Profiad gwaith pum seren i fyfyrwyr y coleg
Aeth Yuliia Batrak a Rhian James, dysgwyr o adran lletygarwch Coleg Llandrillo, i weini yng Ngwesty Cadogan yn Llundain, ac ar drên moethus British Pullman sy'n cludo teithwyr i leoliad Downtown Abbey
Cwblhaodd dau fyfyriwr o adran lletygarwch Coleg Llandrillo eu cyfnod profiad gwaith yn ddeheuig iawn, yn gweini ar westeion mewn gwesty moethus pum seren yn Llundain ac ar drên moethus.
Treuliodd Yuliia Batrak a Rhian James ddiwrnod yng Ngwesty The Cadogan, un o westai Belmond rhwng Chelsea a Knightsbridge, ble gall noson yn un o'r ystafelloedd drutaf gostio mwy na £5,000 y noson.
Yn dilyn hynny, treuliodd y ddau ddiwrnod llawn yn gweithio ar drên British Pullman cwmni Belmond, a gweini pryd canol dydd tri chwrs i deithwyr oedd yn talu £680 y pen am y profiad, a swper tri chwrs ar y daith yn ôl.
Dysgodd y myfyrwyr lawer yn ystod cyfnod profiad gwaith ac maen nhw'n edrych ymlaen at ddilyn gyrfaoedd ym maes lletygarwch.
Meddai Rhian, o Gyffordd Llandudno, sy'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Goruchwylio Bwyty: "Roedd yn wych, roedd 'na gymaint i'w ddysgu.
"Mi oedd hi'n dipyn o newid, gweithio mewn gwesty pum seren. Roedd mynd o waith rhan amser i waith o'r safon hon yn newid llwyr, ond yr hyn wnaeth fy mhlesio oedd clywed bod pawb eisiau bod yno - roedd pob un yn frwdfrydig dros y gwaith."
Meddai Yuliia, o Fae Colwyn, sy'n dilyn cwrs Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol: "Roedden ni'n cysgodi staff yn y gwesty, yn treulio cwpl o oriau ym mhob swydd. Mi weithiais i yn y bar, y bwyty, fel porthor ac yn gwneud gwaith tŷ.
"Roedd cyfle hefyd i holi llawer o gwestiynau a dysgu sut mae'r diwydiant yn gweithio ar y lefel hon. Roedd hi'n ddiddorol iawn i weld pa mor bwysig ydy'r manylion, a pha mor ganolog i bopeth ydy'r cwsmer. Mi ddysgon ni sut i gyfathrebu hefyd, a sut i ddatrys unrhyw broblem.
Hoffwn i agor fy mwyty fy hun yn y dyfodol, ac mi ges i gyfle i holi sut mae bwytai o safon Michelin yn cael eu beirniadu. Mi oedd hynny o gymorth mawr i mi ar gyfer y dyfodol."
Ar ôl diwrnod cyfan o gysgodi staff yn un o westai gorau Llundain, roedd tasg fwy heriol byth o'u blaenau, gweini chwe chwrs ar y British Pullman.
Roedd y trên moethus yn cario gwestai i Gastell Hickclere - yr ystâd eang ble ffilmiwyd Downtown Abbey - a lleoliad distyllfa Bombay Sapphire Gin yn Hampshire.
Cododd y ddau fyfyriwr yn gynnar yn y bore i ddechrau ar eu gwaith ar y British Pullman am 7.00am ac mi blesiodd sgiliau gweini Yuliia a Rhian y staff a'r teithwyr. Cawsant eu gwahodd i feirniadu cystadleuaeth dull Bake Off a gynhaliwyd ar y trên fel rhan o hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i staff.
Meddai Rhian: "Roedd yn waith caled iawn. Doedd dim amser i feddwl, ond mi wnes i fwynhau, yn fwy na'r gwesty hyd yn oed! Dw i eisiau gweithio ar longau mordeithio felly roedd hwn yn brofiad da, ac roedd pob un o'r staff yn barod iawn i gynnig cyngor i mi.
"Mi gawson ni feirniadu cystadleuaeth Bake Off a drefnwyd ar gyfer diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mi gawson ni ein cynnwys ym mhopeth.
"Mae'r coleg yn cynnig cymaint o gyfleoedd i ni, mae'n popeth yn gyffrous."
Ychwanegodd Yuliia: "Rydym wir yn ddiolchgar i'r coleg am gynnig y cyfleoedd hyn i ni. Gobeithio cawn ragor fel hyn yn y dyfodol."
Dywedodd eu tiwtor lletygarwch Glenydd Hughes : "Roedd yn braf iawn gweld y myfyrwyr wrth eu gwaith, a gweld sut roeddent yn cyfathrebu â chwsmeriaid a gyda'r holl staff.
"Roedd yn gyfle gwych i'r myfyrwyr gael profiad o rywbeth y tu hwnt i ogledd Cymru, i weld sut mae dinasoedd mawr yn gweithio a'r holl gyfleoedd sydd ar gael y tu allan i westai a bwytai hefyd.
"Mae'r coleg yn falch iawn ohonyn nhw, mi ddangoson nhw'r hyn gall myfyrwyr Llandrillo gyflawni.
Dywedodd Adam Hill, rheolwr trên British Pullman: "Roedd yn bleser croesawu'r myfyrwyr o Landrillo.
Roedd pob agwedd o'u gwaith yn ardderchog. Roedd eu gwaith a'u cwestiynau yn destun clod i'r coleg ac iddynt eu hunain. Defnyddiodd y myfyrwyr eu sgiliau i weithio gyda'r tîm a chanolbwyntio ar y grefft o gyflwyno teithio moethus. Rydw i a'r tîm yn gobeithio eu croesawu yn ôl yn fuan."
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 yn agor fis Tachwedd.