Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Kai ar ei ffordd i ennill gradd diolch i Goleg Meirion-Dwyfor

Dychwelodd Kai Tudor i'r coleg i siarad â'r myfyrwyr peirianneg presennol am ei brentisiaeth gradd

Mae Kai Tudor ar ei ffordd i ennill gradd mewn Peirianneg, wedi iddo gael ei danio ar ei daith gan Goleg Meirion-Dwyfor.

Yn ddiweddar, dychwelodd y gŵr ifanc 20 oed o Gricieth i'r coleg i siarad â'r myfyrwyr peirianneg presennol am fanteision astudio prentisiaeth gradd.

Dechreuodd Kai ar ei daith tuag at Addysg Uwch tra oedd yn dal yn yr ysgol, gan gwblhau’r cwrs Lefel 1-2 mewn Peirianneg Gyffredinol a gynigir gan Goleg Meirion-Dwyfor fel rhan o’i ddarpariaeth 14-16.

Aeth ymlaen i gwblhau Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg ar gampws CaMDA yn Nolgellau yn 2022.

Mae Kai bellach yn gweithio yn adran Systemau Trafnidiaeth Deallus Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC), gan gyfuno ei gyflogaeth â phrentisiaeth gradd wedi’i hariannu’n llawn trwy Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor.

Mae wedi cwblhau dwy flynedd gyntaf ei radd mewn Systemau Peirianneg Drydanol/Electronig Gymhwysol ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, ac yn ddiweddar dychwelodd i Ddolgellau i siarad â dysgwyr Lefel 3 am fanteision dilyn yr un yrfa.

Dywedodd Kai: “Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gyfrifol am reoli, cynnal a gwella’r rhwydwaith ffyrdd strategol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ar

ran Llywodraeth Cymru.

“Dw i wedi bod yn ymwneud â chynnal a chadw asedau trydanol, digwyddiadau yn y diwydiant a phrosiectau cyffrous i sicrhau bod ein 670 milltir o gefnffyrdd, priffyrdd a thwneli o safon, ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r cynllun prentisiaeth yn galluogi pobl ifanc fel fi i gael profiad a chymwysterau, i feithrin cysylltiadau â diwydiant, ac i gael cyflog heb unrhyw ddyledion myfyriwr. Mae’n eich paratoi at yrfa mewn peirianneg yn y dyfodol.”

Meddai Emlyn Evans sy'n ddarlithydd peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: “Rydyn ni'n falch o gael ein cyn-fyfyrwyr yn dod yn ôl i ymweld â ni i rannu hanes eu cynnydd a’u datblygiad ym maes peirianneg ar ôl iddynt gwblhau’r cwrs.

“Mae hefyd yn rhoi blas i’n myfyrwyr presennol o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y byd gwaith go iawn.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni'n diolch i Kai am roi o’i amser a hefyd i ACGChC mewn partneriaeth â chynllun Prentisiaeth Cyngor Gwynedd am ganiatáu i Kai dreulio amser gyda’n myfyrwyr i roi gwybod iddynt am y cyfle gwych hwn.

“Cawn ddathlu Kai fel cyn-fyfyriwr arall sydd wedi datblygu gyrfa mewn peirianneg yn llwyddiannus.

“Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn falch o roi sylfaen wych i fyfyrwyr i gefnogi eu dilyniant i fyd gwaith a’r diwydiant peirianneg.

“Mae’r myfyrwyr o gampysau Peirianneg Hafan a CaMDA wedi symud ymlaen i sawl cyfeiriad. Mae rhai wedi mynd i'r brifysgol i arbenigo mewn chwaraeon moduro, disgyblaethau sifil a mecanyddol, tra bod eraill wedi cael cyflogaeth amser llawn neu wedi cael prentisiaethau gyda chwmnïau enwog fel Rolls Royce Aero Engines, Ryanair Engine Maintenance a Rehau Ltd.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Peirianneg Gyffredinol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, cysylltwch â evans12e@gllm.ac.uk. Am ragor o wybodaeth am yr ystod o gyrsiau Peirianneg a gynigir yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma