Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diwydiant, hanes a diwylliant mewn taith gwerth chweil i'r Almaen

Aeth myfyrwyr peirianneg o Goleg Menai i ymweld â gwneuthurwr byd-enwog yn yr Almaen a chawsant hefyd weld safle hanesyddol rali Nuremberg

Cafodd y myfyrwyr peirianneg o Goleg Menai brofiad gwerthfawr o'r byd go iawn pan ymwelon nhw â'r gwneuthurwr gwydr byd-enwog HeinzGlas yn yr Almaen.

Cafodd y myfyrwyr y cyfle anhygoel hwn, a ariannwyd yn hael gan gynllun Turing trwy Colegau Cymru, yn rhad ac am ddim.

Aeth 17 o ddysgwyr brwd yr adran, sy'n dilyn cyrsiau amrywiol gan gynnwys peirianneg, cerbydau modur, weldio, peirianneg awyrennol a chwaraeon moduro, ar y daith bythefnos o hyd.

Roedd gweithgareddau addysgol a diwylliannol amrywiol ar y daith, gan roi darlun llawn i fyfyrwyr o ddiwydiant a'r diwylliant lleol.

Ymwelodd y myfyrwyr â chwmni enwog HeinzGlas - arweinydd byd-eang ym maes gweithgynhyrchu gwydr a ganmolir am ei dechnoleg a’i gynhyrchion arloesol ynghyd â'i ymrwymiad i gynaliadwyedd a rhagoriaeth.

Roedd y profiad yn HeinzGlas yn cynnwys taith gynhwysfawr o amgylch ffatri Kleintettau a sawl safle arall, gan gynnwys yr arbenigwyr addurno Roser, a digon o gyfle i gael profiad ymarferol o ddefnyddio peiriannau robotig. Cafodd y myfyrwyr gyfle i ryngweithio â'r hyfforddeion, a’r pleser o ymweld â'r amgueddfa wydr.

Roedd yr ymweliad â’r Tropenhaus, a gynhesir gan wres gweddilliol o ffwrneisi HeinzGlas, yn arbennig o ddiddorol. Wedi’i ysbrydoli gan yr Eden Project, mae’r Tropenhaus hefyd yn safle ar gyfer prosiectau ymchwil prifysgol, ac roedd y myfyrwyr yn gyffrous i archwilio ei ecosystem unigryw, gan gynnwys rhai nadroedd diddorol.

Un o’r adegau mwyaf ysbrydoledig ar y daith oedd pan gafodd y myfyrwyr gyfle i siarad ag Aaron Thomas, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai. Cymerodd Aaron ran mewn taith debyg ychydig flynyddoedd yn ôl, ac yn dilyn hynny cynigiwyd swydd llawn amser gyda HeinzGlas iddo.

Mae ei lwyddiant yn ysgogiad pwerus i’r myfyrwyr presennol, gan arddangos y cyfleoedd gyrfa posibl a allai ddeillio o brofiadau o’r fath.

Yn ystod pryd o fwyd gyda Phrif Weithredwyr HeinzGlas a Roeser, cymerodd y myfyrwyr ran eiddgar mewn trafodaethau a hyd yn oed rhoi cynnig ar fersiwn Mr. Heinz o wyddbwyll. Gadawodd eu chwilfrydedd a'u parodrwydd i ofyn cwestiynau argraff gadarnhaol ar eu gwesteiwyr.

Un arall o’r uchafbwyntiau oedd taith gerdded o amgylch safle hanesyddol Rali'r Natsïaid yn Nuremberg, a roddodd ddealltwriaeth ddofn o hanes yr ardal. Dilynwyd hyn gan ginio traddodiadol yn un o dai bratwurst hynaf yr Almaen.

Mwynhaodd y myfyrwyr benwythnos prysur yn llawn bowlio, nofio, sesiynau campfa, ac ymweliadau â threfi lleol gan gynnwys Bamberg a Kronach, gan orffen eu taith addysgol gyda gweithgareddau hamdden.

