'Dylai unrhyw un sy'n frwd dros ffitrwydd ystyried y cwrs - rydych chi'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl'
Y mis hwn, bydd Sam Downey, darlithydd a hyfforddwr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, yn arwain cwrs hyfforddwr ffitrwydd Lefel 2 newydd Coleg Llandrillo
Mae Coleg Llandrillo yn cynnig cwrs hyfforddwr ffitrwydd newydd o fis Ionawr - ac mae'r darlithydd Sam Downey yn brawf o'r drysau y gall y cwrs eu hagor.
Mae Sam yn hyfforddwr perfformiad ar gyfer timau pêl-droed dan-14 a dan-13 Cymru, a chafodd hefyd ei alw i dîm hyfforddi'r dynion dan 17 ar gyfer Pencampwriaethau Ewropeaidd yng Nghyprus yr haf diwethaf.
O Ionawr 22, bydd y cyn pêl-droediwr proffesiynol yn arwain cwrs Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2 Coleg Llandrillo - yr un cymhwyster a roddodd gychwyn i'w yrfa ei hun.
“Mae’n ffordd dda iawn o gael eich troed i mewn yn y diwydiant ffitrwydd,” meddai Sam, sydd bellach yn chwarae i Gaernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru. “Mae’n trafod anatomeg, ffisioleg, maeth, iechyd a diogelwch, a gwasanaeth i gwsmeriaid.
“Y nod yn y pen draw yw rhoi’r cymhwyster i chi arwain grwpiau bach mewn dosbarthiadau ffitrwydd, sy’n beth poblogaidd iawn y diwydiant ar hyn o bryd. Mae yna lwyth o swyddi yn chwilio am hyfforddwyr ffitrwydd i arwain amrywiaeth o wahanol ddosbarthiadau, felly mae'n rhoi'r wybodaeth sylfaenol i'ch galluogi i fynd i wneud hynny."
Dywed Sam fod y cwrs yn ddelfrydol ar gyfer pobl o unrhyw oedran sydd eisiau gweithio yn y diwydiant ffitrwydd - p'un a ydyn nhw'n cychwyn ar eu gyrfa, yn newid gyrfa, neu eisiau troi eu hobi yn ffynhonnell incwm ychwanegol.
Ychwanegodd: “Yr hyn nad yw pobl efallai'n ei sylweddoli ydy ei fod yn rhywbeth hawdd iawn i'r rhai sydd eisoes mewn gyrfaoedd i ychwanegu at eu bywyd o ran ennill y cymhwyster hwn ac yna gweithio'n rhan-amser yn y gampfa.
“Mae bod yn hyfforddwr yn talu'n dda, a dylai unrhyw un sy'n frwd dros ffitrwydd ei ystyried o ddifrif. Dydi o ddim yn ormod o faich, mi allech chi gynnig dau neu dri dosbarth yr wythnos, ac os ydych chi'n mynd i’r gampfa beth bynnag, y gwahaniaeth ydy eich bod yn cael eich talu am fynd!”
Enillodd Sam y cymhwyster Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2 tra roedd yn chwarae pêl-droed proffesiynol yn ei arddegau, ac mae wedi llunio llwybr ei yrfa ers hynny.
Lluniau: FAW
“Dyma sut es i i’r diwydiant yn 17 oed,” meddai. “Mi wnes i adael yr ysgol yn 16 oed i ymuno â thîm pêl-droed Lincoln City ar gytundeb ieuenctid, ac fel rhan o’r rhaglen yno ro'n i'n gwneud un diwrnod yr wythnos yn y coleg.
"Felly mi wnes i gwrs Lefel 3 Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) a dyna'r cwrs rydw i rŵan yn ei arwain yng Ngholeg Llandrillo. Ar y cwrs roedden nhw hefyd yn cynnig y cymhwyster Lefel 2 mewn hyfforddi ffitrwydd.
“Felly mi wnes i'r cwrs er mwyn ei gael wrth gefn, oherwydd ar y pryd do'n i ddim ei angen o. Ond mae'r cymhwyster wedi bod yn allweddol i'r yrfa rydw i wedi ei chael ers hynny.”
Ar ôl gadael Lincoln City, chwaraeodd Sam yn broffesiynol yn Sweden a Gwlad yr Iâ, cyn astudio gradd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff ym Mhrifysgol Loughborough, lle dechreuodd ymddiddori mewn hyfforddi ar gyfer cryfder a chyflyru (S&C).
“Yn Loughborough rydych chi wedi'ch amgylchynu gan yr holl hyfforddwyr S&C gorau, felly cefais fy nenu ato,” meddai.
Ar ôl graddio, astudiodd Sam gwrs TAR yng Ngholeg Llandrillo. Galluogodd ei gymhwyster Hyfforddwr Campfa Lefel 2 iddo weithio fel hyfforddwr ffitrwydd yn DW Sports, lle gofynnwyd iddo fod yn hyfforddwr personol. Roedd yn cyflwyno 20 i 30 o ddosbarthiadau'r wythnos a hyn oedd ei brif incwm iddo wrth hyfforddi i fod yn athro.
