Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Jordan a Keegen yn gwahodd eu noddwyr yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion i'w gwylio'n cystadlu

Gwahoddodd y myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor sy'n aelodau o'r tîm F1 mewn Ysgolion, Cymru Speedsters, gwmni Faun Trackway Limited i gampws Coleg Menai yn Llangefni i'w gwylio'n cystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Gwahoddodd Jordan Pyper a Keegen Vidamour sy'n fyfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor gwmni Faun Trackway, eu noddwyr yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion, i’w gwylio'n cystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Gyda'u cyd-fyfyrwyr Mared Williams, Francis Millward a Cedri Pritchard, roedd Jordan a Keegen yn rhan o'r tîm Cymru Speedsters, a fu'n cystadlu yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn Ninbych ar 19 Chwefror.

Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn rhan annatod o'r cwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol ar gampws Hafan Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.

Yn gynharach y mis hwn, cymerodd Jordan a Keegan ran yn y gystadleuaeth Gweithgynhyrchu Ychwanegion (argraffu 3D) yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Beirianneg ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.

Gan gystadlu yn erbyn myfyrwyr o Goleg Menai a Choleg Sir Gâr, roedd yn rhaid iddynt gwblhau cyfres o dasgau a gynlluniwyd i brofi eu sgiliau trefnu, rheoli amser, dylunio o dan bwysau ac arloesi. Cafodd y gystadleuaeth ei chynllunio a'i harwain gan Bryn Jones, darlithydd peirianneg yng Ngholeg Menai, rheolwr hyfforddi WorldSkillsUK ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegion, ac arweinydd y ddisgyblaeth ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Maen nhw bellach yn aros i weld sut hwyl a gawson nhw arni, a bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 13 Mawrth mewn seremoni yn Abertawe.

Dywedodd Keegen: “Wnes i benderfynu cystadlu gyda Jordan heb wybod yn iawn beth oedd hynny'n ei olygu. Ond synnais fy hun gyda'r hyn wnes i lwyddo i'w gyflawni yn y gystadleuaeth.”

Dywedodd Jordan: “Chawson ni ddim hwyl ar rai rhannau o'r dasg dylunio a ffitio, ond mae'r profiad hwnnw wedi rhoi hyder i mi wella fy sgiliau ymhellach. Dyma fy mlwyddyn gyntaf yn cystadlu, ac mae hyn wedi rhoi'r hyder i mi roi cynnig arall arni'r flwyddyn nesaf pan fydda i wedi datblygu'r sgiliau i allu goresgyn rhai o'r heriau a wynebais.”

Gyda'r Cymru Speedsters ar fin cystadlu yn erbyn timau o bob cwr o Ogledd Cymru yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yr wythnos hon, manteisiodd Keegen a Jordan ar y cyfle i wahodd eu noddwyr i'w gwylio yn y gystadleuaeth sgiliau.

Cafodd Gareth Williams, Rheolwr Peirianneg a Gweithrediadau, Rachel Roberts, Pennaeth Marchnata, ac Ellie Roberts, Cydlynydd Marchnata Faun Trackway Limited yn Llangefni, daith o gwmpas y cyfleusterau diweddaraf yng Ngholeg Menai. Cawsant weld yr amrywiaeth o gystadlaethau a oedd yn cael eu cynnal ym maes peirianneg gyda chymorth cyfrifiadur, gweithgynhyrchu ychwanegion, electroneg a roboteg.

Dywedodd Rachel Roberts: “Roedd yn wefreiddiol gweld y dysgwyr yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Gan ein bod yn gwmni peirianneg, rydyn ni'n hynod falch ein bod yn gallu cefnogi'r Cymru Speedsters i gymryd rhan yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion. Cyflwynodd Jordan a Keegan eu portffolio ar gyfer y gystadleuaeth, ac rydyn ni'n gwbl sicr y byddan nhw'n gwneud yn eithriadol o dda yn y gystadleuaeth.”

Dywedodd Keegen, rheolwr prosiect y Cymru Speedsters: “Roedd hi'n wych cael cyfarfod ein prif noddwyr wyneb yn wyneb. Tan rŵan dim ond trwy e-bost roedden ni wedi bod yn cysylltu, felly roedd yn gyfle perffaith i mi a Jordan ddangos pa mor frwd a phenderfynol oedden ni i fynd â’n car rasio'n llwyddiannus dros y llinell derfyn yng nghystadleuaeth ranbarthol Gogledd Cymru eleni.”

Meddai Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ar gampws Hafan Pwllheli: “Mae’r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn cael ei threfnu gan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) bob blwyddyn.

“Rhaid i'r myfyrwyr ffurfio tîm o hyd at chwe aelod. Rhaid iddyn nhw benderfynu ar enw a brand a nodi pwy sy'n mynd i fod yn rheolwr prosiect, peiriannydd dylunio, rheolwr cyllid, dylunydd graffeg, peiriannydd gweithgynhyrchu, a swyddog nawdd a marchnata.

“Mae’r timau’n dod o hyd i noddwyr i'w helpu i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth. Mae’r dull cyfannol yn rhoi cipolwg i’n dysgwyr ar sut mae cwmni ac aelodau ei dîm yn gweithio gyda’i gilydd tuag at nod cyffredin. Maen nhw'n defnyddio sgiliau dylunio gyda chymorth cyfrifiadur a sgiliau argraffu 3D i geisio dylunio'r car rasio cyflymaf bosibl ar gyfer y digwyddiad.

“Mae’r profiad mae ein myfyrwyr yn ei gael o fod yn rhan o’r gweithgaredd STEM hwn yn un o’r prif bethau y byddan nhw’n ei gofio am astudio peirianneg gyda ni yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

“Mae’n wych eu gweld nhw'n datblygu fel unigolion ac fel tîm, wrth iddyn nhw fynd i'r afael â'r heriau dylunio a’r pwysau o orfod cael y ceir rasio'n barod ar gyfer y digwyddiad.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae Faun Trackway Limited wedi’i rhoi i’n dysgwyr. Gyda chefnogaeth Faun Trackway Limited, rydyn ni'n gallu gwneud yn siŵr bod ein dysgwyr yn gwneud yn dda yn y gystadleuaeth STEM bwysig hon.”

Mae gan Goleg Meirion-Dwyfor dri thîm yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni, ac mae hefyd yn cefnogi dau dîm lleol o Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog.

Ychwanegodd Emlyn: “Rydyn ni'n dymuno pob lwc i bob tîm yn y gystadleuaeth.”

I gael gwybodaeth am gyrsiau Peirianneg ar gampws Hafan Coleg Meirion-Dwyfor, cysylltwch ag Emlyn Evans trwy e-bost evans12e@gllm.ac.uk neu ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/locations/pwllheli-hafan

Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Dysga ragor am ein cyrsiau yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date