Cafodd y myfyrwyr groeso cynnes gan eu gwesteiwyr, a chyflwynwyd anrhegion meddylgar iddynt trwy gydol y daith, gan gynnwys persawr, gwelltyn gwydr, mwg gwydr, jam cartref o'r Tropenhaus a hyd yn oed buwch yr Ucheldiroedd!

Ymunodd Emma Owen, swyddog lleoliad gwaith gyda Busnes@Llandrillo Menai, â’r dysgwyr ar y daith a dywedodd: “Rydyn ni’n hynod falch o’n myfyrwyr ac yn ddiolchgar am y cyfle eithriadol hwn a ddarparwyd gan gynllun Turing a’n gwesteiwyr.

“Mae’r daith i’r Almaen a’r ymweliad â HeinzGlas wedi rhoi mewnwelediadau a phrofiadau ymarferol iddynt a fydd o fudd mawr i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Wrth i’r myfyrwyr symud ymlaen i’w camau nesaf, bydd rhai yn dechrau eu teithiau prentisiaeth gyda ni a chyflogwyr lleol. Bydd eraill yn parhau â'u rhaglenni llawn amser. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn gobeithio dychwelyd i HeinzGlas ar gyfer hyfforddeiaeth llawn amser.

“Mae Coleg Menai hefyd wedi estyn gwahoddiad i HeinzGlas ymweld â Chymru a’r Ganolfan STEM o’r radd flaenaf ar ein campws yn Llangefni. Rydyn ni’n gobeithio y byddant yn derbyn ein gwahoddiad, gan ganiatáu i ni gyfnewid mwy o wybodaeth a meithrin cydweithredu pellach yn y diwydiant.

“Wrth i ni edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig i’r dysgwyr dawnus hyn, rydyn ni'n gyffrous am y posibiliadau a’r datblygiadau arloesol y byddant yn eu cyflwyno i’r maes peirianneg.

“Mae Coleg Menai wedi ymrwymo i ddarparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf, gan arfogi myfyrwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus. Mae gan ein campws yn Llangefni gyfleusterau o’r radd flaenaf ac amgylchedd dysgu cefnogol, sy’n hanfodol ar gyfer meithrin gweithlu’r dyfodol.”

Dywedodd rhieni’r myfyrwyr bod y daith wedi bod yn ysbrydoledig, ysgogol ac yn brofiad unwaith mewn oes.

Meddai un: “Mae’r profiad a gafodd fy mab o fynd i’r Almaen gyda’r coleg wedi agor ei lygaid i’r dyfodol a’r hyn y gallai ei wneud os yw’n rhoi ei feddwl arno. Mi wnaeth fwynhau'r daith yn fawr iawn.”

Dywedodd un arall: “Dw i wastad wedi dweud wrth fy mab, mae gwaith caled yn talu ar ei ganfed. Ac roedd cael ei ddewis i fynd ar y daith hon yn enghraifft wych o hyn. Roedd yn daith a hanner, wedi'i chynllunio'n dda ac wedi'i gweithredu'n llwyddiannus. Cafodd y bobl ifanc y gofal gorau a chyfleoedd na fyddent byth yn eu cael fel arall.

“Mae wedi agor ei lygaid i’r posibiliadau diddiwedd sydd ar gael a hoffwn ddiolch i’r coleg am y gofal a’r sylw cyn, yn ystod ac ar ôl y daith.”

Ychwanegodd rhiant arall: “Rhoddodd y daith hon obaith a chymhelliant i fy mab ar gyfer ei ddyfodol. Profiad gwirioneddol wych iddo. Diolch i’r coleg.”

Dywedodd un arall: “Dyma’r tro cyntaf erioed i fy mab fynd dramor. Roeddwn yn bryderus ond eto'n falch. Gwnaeth y grŵp sgwrsio rhieni i mi deimlo'n llai pryderus a chawsom ein diweddaru bob dydd. Roeddwn i wrth fy modd yn gweld y lluniau a'r fideos - dysgais rywbeth newydd hyd yn oed! Cawsant oll bryd o fwyd ac anrhegion bendigedig.

“Cawsant brofiad anhygoel na fyddant byth yn ei anghofio. Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran. Diolch yn fawr.”

Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm â pheirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yma.

Pagination