Cannoedd o fyfyrwyr yn dathlu mewn seremoni raddio yn Venue Cymru
Cyflwynwyd graddau, cymwysterau eraill lefel prifysgol a dyfarniadau proffesiynol i fwy na 400 o ddysgwyr trwy Grŵp Llandrillo Menai eleni
Dathlwyd llwyddiannau mwy na 400 o fyfyrwyr yn seremoni raddio flynyddol Grŵp Llandrillo Menai yn Llandudno.
Roedd y digwyddiad yn Venue Cymru yn uchafbwynt blynyddoedd o ymroddiad gan ddysgwyr fu'n astudio cyrsiau addysg uwch a chymwysterau proffesiynol.
Bu cannoedd yn dathlu ennill graddau israddedig a sylfaen, TAR a thystysgrifau cenedlaethol uwch yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.
Enillodd eraill gymwysterau proffesiynol trwy Busnes@LlandrilloMenai, mewn meysydd fel rheoli ac arweinyddiaeth, adnoddau dynol, cyfrifeg, marchnata a busnes.
Cafodd 24 o raddedigion raddau Anrhydedd dosbarth cyntaf, a dyfarnwyd rhagoriaethau i 51 arall yn eu graddau sylfaen, TAR, dyfarniadau proffesiynol a chymwysterau eraill.
Roedd llawer yn cydbwyso ymrwymiadau eraill megis gwaith a theulu, tra bod eraill yn dilyn eu cymwysterau er gwaethaf brwydro yn erbyn problemau iechyd. Ond llwyddodd pawb i fynd â'u haddysg a'u sgiliau i'r lefel nesaf, gan agor y drysau i yrfaoedd newydd neu wella eu rhagolygon o sicrhau dyrchafiad.
Enillodd y cyn chwaraewr rygbi gyda Gleision Caerdydd, Rhun Williams, radd BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli ym maes Adeiladu, ar ôl cofrestru ar y cwrs yn dilyn diwedd ei yrfa rygbi oherwydd anaf.
Dywedodd Rhun, o Gaernarfon: “Mae'n golygu llawer i mi fy mod wedi ennill fy ngradd. Wnes i wir ei fwynhau, ac fe ddysgais lawer iawn. Roeddwn yn falch iawn fy mod yn gweithio ochr yn ochr â'r cwrs. Roeddwn i’n dysgu yn y coleg ac yn dysgu ar y safle, bob dydd.”
Ar ôl dechrau ei gwrs yng Ngholeg Llandrillo, cafodd Rhun waith gyda chwmni John Kelly Construction Services, a dalodd ei ffioedd dysgu. Y llynedd, cyflwynwyd gwobr ansawdd i Rhun yn seremoni 'Gwobrau Balchder yn y Swydd' y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai, am ei waith gyda John Kelly Construction Services ar ddatblygiad Bro Eglwys yng Nghaernarfon.
Cwblhaodd Louise Baker, o Abergele, ei Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hithau'n disgwyl ei phlentyn cyntaf ac yn gweithio mewn cartref gofal.
Roedd ei babi, Noah, yn y seremoni lle cafodd ei fam ei gwobrwyo am ei gwaith caled yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Dywedodd Louise: “Roedd yn her ceisio jyglo’r cyfan a chael y cymhelliant i wneud gwaith cwrs. Roedd yn rhaid i mi aros ar fy nhraed yn hwyr weithiau, a thro arall roeddwn i'n gwneud gwaith yn fy nghar.
“Ond fe wnes i fwynhau’r cwrs a gwneud ffrindiau agos. Roedd fy nhiwtoriaid yn y coleg yn gefnogol iawn - fe wnaethon nhw gynnig estyniad amser i mi ond wnes i ddim ei gymryd. Fe wnes i fwrw ati.”
Astudiodd Louise y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl, cyn symud ymlaen i wneud gradd sylfaen ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.
Dywedodd: “Mae gen i dŷ gyda fy mhartner ac rydw i'n mwynhau fy ngwaith felly doeddwn i ddim eisiau symud i ffwrdd i'r brifysgol. Roeddwn i eisiau aros yn agos at fy nheulu. Byddaf yn dod yn ôl ym mis Medi i wneud fy ngradd anrhydedd.”
Enillodd Hannah Evans radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Meddai: “Dw i mor gyffrous am raddio gyda gradd dosbarth cyntaf, mae'n golygu llawer iawn i mi. Roedd y cwrs yn hollol wych, ac roedd y tiwtoriaid yn anhygoel. Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw gwneud gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol.”
Enillodd Samantha Russell radd dosbarth cyntaf hefyd, gyda'i gradd BA (Anrh) mewn Celfyddydau Coginio.
Cwblhaodd ei gradd llawn amser wrth weithio'n rhan-amser fel darlithydd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo.
Dywedodd Samantha: “Mae'r cwrs hwn wedi fy ngalluogi i ddatblygu llawer o sgiliau a gwybodaeth a fydd o ddefnydd yn fy addysgu. Fy nghynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf yw gwneud gradd Meistr yng Ngholeg Prifysgol Birmingham a chyfuno hyn ag addysgu yng Ngholeg Llandrillo.”
