Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Katie yn cael ei hanrhydeddu gan Gadetiaid y Môr ar ôl rhoi ei sgiliau peirianneg ar brawf

Defnyddiodd y fyfyrwraig o Goleg Menai ei gwybodaeth i helpu cyn-beirianwyr y Llynges i wasanaethu cychod ei huned

Yn ddiweddar cafodd Katie Jones, myfyrwraig o Goleg Menai, ei hanrhydeddu gan Gadetiaid y Môr ar ôl rhoi ei sgiliau peirianneg ar waith.

Bydd Katie yn astudio Trin a Thrwsio Cerbydau Trwm Lefel 2 o fis Medi, ar ôl cwblhau Crefft Peirianneg Lefel 1 ar gampws Llangefni eleni.

Mae’r ferch 17 oed yn gobeithio bod yn beiriannydd morol i’r Llynges Frenhinol – gan ddilyn yn ôl traed ei thad, ei thaid a’i hen daid, a oedd i gyd yn gweithio fel peirianwyr.

Mae Katie yn mynychu Cadetiaid y Môr yng Nghaergybi, ei thref enedigol, a dangosodd ei bod yn datblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arni ar gyfer ei gyrfa pan helpodd dri o gyn-beirianwyr y Llynges i wasanaethu dau o gychod ei huned.

Fel gwobr, cyflwynwyd bathodyn dosbarth 1af mewn peirianneg forol iddi.

Daeth ei chyfle annisgwyl yn fuan ar ôl iddi gael ei dyrchafu’n gadét, pan ofynnodd y prif swyddog, gan wybod am ei chefndir a’i sgiliau, a fyddai’n fodlon helpu.

Dywedodd Katie: “Dywedodd y prif swyddog wrtha i fod tri chyn-beiriannydd o’r Llynges yn dod i’r uned i wneud gwaith cynnal a chadw ar ein cychod. Gofynnodd a hoffwn i wirfoddoli i’w cynorthwyo, a dyna wnes i.”

Yna bu hi a'r peirianwyr yn gweithio ar y cychod, yn ailwampio'r modur tanio, y carbiwretor, y ffilter olew a'r plygiau tanio ar bob un ac yn newid y batri ar un o'r rigiau.

Rhoddodd y peirianwyr, un ohonynt yn brif swyddog o uned arall, Katie ar brawf gyda chyfres o gwestiynau, gan arwain at ddyfarnu'r bathodyn iddi ar ôl iddi sgorio 98%.

Dywedodd Katie: “Roeddwn i'n falch o'r oriau hir dw i wedi'u treulio yn y llyfrgell yn astudio, ymchwilio a llenwi fy nhaflenni gwaith.

“Hefyd, diolch yn fawr iawn i fy nhiwtoriaid, Neil Hughes a Llifon Jones, sydd wedi rhoi deunyddiau dysgu i mi ymarfer cyn i mi ddechrau’r cwrs ym mis Medi. Hebddyn nhw dwi’n amau ​​a fyddwn i wedi gallu ateb yr hyfforddwr a oedd yn fy mheledu â chwestiynau!”

Ydych chi eisiau gweithio ym myd arloesol peirianneg? Mae angen rhagor o beirianwyr yng ngogledd Cymru i lenwi amrywiaeth eang o swyddi cyffrous sy’n talu’n dda. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai cliciwch yma.