Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Iestyn a'i waith fel arbenigwr pwnc gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd y darlithydd o Goleg Meirion-Dwyfor yn gwneud ymchwil pwysig i'r ddarpariaeth addysg ym maes adeiladu yng Nghymru

Mae Iestyn Worth, darlithydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wedi cael ei benodi'n arbenigwr pwnc ym maes adeiladu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd Iestyn, sy'n dysgu ar y cwrs plymio ar gampws CaMDA yn Nolgellau, yn cyflawni gwaith fydd yn edrych ar ffyrdd o wella'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes adeiladu.

Fel rhan o'i waith bydd Iestyn yn gwneud gwaith ymchwil ar yr adnoddau Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael i gyd-fynd â'r cymwysterau presennol, gyda ffocws arbennig ar feysydd plymio, plastro a gwaith brics.

Bydd yn mynd ati i werthuso addasrwydd y deunyddiau presennol a nodi ble mae bylchau yn y ddarpariaeth, er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr adnoddau sy'n cwrdd â'u hanghenion dwyieithog.

Dywedodd Iestyn: "Mi wnes i wneud cais am y swydd hon, sy'n canolbwyntio ar wella'r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ym maes adeiladu, ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2023/24

"Mae'r gwaith yn cyd-fynd â'r gwaith ymchwil dw i'n ei wneud ar y cwrs MA mewn Astudiaethau Addysg, sef archwilio'r heriau sy'n wynebu darlithwyr addysg bellach wrth iddynt baratoi a chyflwyno darlithoedd yn y ddwy iaith.

"Mae'r Gymraeg yn bwysig iawn i mi ac roeddwn i'n gweld hyn fel cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad yr iaith ym maes addysg bellach ym mhob cwr o Gymru."

Mae Iestyn yn darlithio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ers dros wyth mlynedd, ac mi fydd yn cyflawni ei rôl gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ystod ei oriau digyswllt.

Mae prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys:

  • Ymgynghori â darlithwyr ym mhob cwr o Gymru
  • Dadansoddi adnoddau i weld pa mor addas ydyn nhw ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog.
  • Mapio adnoddau sy'n berthnasol i gymwysterau blaenorol a nodi meysydd i'w datblygu.
  • Llunio adroddiad terfynol gydag argymhellion i gefnogi datblygiad adnoddau Cymraeg a dwyieithog

O ganlyniad i waith Iestyn, bydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyfres o argymhellion, â sail resymegol iddynt, ar ffyrdd i ddarparu adnoddau addysgiadol fydd yn cwrdd ag anghenion dysgwyr. Defnyddir y rhain i gefnogi ceisiadau am arian gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu ac yn hyrwyddo cyfleoedd i hyfforddi ac astudio yn Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, ysgolion, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr.

Nod y Coleg ydy ysbrydoli ac annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau iaith Gymraeg a chreu gweithlu dwyieithog ym mhob maes, yn cynnwys maes addysg.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date