Graddiodd Jordan Griffiths-Bell gyda BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Chwaraeon - ar ôl gwneud cynnydd aruthrol ers dechrau yn y coleg yn astudio Lefel 1 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dywedodd Jordan, o Fae Colwyn: “Pan ddechreuais i yn y coleg doedd hi erioed yn fwriad i fynd i’r brifysgol. Roeddwn i eisiau cael cymaint o gymwysterau ag y gallwn.
“Ond ar ddiwedd fy nghwrs Lefel 3 gofynnodd fy nhiwtor ar y pryd, Gareth Harding, i mi a oeddwn wedi meddwl mynd i’r brifysgol, ac fe aeth o’r fan honno.
“Cefais gynigion i fynd i brifysgolion eraill, ond roeddwn i eisiau aros yn agos at adref, ac aros gyda’r coleg lle dechreuais ar Lefel 1.
“Roedd yn gwrs da, yn heriol ar brydiau, ond mae’r tiwtoriaid yn deall ac fe wnes i fwynhau’r rhyddid.”
Ar ôl cymryd blwyddyn i ffwrdd i deithio, mae Jordan yn bwriadu gweithio ym maes hyfforddi chwaraeon anabledd.
“Fe wnes i fy nhraethawd hir ar chwaraeon anabledd,” meddai. “Rwy’n teimlo nad oes llawer o ymwybyddiaeth am chwaraeon anabledd ac rydw i am helpu i newid hynny.”
Cwblhaodd Hannah Hughes, o Fethel ger Caernarfon, ei TAR tra'n disgwyl babi.
Dywedodd: “Mae wedi bod yn heriol ar adegau wrth gydbwyso astudio, addysgu a pharatoi ar gyfer bod yn fam.
“Er hynny, roedd yn werth chweil cwblhau’r cwrs ochr yn ochr â darpar addysgwyr eraill, sydd i gyd wedi bod yn gymorth enfawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae fy nghwrs wedi bod yn daith drawsnewidiol, gan roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r angerdd i mi ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf.
“Mae cefnogaeth ac arweiniad diwyro fy nhiwtoriaid wedi bod yn allweddol wrth lunio fy natblygiad fel addysgwr a hoffwn ddiolch i Grŵp Llandrillo Menai am y cyfle i gael datblygiad proffesiynol parhaus.”
Dathlodd Sallie Roberts, darlithydd yng Ngholeg Glynllifon, gwblhau ei chwrs TAR.
Meddai: “Dw i'n falch iawn o fod wedi cwblhau’r cwrs TAR. Dw i wedi mwynhau cyfarfod â phobl sy'n addysgu mewn gwahanol feysydd a dw i wedi gwneud cysylltiadau da o fewn y byd addysg.
“Mae’r cwrs yma wedi datblygu fy sgiliau addysgu ac wedi fy ngwneud yn fwy hyderus wrth ddefnyddio dulliau addysgu newydd yn fy rôl fel darlithydd ym maes amaeth yng Ngholeg Glynllifon.”
Cwblhaodd Chloe Jones, o Landudno, ei Thystysgrif Lefel 4 mewn Marchnata Digidol gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).
Dywedodd: “Mae derbyn cymhwyster gan y Sefydliad Marchnata Siartredig yn gyflawniad gwych. Roedd sesiynau fy nhiwtor, Andrea Adams, yn llawn deunyddiau darllen craff, gwaith grŵp a gwybodaeth i gefnogi fy astudiaethau. Roedd hi hefyd yn cynnig sesiynau un i un defnyddiol iawn i roi arweiniad ychwanegol fel bo’r angen i gwblhau'r aseiniadau ar amser ac i safon uchel.
“Gan fy mod yn gweithio ym maes marchnata ar hyn o bryd, mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r cyfle i mi gryfhau fy sgiliau presennol a chael gwybodaeth ehangach yn y diwydiant marchnata digidol. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y cwrs hwn yn fy nghefnogi ymhellach yn fy ngyrfa a’m dyfodol.”
Meddai Aled-Jones Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Roedd yn bleser cynnal ein seremoni raddio ar gyfer 2024 – llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr ar eu cyflawniadau. Dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at glywed i ble mae eu gyrfa yn mynd â nhw.
"Mae Grŵp Llandrillo Menai'n parhau i ymestyn ei bortffolio o gyrsiau Addysg Uwch, ac rydym yn falch o fod y darparwr mwyaf ac yr un sy'n cynnig yr amrywiaeth fwyaf o gyrsiau Addysg Uwch o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru.
Ydych chi eisiau gwella eich gyrfa a chyfleoedd dyrchafiad? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cymwysterau lefel uwch helaeth, gan gynnwys Graddau Sylfaen ac Anrhydedd, a ddilysir gan Brifysgol Bangor yn bennaf. Cliciwch yma i ddysgu mwy