Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Jack i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Gweinydd Ifanc y Byd

Ar ôl iddo ennill rownd derfynol Cymru, bydd y cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor yn cystadlu am wobr ariannol o $15,000 yn Singapore

Ym mis Tachwedd bydd Jack Williams, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Gweinydd Ifanc y Byd.

Yn ddiweddar enillodd y gŵr ifanc 18 oed o Ddolgellau rownd derfynol Cymru yn Abertawe, a bydd yn teithio i Singapore i gystadlu am wobr ariannol o $15,000 UD.

Astudiodd Jack gwrs Lefel 2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, ac mae'n gweithio yng Ngwesty Penmaenuchaf ger ei dref enedigol.

Ychydig fisoedd yn unig ar ôl gorffen yn y coleg, mae ar fin cystadlu yn erbyn y gweinyddion ifanc gorau o bob rhan o'r byd.

Lluniau: Aled Llywelyn

“Do'n i ddim yn gallu credu 'y mod i wedi ennill i ddechrau,” meddai Jack. “Dim ond ers dechrau yn y coleg ddwy flynedd yn ôl dwi wedi bod yn y byd lletygarwch, a ro'n i’n cystadlu yn erbyn rhai pobl brofiadol iawn. Fi oedd yr ieuengaf yno - pan ofynnodd pawb faint oedd fy oed doedden nhw ddim yn credu mai dim ond 18 o'n i!

“Wnes i ddim mynd yno yn meddwl y byddwn i’n ennill. Ro'n i yno am y profiad ac i gymryd y cyfan i mewn. Felly dwi'n falch iawn o fod yn mynd i Singapore, a dwi'n croesi fy mysedd y gallwn ni ddod a'r fuddugoliaeth yn ôl i Gymru.”

Cynhaliwyd rownd derfynol Cymru'r gystadleuaeth Cogydd Ifanc/Gweinydd Ifanc/Cymysgegydd Ifanc gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Trefnwyd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn dimau o dri, yn cynnwys cogydd, gweinydd a chymysgydd, a oedd wedyn yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r profiad cwsmer gorau, wrth gael eu beirniadu yn eu categorïau unigol.

Rhoddwyd bocs o gynhwysion i bob tîm, a’r dasg o greu pryd tri chwrs ynghyd ag aperitifs i’w gweini i bedwar gwestai a beirniad o fewn ffrâm amser o ddwy awr.

Fe'u barnwyd nid yn unig ar ansawdd y bwyd a'r gwasanaeth, ond hefyd ar gynaliadwyedd - felly roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio'r holl gynhwysion, gan gynnwys unrhyw sbarion.

Ymunodd Jack â’r cogydd Dalton Weir, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo sydd bellach yn The Toad yn Llandrillo-yn-Rhos, a’r cymysgydd James Borley, sy’n gweithio mewn bar coctel poblogaidd yng Nghaerdydd.

Gweinodd y tri: gwrs cyntaf o gegddu mewn saws gwin gwyn, yna prif gwrs o ffiled cig eidion gyda moron wedi'u stwffio mewn jus gwin coch, ac ar gyfer pwdin, tatin afal gyda chrwst pwff, afalau troellog a salad afal.

Rhagorodd y tîm cyfan, gyda James hefyd yn ennill ei gategori, tra gorffennodd Dalton yn ail i’r cogydd Alex Dunham. Mae Alex yn gweithio ym mwyty Seren Michelin Whitebrook yn Nhrefynwy a bydd yn ymuno â Jack a James yn Singapore.

Roedd Rob Griffiths, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr Coleg Meirion-Dwyfor, ac sy'n gweithio yn y Penmaenuchaf gyda Jack yn cystadlu hefyd.

Diolchodd Jack, a enillodd Wobr Cyflawnwr yr adran Lletygarwch ac Arlwyo yn y coleg y llynedd, i'w gyn-diwtoriaid Jo Reddicliffe, Elaine Evans a Mair Jones am bopeth yr oeddent wedi'i ddysgu iddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Roedd yr holl hyfforddiant ges i ganddyn nhw dros y ddwy flynedd o gymorth mawr,” meddai Jack. “Hyd yn oed y manylion bach 'na fyddai cwsmeriaid ddim yn sylwi arnyn nhw oni bai eu bod yn chwilio.

“Mi wnes i fwynhau’r cwrs yn arw. Ro'n i'n gyffrous i ddod i'r coleg, a phan wnes i gyfarfod ag Elaine, Mair a Jo, ro'n i'n gallu dweud eu bod yn gwybod am beth roedden nhw'n siarad.

“Ro’n i’n hoff iawn o’r ochr ymarferol, gweini cwsmeriaid ar y dydd Iau, coginio iddyn nhw ar y dydd Gwener, a gweithio tuag at arholiadau tra ro'n i'n gwneud hyn.

“Dysgais sut i wneud coctels am y tro cyntaf yn y coleg, ac roedd sesiynau dysgu am goffi a the, o ble y daethant yn wreiddiol - roedd cymaint o wybodaeth ddefnyddiol ar bethau fel hyn.

“Roedd yr ail flwyddyn yn wych; cyfarfod â myfyrwyr newydd oedd yn dod â'u gwybodaeth eu hunain. Roeddan ni'n gwneud yr un gwasanaethau ond i lefel fwy heriol, a oedd yn grêt oherwydd do'n i ddim eisiau bod yn gwneud yr un peth am ddwy flynedd.

“Dw i’n dal i siarad â’r tiwtoriaid ac mae gen i gysylltiad â’r coleg. Mae gen i ffrindiau yno sy'n gwneud Lefel 3, ac efallai y bydda i'n dod yn ôl i wneud hynny mewn cwpl o flynyddoedd. Roedd yn anhygoel, dwy flynedd wych.”

Mae Jack hefyd yn ddiolchgar i bawb yn y Penmaenuchaf, gan gynnwys Christie Hayes, y rheolwr cyffredinol, Georgia Wild, rheolwr y bwyty, a'r prif gogydd, Tom Hine. Mae wedi bod yn gweithio yn y gwesty ers ychydig dros flwyddyn, ar ôl cael y swydd trwy'r coleg ar ôl i'w ddosbarth dreulio diwrnod yno yn dysgu gan Tom.

“Dw i'n gweithio y bwyty a'r gegin, a dw i wrth fy modd oherwydd mae'n golygu 'mod i ddim yn diflasu,” meddai Jack. “Dw i’n cyfarfod â phobl newydd bob dydd, a dyna be' dwi'n fwynhau.”

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg! Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser. Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses ⁠i gael rhagor o wybodaeth