Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Jonathan a Rhodri wedi eu henwebu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Conwy

Mae Jonathan, sy’n astudio cwrs Gradd mewn Gwyddor Chwaraeon wedi’i enwebu fel Hyfforddwr y Flwyddyn, tra bod Rhodri ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llwyddiant Arbennig

Mae myfyriwr yng Ngholeg Llandrillo, Jonathan Burgess, a'r darlithydd Rhodri Davies ymhlith yr enwebeion ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Conwy eleni.

Mae’r gwobrau, sy'n cael eu cynnal yn Llandudno ddydd Gwener yma (Tachwedd 22), yn cydnabod talent chwaraewyr, clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ledled y sir.

Mae Jonathan, sy’n astudio cwrs Gradd BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Chwaraeon ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, wedi’i enwebu yng nghategori Hyfforddwr y Flwyddyn.

Mae’r gŵr 35 oed yn Swyddog Datblygu Cymunedol ar gyfer y Sefydliad Croesgadwyr Gogledd Cymru, ac yn hyfforddi sesiynau rygbi’r gynghrair ar draws Gogledd Cymru.

Mae Rhodri, arweinydd y rhaglen Chwaraeon Lefel 3 (Perfformiad a Rhagoriaeth) yng Ngholeg Llandrillo, ar restr fer y Wobr Llwyddiant Arbennig.

Cafodd ei enwebu am ei waith diflino yn helpu pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi y tu allan i'r coleg sy'n eu helpu i gael gwaith yn y diwydiant chwaraeon.

Bydd Jonathan a Rhodri yn mynychu'r seremoni wobrwyo yn Venue Cymru ddydd Gwener yma.

Enwebwyd Jonathan gan riant plentyn y mae’n ei hyfforddi yn un o ganolfannau cymunedol rygbi’r gynghrair y Crusaders.

Dywedodd: “Dw i'n falch iawn. Dydw i erioed wedi bod yn un ar gyfer anrhydeddau personol - nid dyna pam dw i'n ei wneud o. Dw i wrth fy modd yn gweld plant yn mwynhau chwaraeon a dw i wrth fy modd hefo rygbi'r gynghrair. Ond mae'n braf cael eich cydnabod am yr holl waith caled.

“Mae’n braf bod y rhieni’n gweld y budd, oherwydd mae’n golygu fy mod i'n gwneud rhywbeth yn iawn!”

Mae Jonathan yn hyfforddi plant rhwng saith a 15 oed ar draws Gogledd Cymru, yn ogystal â thîm y merched, a thîm rygbi’r gynghrair Myfyrwyr Cymru.

Mae wedi cael adborth ardderchog gan rieni a hefyd gan glybiau rygbi’r undeb, gan ychwanegu: “Mae'n braf oherwydd mae llawer o'r plant 'ma'n chwarae rygbi'r undeb hefyd, a phan maen nhw'n mynd yn ôl i'w timau undeb, yr adborth yw eu bod nhw'n gweld faint mae'r chwaraewyr wedi datblygu.

“Ar hyn o bryd fi sy'n cyflwyno’r holl sesiynau ar draws holl siroedd Gogledd Cymru. Fy swydd 'lenni ydy gwneud yr hybiau ychydig yn fwy hunangynhaliol, mentora hyfforddwyr a recriwtio hyfforddwyr gwirfoddol.”

Mae Jonathan wedi hyfforddi rygbi’r gynghrair ers 13 mlynedd, ar ôl dechrau pan sefydlodd Prestatyn Panthers yn 2011. Mae hefyd wedi hyfforddi undeb i RGC, i Brifysgol Bangor ac i Glwb Rygbi’r Rhyl, ac wedi chwarae i Glwb Rygbi Llandudno.

“Dw i wedi gwneud 13 mlynedd o wirfoddoli fel hyfforddwr, mwy na 10,000 o oriau – a rheoli dau, tri, pedwar tîm ar y tro achos dwi mor angerddol am y gêm,” meddai.