Ar ôl cymhwyso, dechreuodd Sam ddysgu'n llawn amser yng Ngholeg Llandrillo, gan ddod yn hyfforddwr cryfder a chyflyru ar gyfer academi pêl-droed y coleg hefyd. Tua'r un pryd, daeth yn chwaraewr-hyfforddwr yng Nghlwb Pêl-droed Bae Colwyn. Cafodd ei ddawn ei gweld, a chafodd wahoddiad i ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Fi ydy hyfforddwr perfformiad y grwpiau oedran dan 14 a dan 13 sy’n hyfforddi ym Mharc y Glowyr yn Wrecsam,” meddai. “Mae'n golygu gofalu am gryfder a chyflyru, paratoi, optimeiddio, ac adferiad.
“Rydyn ni’n cynnal llawer o brofion ffitrwydd, gan ddatblygu proffil ar gyfer ein chwaraewyr cenedlaethol fel pan maen nhw’n cyrraedd lefel D17 a D18, mae gennym ni hanes cefndir da iawn o’u cynnydd.”
Ar ôl creu argraff yn y rôl hon, gofynnwyd i Sam ymuno â charfan y dynion dan 17 ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop yng Nghyprus, lle'r oedd Cymru’n wynebu gemau heriol yn erbyn Awstria, Croatia, a Denmarc.
“Dyma’r tro cyntaf erioed iddyn nhw gyrraedd Pencampwriaeth Ewrop felly roedd yn brofiad da iawn,” meddai Sam, a oedd yn gallu defnyddio ymchwil Prifysgol Bangor oedd yn cael ei ddysgu yng Ngholeg Llandrillo yn ystod ei amser gyda’r garfan.
“Fi oedd yr ymarferydd ar gyfer strategaethau adfer, strategaethau optimeiddio, cryfder a chyflyru - ond fy mhrif rôl oedd cyflwyno strategaethau ar ymgynefino â gwres. Mae'r bechgyn yn chwarae mewn clybiau yn Lloegr felly dydyn nhw ddim wedi arfer â gwres, ac un o'r prif faterion o safbwynt gwyddor chwaraeon ydy sicrhau bod y chwaraewyr yn barod i ddelio â'r amgylchedd y maen nhw ynddo.
“Felly gofynnwyd i mi fynd i mewn ac arwain y strategaethau ymgynefino â gwres. Ymchwil a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor oedd hwn, ac mae Steve Kehoe yn ei arwain a’i gyflwyno yma yn y coleg yn yr uned ffisioleg uwch ar y cwrs gradd Gwyddor Chwaraeon. Roedd yn beth braf gallu rhoi ymchwil a ddatblygwyd yma ar waith ar y lefel honno.”
Mae Sam hefyd yn lansio ei fusnes ei hun yn cynnig cymorth gwyddor chwaraeon i dimau pêl-droed lled broffesiynol ledled Cymru, mewn partneriaeth â ffisiotherapydd CBDC, Ritson Lloyd.
Ond er ei fod wedi casglu digon o brofiad yn gweithio gyda mabolgampwyr elitaidd, mae'r un mor hapus yn helpu pobl gyffredin i gyflawni eu nodau ffitrwydd, ac mae'n teimlo mai dyma un o'r agweddau mwyaf gwerth chweil o fod yn hyfforddwr ffitrwydd.
“Yn y diwydiant ffitrwydd rydych chi’n dod ar draws pob math o unigolion – o bobl sydd erioed wedi bod mewn dosbarth ffitrwydd o’r blaen, i athletwyr lefel uchel,” meddai. “Mae hynny'n gallu bod yn heriol ond dyna sy'n ei ysgogi chi ac yn rhoi mwynhad i chi yn eich gwaith - oherwydd rydych chi'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
“I'r person hwnnw yn y dosbarth sydd erioed wedi bod mewn campfa o'r blaen, efallai mai chi yw'r peth pwysicaf yn eu diwrnod, oherwydd rydych chi'n rhoi'r hyder iddyn nhw wneud rhywbeth hollol newydd. Rydych chi'n cael cyfarfod â phobl sy'n dibynnu arnoch chi er mwyn gwella eu hiechyd a'u llesiant, ac mae'n ddiwydiant gwerth chweil i fod yn rhan ohono.”
Ydych chi wedi gwirioni ar ffitrwydd? Ydych chi eisiau helpu eraill i gyflawni eu nodau iechyd? Mae cwrs Tystysgrif Lefel 2 Hyfforddwr Ffitrwydd Coleg Llandrillo sy'n cychwyn dechrau ar 22 Ionawr, yn fan cychwyn perffaith i'ch gyrfa. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.