Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Meirion-Dwyfor yn Dathlu Llwyddiant ei Fyfyrwyr

Ddoe yn seremoni wobrwyo flynyddol Coleg Meirion-Dwyfor dathlwyd llwyddiannau 15 o ddysgwyr arbennig iawn.

Daeth yr enillwyr ynghyd ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog i ddathlu eu llwyddiant gyda'u teulu a'u ffrindiau.

Gwahoddir darlithwyr o bob maes pwnc i enwebu myfyrwyr am wobr, a Rheolwr y Maes Rhaglen sydd wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer y ddisgyblaeth honno. Yna mae'r Pennaeth yn dewis y Prif Enillydd ar sail ei lwyddiant academaidd a'r hyn a gyflawnodd.

Y myfyriwr Safon Uwch, Olaf Niechcial enillodd y brif wobr sef Myfyriwr y Flwyddyn, a derbyniodd dlws a siec am £100. ⁠ ⁠

Mae Olaf o Dremadog wedi dangos dawn eithriadol drwy ennill y wobr aur yn her fathemategol hŷn UKMT am ddwy flynedd yn olynol, a chafodd y wobr Deilyngdod yng nghystadleuaeth yr Andrew Jobbings Senior Kangaroo.

Mae Olaf wedi derbyn cynnig gan Brifysgol Rhydychen i astudio Mathemateg a bydd yn mynd yno ym mis Medi.

Dywedodd Olaf,

"Mae'n fraint derbyn y wobr yma. Mae Coleg Meirion-Dwyfor wedi bod yn gefnogol iawn i mi yn ystod fy nghyfnod yma. Mae'r coleg wedi agor cyn-gymaint o ddrysau ac wedi cyflwyno llawer o gyfleoedd newydd i mi."

Dyma restr lawn o'r enillwyr eleni:

Safon Uwch (Gwyddorau) a Myfyriwr y Flwyddyn:
Olaf Niechcial
Safon Uwch (Dyniaethau):
Ela Rhys
Celf a Dylunio:
Catrin Williams
Busnes:
Euron Jones
Astudiaethau Plentyndod a Gofal Iechyd:
Siwan Jones
TGC
h: Dylan Jackson
Peirianneg
: Ned Pugh
Adeiladu:
Dyfan Jones
Gwallt a Harddwch:
Kaitlyn Donald
Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Taylor Rahilly
Lletygarwch ac Arlwyo:
Jack Williams
Sgiliau Byw’n Annibynnol:
James Fear
Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn:
Ela Haf Jones
Tarian Chwaraeon Robin Llŷr Evans:
Mared Griffiths
Gwobr Goffa Glesni Davies:
Cadi Davies Rogers

Canmolodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yr enillwyr, gan ddweud,

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ennill gwobr eleni. Mae wedi bod yn fraint cael cyflwyno'r gwobrau nodedig hyn i griw o fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed ac wedi dangos gymaint o ymroddiad a brwdfrydedd.

“Maen nhw'n dysteb i'n cenhadaeth o ‘Wella Dyfodol Pobl’ ac yn dysteb hefyd i gefnogaeth eu darlithwyr a'u tiwtoriaid personol. Da iawn bawb.”