“Rŵan dw i mewn sefyllfa lle dw i'n cael fy nhalu am wneud yr hyn dwi'n ei garu, ond mae’n brosiect anodd, oherwydd mae cyfranogiad mewn rygbi, pa bynnag fath, yn gostwng, oherwydd mor boblogaidd ydy pêl-droed.”

Yn y cyfamser, enwebwyd Rhodri ar gyfer y Wobr Llwyddiant Arbennig gan Tim Ballam, swyddog datblygu gwledig Ffit Conwy.

Meddai Tim: “Dw i'n nabod Rhodri ers dros 20 mlynedd, ar ôl bod yn un o'i fyfyrwyr yn 2003, a dw i wedi cadw mewn cysylltiad hefo fo dros y blynyddoedd oherwydd fy ngwaith o fewn datblygu chwaraeon yng Nghonwy.

“Dros y pum mlynedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn cydweithio ar lwybrau addysg hyfforddwyr. Ond y rheswm ro'n i'n teimlo y dylai gael ei enwebu ar gyfer y wobr Cyflawniad Arbennig oedd oherwydd ei ymrwymiad ychwanegol y tu allan i'w rôl yn ei waith.

“Mae o wedi helpu i ddatblygu llwybrau i gyflogaeth ar gyfer ei fyfyrwyr, gan fynd y tu hwnt i’w rôl o fewn ei swydd o ddydd i ddydd.

“Gallwch weld bod Rhodri yn gofalu am y bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw. Dw i fy hun yw un o'r bobl y mae o wedi eu helpu dros y blynyddoedd.

“Yn yr amser rydyn ni wedi gweithio hefo'n gilydd, mae Rhodri wedi sefydlu nifer o gyrsiau y tu allan i’r coleg i gefnogi ei fyfyrwyr, gan gynnwys cwrs achubwr bywyd pwll nofio, arweinwyr pêl-droed, diogelu, a llawer o gyrsiau hyfforddi lefel mynediad. Mae angen y rhain ar gyfer rôl o fewn chwaraeon a hamdden ar ben cymwysterau coleg.

“O ganlyniad, mae llawer o’i fyfyrwyr yn y gorffennol a'r rhai presennol wedi cael mynediad i fyd y tu hwnt i Gymru a’r Deyrnas Unedig.

“Mae nifer sylweddol o’i fyfyrwyr bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau (rhai ers dros 15 mlynedd, gyda gyrfaoedd gydol oes). Mor ddiweddar â’r mis diwethaf mi welais i ymateb gan dri o’i gyn-fyfyrwyr sydd bellach yn dilyn gyrfaoedd yn y byd chwaraeon, sy’n cynnwys achub bywydau, sgïo a hyfforddi pêl-droed i enwi dim ond rhai, yn America ac yn Ewrop gan ddefnyddio’r sgiliau a gawsant, diolch i Rhodri.”

Dywedodd Amy Thomson, Rheolwr y Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Llandrillo: “Dw i'n hynod falch o Jonathan a Rhodri am eu cyfraniadau arbennig i’r gymuned chwaraeon.

“Mae eu henwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Conwy yn dyst i’w hymroddiad a’u hangerdd dros ddatblygu nid yn unig athletwyr talentog, ond hefyd arweinwyr y dyfodol yn y diwydiant chwaraeon.

“Mae ymrwymiad diflino Jonathan i hyfforddi ar draws Gogledd Cymru, a chefnogaeth ddiwyro Rhodri i greu cyfleoedd byd go iawn i’w fyfyrwyr, yn wirioneddol ymgorffori’r gwerthoedd yr ydym yn ymdrechu i’w meithrin yn ein holl ddysgwyr.

“Mae’r ddau yn fodelau rôl eithriadol, ac mae eu cydnabyddiaeth yn haeddiannol. Rydyn ni'n ffodus i’w cael fel rhan o gymuned y coleg. Maen nhw'n cael effaith barhaol ar gymunedau lleol a’r sector chwaraeon ehangach.”

Bydd Gwobrau Chwaraeon Conwy yn cael eu cynnal yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Gwener yma, Tachwedd 22. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date