Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr yn ennill sgiliau blaengar diolch i Goleg Meirion-Dwyfor a chynllun Lluosi

Yr adran beirianneg yn cynnig cyfle i bobl ddatblygu eu sgiliau rhifedd gan ddefnyddio ei pheiriannau argraffu 3D diweddaraf

Mae tîm peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor wedi bod yn darparu cwrs argraffu 3D am ddim i oedolion ar gampws peirianneg Hafan ym Mhwllheli.

Roedd y cwrs, mewn cydweithrediad â thîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai, yn dysgu aelodau'r cyhoedd i ddefnyddio'r peiriannau gweithgynhyrchu ychwanegion diweddaraf sydd fel arfer ar gael i fyfyrwyr amser llawn yn unig.

Nod Lluosi yw helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau yn eu bywyd bob dydd, gyda’r Grŵp yn arwain ar y prosiect yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.

Roedd y cwrs argraffu 3D yn defnyddio rhifedd yn y broses ddylunio i fesur a chyfrifo dimensiynau wrth greu modelau, yn ogystal ag addasu'r cyflymder a'r mewnlenwi, ac i helaethu modelau i'r maint a'r ansawdd a ddymunir.

Yn rhedeg am wyth awr dros bedair wythnos, cynlluniwyd y cwrs i fagu hyder wrth gynhyrchu modelau ar argraffydd 3D.

Roedd y sesiynau i ddechreuwyr yn ymdrin â sut i lawrlwytho modelau a wnaed ymlaen llaw, a defnyddio 'Benchy' - print meincnod a ddefnyddir i wirio gallu argraffu unrhyw argraffydd 3D.

Roedd yna hefyd sesiynau tiwtorial ar sut i leihau amseroedd argraffu ar gyfer gwella effeithlonrwydd ac ansawdd, a sesiynau ar sut y gall pobl gynhyrchu eu modelau eu hunain, gan ddefnyddio pecyn pwerus Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) Fusion 360.

Meddai Emlyn Evans sy'n ddarlithydd peirianneg ar gampysau Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Dolgellau: “Mae’r cwrs argraffu 3D wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae nifer dda yn bresennol. Mae wedi bod yn rhedeg ar lawer o safleoedd y Grŵp gyda lleoedd yn cael eu harchebu'n gyflym.

“Mae wedi bod yn gyfle gwych i ni arddangos ein hadnoddau, sydd fel arfer ond ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cyrsiau BTEC Lefel 3 sydd gennym ni ym Mhwllheli a Dolgellau.

“Mae’r sesiynau rhad ac am ddim sy'n cael eu cynnig gan Lluosi wedi rhoi cyfle gwych i ni rannu ein diddordeb mewn peirianneg a gweithgynhyrchu ychwanegion fel rhan o’r rhaglen newydd.

“Mae'r cwrs wedi dangos gallu ehangach argraffu 3D a sut rydym yn ei ddefnyddio yng Ngrŵp Llandrillo Menai i ymgysylltu â pheirianwyr ifanc y dyfodol.”

Bydd Coleg Meirion-Dwyfor yn cynnal mwy o gyrsiau argraffu 3D i oedolion 19+ yn y flwyddyn newydd.

Cynhelir y cwrs ym Mhwllheli ar Ionawr 6, 13, 20 a 27, 5pm-7pm. Mae’r dyddiadau ar gyfer Dolgellau i'w cadarnhau. Cofrestrwch ar dudalen Lluosi neu drwy gysylltu â lluosi@gllm.ac.uk

Am ragor o wybodaeth am y cwrs BTEC Lefel 3 Peirianneg Uwch yn Nolgellau a Phwllheli, ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/engineering-level-3 neu cysylltwch ag Emlyn Evans drwy anfon e-bost at evans12e@gllm.ac.uk

Pagination