Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Illia yn sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen

Mae gŵr ifanc 20 oed o Kyiv yn yr Wcráin wedi cymryd blwyddyn allan o addysg ar ôl cwblhau ei lefel A yng Ngholeg Llandrillo'r llynedd, ac ar hyn o bryd mae yn Llundain yn helpu ffoaduriaid o bob rhan o'r byd

Mae Illia Chkheidze wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen ar ôl cwblhau ei arholiadau Lefel A yng Ngholeg Llandrillo'r llynedd.

Cafodd y llanc 20 oed o Kyiv yn yr Wcráin, A* mewn Mathemateg, A mewn Mathemateg Bellach ac A mewn Cemeg.

Mae wedi derbyn cynnig i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yng ngholeg Eglwys Crist y flwyddyn nesaf ar ôl gwneud cais yn ystod ei flwyddyn i ffwrdd.

"Dw i'n teimlo'n gyffrous," meddai Illia. “Dw i wedi bod yn dysgu Saesneg ers pan o'n i ym Mlwyddyn 1 yn yr ysgol, ac mae mynd i Rydychen, sy’n fyd-enwog a’r brifysgol hynaf Saesneg ei hiaith, yn anhygoel.”

Symudodd Illia i Ogledd Cymru gyda’i deulu ar ôl i Rwsia ymosod ar yr Wcrain yn 2022.

Ar ôl dwy flynedd yng Ngholeg Llandrillo, mae bellach yn byw yn Llundain, lle mae'n cefnogi cymunedau yn ei rôl fel Swyddog Integreiddio ac Ailsefydlu ar gyfer Bwrdeistref Frenhinol Kingston upon Thames.

Mae ganddo brofiad blaenorol o gefnogi pobl sy’n ceisio lloches yn y Deyrnas Unedig, ar ôl cyfuno ei astudiaethau coleg â gweithio i Gyngor Sir Ddinbych fel dehonglydd, gweithiwr achos ailsefydlu, a gweithiwr achos ar gyfer cyflogaeth.

Fis nesaf, bydd Illia yn mynd i Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn y Senedd, ar ôl cael gwahoddiad gan Gill German, AS Gogledd Clwyd.

Dywedodd Illia: “Dw i'n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl sy’n newydd i’r wlad 'ma. Maen nhw'n awyddus i ddysgu Saesneg a dod o hyd i waith - mae llawer ohonyn nhw'n cyflawni hyn o fewn eu mis cyntaf yma.

“Dw i'n falch iawn o allu cefnogi’r gymuned Wcrainaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae'n werth chweil gweld sut mae pobl yn integreiddio i gymdeithas Prydain, ac wrth ddysgu pethau newydd, maen nhw'n parhau i gyfrannu mewn ffyrdd ystyrlon."

Daeth Illia a’i deulu i Ogledd Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a addawodd gefnogi hyd at 1,000 o bobl o'r Wcráin i ddod o hyd i lety yng Nghymru. Yn y pen draw llwyddodd i ragori ar y targed hwnnw.

“Dw i’n meddwl iddyn nhw wneud gwaith ardderchog yn ein cefnogi ni, ac rydyn ni i gyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth gawson ni,” meddai Illia.

Dechreuodd Illia astudio cyrsiau Lefel AS mewn Mathemateg, Ffiseg a Chemeg ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl ym mis Medi 2022, ochr yn ochr â'i waith i Gyngor Sir Ddinbych.

Ar ôl blwyddyn penderfynodd ei fod eisiau astudio Mathemateg Bellach yn hytrach na Ffiseg. Llwyddodd i gwblhau dwy flynedd y cwrs Mathemateg Bellach mewn un flwyddyn ar gampws Llandrillo-yn-Rhos - gan wneud ei ganlyniadau lefel A trawiadol hyd yn oed yn fwy rhyfeddol.

“Roedd yr amgylchedd yn gefnogol iawn,” meddai Illia. “Pan ddes i i'r Deyrnas Unedig ro'n i'n anelu at fynd yn syth i'r brifysgol, oherwydd roeddwn i eisoes wedi graddio o'r ysgol uwchradd yn yr Wcráin. Ond mae ein system ysgol ni flwyddyn yn fyrrach, felly nid oedd yn ddigon academaidd.

“Roedd bod yn y coleg o fantais i mi oherwydd ro'n i’n gallu gwella fy Saesneg drwy siarad ag athrawon a chyd-ddisgyblion, a thrwy fod yn rhan o’r gymuned yma yng Ngogledd Cymru.

“Felly dw i'n teimlo’n llawer mwy hyderus yn mynd i’r brifysgol nag y byddwn wedi bod ddwy neu dair blynedd yn ôl.”

Mae Illia yn dychwelyd i’r Rhyl yn rheolaidd i ymweld â theulu a ffrindiau, dywedodd: “Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd yng Nghymru. Dw i'n mwynhau cerdded ar lan y môr rŵan - doedd gennym ni ddim môr lle ro'n i'n byw yn yr Wcráin, felly roedd hynny'n beth newydd! Roedd yn amser gwych i astudio oherwydd doedd 'na ddim byd i dynnu fy sylw. Ro'n i'n gallu canolbwyntio'n llwyr ar fy astudiaethau."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Rwy'n llongyfarch Illia yn gynnes ar ei ganlyniadau Safon Uwch rhagorol a'r holl bethau mae wedi eu cyflawni ers cyrraedd Cymru. Mae ei lwyddiant, yn academaidd ac wrth helpu ffoaduriaid eraill trwy ei waith, yn dangos beth all rhywun ei gyflawni pan fydd yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir. Rwy'n dymuno'n dda iddo yn ei astudiaethau.

"Ers ymosodiad llawn Rwsia ar Wcráin ym mis Chwefror 2022, rydym wedi croesawu tua 8,000 o bobl o Wcráin i Gymru. O'r funud maen nhw’n cyrraedd, rydym am i bawb sy'n ceisio noddfa deimlo'n ddiogel, a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn rhan o'n cymuned, a’u bod yn gallu ailadeiladu eu bywydau a pherthyn go iawn."

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Dai a Chymunedau: “Mae Sir Ddinbych wedi creu awyrgylch cynnes a chroesawgar i’r rhai sydd wedi dod yma i geisio lloches.

“Mae'r ffaith Illia fod wedi cyflawni cymaint mewn amser mor fyr yn glod i benderfyniad pobl ifanc fel fo sydd wedi bod trwy gyfnod mor gythryblus yn eu gwlad eu hunain, ac sydd wedi gorfod symud ymhell oddi wrth bopeth sy'n gyfarwydd iddyn nhw ar fyr rybudd.

“Mae angen diolch hefyd i ysgolion a cholegau lleol am gefnogi disgyblion fel Illia. Mae ei stori wir yn ysbrydoliaeth, ac yn gosod esiampl dda i holl bobl ifanc Sir Ddinbych sydd mewn addysg ar hyn o bryd.”

Ydych chi eisiau astudio cyrsiau Lefel A? Mae canolfannau Chweched Dosbarth Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig mwy na 30 o bynciau, ac yn lle gwych i wneud ffrindiau newydd ac ennill annibyniaeth. Dysgwch ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date