Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfle olaf i elwa ar Gyllid i Gyflogwyr

Mae gan gyflogwyr yng ngogledd Cymru hyd at fis Rhagfyr 2024 i elwa ar brosiect Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Trwyddo gall cyflogwyr yn siroedd Conwy, Gwynedd a Môn gael mynediad i'r hyfforddiant sgiliau arbenigol a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai trwy Busnes@LlandrilloMenai.

Mae'r rhaglenni hyfforddi sydd ar gael cyn diwedd y flwyddyn yn cynnwys ystod o gyrsiau proffesiynol ym maes busnes a rheoli, PRINCE2, IOSH, peirianneg, gwasanaethau adeiladu a cherbydau modur, gan gynnwys cerbydau trydan a hybrid.

Mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi nodi bod 70% o gyflogwyr y rhanbarth yn wynebu prinder sgiliau ac mae'n bwriadu cynorthwyo cannoedd o unigolion i gyflawni eu potensial drwy ddatblygu eu gyrfaoedd a'u sgiliau. Bydd hyn yn annog busnesau i dyfu, yn diogelu swyddi presennol ac yn creu swyddi newydd.

Mae’r prosiect yn unigryw yn yr ystyr bod cyllid yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer cyrsiau arbenigol neu raglenni hyfforddi byrrach. Daw hyn a budd i gwmnïau drwy nodi bylchau mewn sgiliau a chyfeirio cyflogwyr at yr hyfforddiant a ariennir yn llawn a ddarperir yng Ngrŵp Llandrillo Menai trwy Busnes@LlandrilloMenai.

Yn ôl Geraint Jones sy'n rheolwr prosiect gyda Busnes@LlandrilloMenai:

“Mae’r prosiect hwn yn galluogi busnesau lleol i wella sgiliau eu gweithlu ac yn y pen draw i dyfu eu busnes. Yn ystod chwe mis cyntaf y prosiect rydyn ni wedi gweithio gyda dros 75 o gwmnïau, ac mae gennym 200 o weithwyr ar y rhaglen ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gobeithio gweithio gyda 50 o fusnesau eraill cyn mis Rhagfyr er mwyn mynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau.”

I drefnu sgwrs am sut i gael mynediad i Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru, cysylltwch â busnes@gllm.ac.uk neu ffoniwch 08445 460 460.

Mae Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru wedi derbyn £1m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Pagination