Sut y bu Lluosi o gymorth i Gwydion ennill 'A' mewn TGAU Mathemateg
Erbyn hyn mae Gwydion Evans yn edrych ymlaen at ennill mwy o gymwysterau ar ôl i’r pandemig amharu ar ei addysg
Mae Gwydion Evans, dysgwr ar y cynllun Lluosi, yn dathlu ar ôl llwyddo i gael gradd A mewn TGAU Mathemateg.
Mae’r prosiect Lluosi Rhifedd ar gyfer Byw - yn helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd, gyda mynediad at amrywiaeth o gyrsiau mathemateg AM DDIM.
Gall hefyd arwain at gymhwyster ffurfiol - a dyna ddigwyddodd ar ôl i Gwydion gael mynediad i wersi un-i-un rhad ac am ddim trwy'r cynllun Lluosi.
Ar ôl cwta dri mis o hyfforddiant, enillodd y dysgwr 19 oed radd A mewn TGAU Mathemateg, ac mae bellach wedi cofrestru ar gyfer TGAU Saesneg a TGAU Cymraeg yng Ngholeg Menai wrth iddo geisio ennill mwy o gymwysterau a gwella ei ragolygon gyrfa.
“Roeddwn i’n meddwl bod y gwersi un-i-un yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dysgu pethau’n weddol gyflym a chael cwrs wedi ei deilwra i mi ac a oedd yn gadael i mi gael gafael iawn arno,” meddai Gwydion, a gofrestrodd ar Lluosi gan fod y pandemig wedi amharu ar ei addysg.
“Roedd yna lawer o bethau wnes i golli allan arnyn nhw yn yr ysgol, a dwi'n meddwl i mi ddysgu llawer amdanaf fy hun hefyd, yn arbennig am sut rydw i'n gweithio a dysgu.”
Pan ofynnwyd iddo sut roedd yn teimlo am ennill gradd A, dywedodd Gwydion: “Ie, dwi'n eithaf hapus am hynny – dwi'n meddwl bod Lluosi wedi rhoi’r help yr oedd ei angen arna‘ i i gael y canlyniad hwn.”
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn arwain ar y prosiect Lluosi ar draws Gwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych. Roedd Gwydion yn mynychu gwersi gyda’i diwtor Kevin Mulhall yng Ngholeg Menai, yn ogystal â chael sesiynau ar-lein.
“Roedd Kevin yn diwtor ardderchog trwy hyn i gyd,” meddai Gwydion. “Dwi wedi bod ar lawer o wahanol fathau o gyrsiau yn ystod y cyfnod hwn yn fy mywyd ac mi wnes i ddarganfod bod llawer ohonyn nhw ddim yn gweithio cystal i mi, ond roedd Lluosi yn gallu cadw fy niddordeb tan y diwedd.”
Dywedodd Kevin: “Mae gradd A yn ganlyniad hollol wych, ac mae'n dangos y gall cymhelliant ynghyd ag addysgu unigol fod yn gyfuniad effeithiol.
“Mae Gwydion yn amlwg yn alluog iawn ac mae ei alluoedd wedi dod i’r amlwg y tu allan i’r lleoliad addysgol traddodiadol nad oedd yn gweddu cystal i’w arddull dysgu.
“Rwy’n credu bod ganddo gynlluniau i symud ymlaen o bosibl i Lefel A a hefyd i Addysg Uwch yn y dyfodol, ac rwy’n siŵr y bydd ei gymhelliant personol a’i allu yn ei alluogi i ffynnu a chyflawni ei nodau.”
Dywedodd Sioned Williams, Rheolwr Prosiect Lluosi: “Rydym yn hynod o falch o lwyddiant Gwydion yn sicrhau gradd A TGAU Mathemateg. Mae ei lwyddiant yn enghraifft o nod craidd y prosiect Lluosi, sef grymuso unigolion yn eu bywydau bob dydd trwy wella eu sgiliau rhifedd.
“Mae’r cyflawniad hwn yn fwy na dim ond carreg filltir i Gwydion; mae’n sylfaen a fydd yn ei alluogi i ddilyn cyfleoedd addysg bellach a chyfleoedd gyrfa. Byddwn yn annog unrhyw unigolyn 19+ oed yng Ngwynedd, Môn, Conwy neu Sir Ddinbych i gymryd rhan yn y fenter hon sy’n newid bywydau.”
Hoffech chi wella eich sgiliau mathemateg? I fod yn gymwys ar gyfer cyrsiau Lluosi trwy Grŵp Llandrillo Menai, rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn, ac yn byw yng Ngwynedd, Môn, Conwy neu Sir Ddinbych.
I wneud cais, neu i drafod sut y gall Lluosi eich helpu chi, gyrrwch neges e-bost at lluosi@gllm.ac.uk, ffoniwch 01492 542 338, neu cwblhewch y ffurflen ar-lein hon.
Ariennir y cynllun Lluosi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lluosi, cliciwch yma.