Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Datblygu Sgiliau Hanfodol ar gwrs Prosiect Phoenix y Gwasanaeth Tân

Dysgodd myfyrwyr Coleg Llandrillo am sgiliau diogelwch tân, gwaith tîm a gwytnwch

Yn ddiweddar, cwblhaodd wyth o fyfyrwyr Coleg Llandrillo Brosiect Phoenix gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae Prosiect Phoenix yn fenter tân ac achub ar gyfer pobl ifanc, gyda'r nod o ddatblygu rhinweddau fel hyder, gwytnwch a gwaith tîm.

Mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwasanaeth tân fel rhedeg pibelli dŵr, gwaith ar ysgol, diffodd tân a driliau chwilio ac achub. Maent hefyd yn dysgu sgiliau dydd-i-ddydd defnyddiol gan gynnwys Cymorth Cyntaf, gweithio fel aelod o di, rheoli risg a diogelwch tân.

Mae'r wyth dysgwr o Goleg Llandrillo a gwblhaodd y cwrs tridiau a hanner yn astudio Llwybr i Sgiliau Adeiladu, sy'n cynnig pwynt mynediad i'r diwydiant amgylchedd adeiledig.

Cyflwynwyd eu tystysgrifau Prosiect Phoenix iddynt gan Gadeirydd yr Awdurdod Tân, Dylan Rees a’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Helen McArthur mewn seremoni yng Ngorsaf Dân Llanfairfechan.

Dywedodd Corey Kendrick un o'r dysgwyr ar y prosiect: “Mae'n waith caled, dw i'n edmygu'r bobl sy'n gweithio yma. O safbwynt dysgu, mae wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni wedi dysgu llawer o bethau newydd - dringo ysgolion, gosod ysgolion, cydlynu a gweithio fel tîm.”

Ychwanegodd y tiwtor Chris Dower, Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol ar gyfer Adeiladu: “Dw i’n meddwl y bod pob un o’r dysgwyr wedi elw o’r cwrs hwn gyda'r Gwasanaeth Tân.

Mae gweld y myfyrwyr wrth eu gwaith heddiw wedi dangos faint mae pob un wedi elwa o'r profiad.

Mae yna rai sgiliau bywyd yma - dw i wedi gweld eu datblygiad dros y flwyddyn a'r wythnos hon yn benodol maen nhw wedi dod at ei gilydd fel tîm. Mae gan yr wyth ohonyn nhw agwedd gadarnhaol tuag at waith tîm a gobeithio bydd hyn yn parhau.”

Y rheolwr Tom Plant ydy cydlynydd y Ffenics dros Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Meddai: “Diben y prosiect ydy datblygu eu gwytnwch, hunanddisgyblaeth, gwaith tîm, hunan-barch, cymhelliant - rhinweddau sydd eu hangen arnom mewn wrth dyfu'n oedolion. Rydym yn ceisio rhoi eu cynorthwyo ar ddechrau eu gyrfa i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Mae’r myfyrwyr wedi dod ymlaen yn dda iawn. Maen nhw wedi gorfod bwrw iddi a gweithio’n galed iawn dan yr amodau anodd, gweithio yn y gwres gydag offer trwm a gwisg drom, amodau anodd iawn oedd yn ymestyn eu sgiliau gwaith tîm i'r eithaf.”

Hoffech chi weithio yn y diwydiant adeiladu? Mae’r cwrs Llwybr i Sgiliau Adeiladu i'r dim i unrhyw un sydd am feithrin sgiliau adeiladu cyffredinol drwy gael profiad ymarferol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am gyrsiau adeiladu Grŵp Llandrillo Menai.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date