwych.”

Yn y rownd ragbrofol, roedd gan y cystadleuwyr awr a hanner i greu steil addas i'r ‘catwalk’, cyn cael tasg a barodd dair awr lle bu’n rhaid iddynt dorri gwallt o dan yr ên, defnyddio dau liw a chynnwys ffrinj. Enillodd Heather y rownd ragbrofol gyda steil bob anghymesur a ffrinj ochr.

Dywedodd: “Gobeithio y bydd o'n ddigon i gyrraedd y rowndiau terfynol ym mis Tachwedd ond os na, am brofiad!”

Dysgodd Heather, sy'n rhedeg Harmony Wedding Hair, steilio gwallt fel ffordd o gael dau ben llinyn ynghyd tra yn y brifysgol. Enillodd y wobr ranbarthol i Gymru yng Ngwobrau Gwallt y Deyrnas Unedig y llynedd, yn ogystal â'r Gwallt Priodas Gorau yng Ngwobrau Priodas Gogledd Cymru.

Mae’n bwriadu dychwelyd i’r coleg ym mis Medi i astudio cwrs Lefel 3 Trin Gwallt, ar ôl iddi “fwynhau” ei chwrs Lefel 2 yn fawr.

“Cyn mis Medi doedd gen i ddim profiad gwallt heblaw am wallt priodas,” meddai. “Doedd gen i ddim gwybodaeth am strwythur gwallt a’r theori y tu ôl iddo, felly mae wedi bod yn addysgiadol iawn.”

Mae Heather yn rhannu ei hamser rhwng gwaith, ei hastudiaethau, a magu ei mab ifanc a'i merch 12 oed, ac mae'n ddiolchgar i'r coleg am ei galluogi i fynd ar ôl ei huchelgeisiau.

Meddai: “Mae’r coleg wedi bod yn gymwynasgar iawn. Mae fy mab yn mynd at ddarparwr gofal plant y tu allan i oriau ysgol, ac mae'r coleg wedi ariannu hynny i mi.

“Mae’r tiwtoriaid hefyd wedi bod yn dda iawn. Os ydw i wedi gorfod dod i mewn hanner awr yn hwyr oherwydd gofal plant, maen nhw wedi gweithio o fy nghwmpas i. Maen nhw wedi bod yn wych.

“Maen nhw wedi ei gwneud hi'n bosib i mi ddod i'r coleg. Yn y gorffennol bu'n rhaid i mi adael cyflogaeth i ofalu am fy mab.

“Dwi wedi mwynhau’r hyfforddiant trin gwallt dros y naw mis diwethaf. Mae gwaith caled yn talu ar ei ganfed, a dydych chi byth yn rhy hen i ailhyfforddi a dilyn gyrfa mewn rhywbeth rydych chi'n teimlo'n frwdfrydig amdano.”

Dywedodd Michelle Jones, sy'n ddarlithydd ac yn rheolwr salon: “Mae Heather wedi bod yn gaffaeliad gwirioneddol i'r cwrs Lefel 2 trin gwallt eleni. Mae hi nid yn unig wedi gweithio'n galed iawn i ddatblygu ei sgiliau ei hun, yn enwedig gyda thorri, lliwio a steilio gwallt, ond hefyd mae hi wedi ysbrydoli ei chyfoedion.

“Mae hi’n gosod esiampl wych. Mae ei chyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol wedi helpu eraill i ddatblygu eu rhai eu hunain, ac mae hefyd yn dangos pwysigrwydd delwedd broffesiynol a herio eich hun yn gyson.

“Mae Heather yn gweithio’n galed i ddatblygu ei sgiliau ac yn gwthio ei ffiniau wrth gystadlu mewn cymaint o gystadlaethau. Mae hi wedi cael ychydig o flynyddoedd anhygoel gyda'i busnes steilio gwallt priodas, ac mae'n ymgymryd â'i gyrfa trin gwallt lawn gyda'r un penderfyniad.

“Mae Heather wedi cefnogi eraill gyda’u gwaith, a hefyd wedi cymryd myfyrwyr eraill ar brofiad gwaith yn gwneud ei gwaith priodasol.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant gwallt a harddwch? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Trin Gwallt a Therapi Harddwch Grŵp Llandrillo Menai.