Therapyddion Galwedigaethol yn ysbrydoli myfyrwyr
Dysgodd myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau am rôl therapyddion galwedigaethol mewn ysbytai ac yn y gymuned
Ysbrydolwyd myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Meirion-Dwyfor gan weithdy therapi galwedigaethol.
Cynhaliwyd y sesiwn yn Nolgellau i godi ymwybyddiaeth dysgwyr o rôl therapi galwedigaethol mewn ysbytai ac yn y gymuned.
Dysgodd myfyrwyr hefyd am y gwahanol lwybrau gyrfa ym maes therapi galwedigaethol, a pha gyrsiau prifysgol sy'n arwain at weithio yn y maes.
Gwnaeth cymaint o argraff ar un o'r dysgwyr nes iddi newid ei chais i'r brifysgol!
Mae therapi galwedigaethol (OT) yn defnyddio gweithgareddau bob dydd, ymarferion a therapïau eraill i gynorthwyo a chynnal iechyd corfforol a meddyliol pobl.
Fe’i defnyddir yn aml i helpu pobl sydd ag anableddau corfforol, anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â’r rhai sy’n gwella ar ôl salwch neu lawdriniaeth.
Cyflwynwyd y sesiwn yn Nolgellau gan Katie Morgan, therapydd galwedigaethol profiadol, Ffion Owen, cyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor a gymhwysodd fel therapydd galwedigaethol bum mlynedd yn ôl, ac Anna Jones, myfyrwraig therapi galwedigaethol sydd ar hyn o bryd yn gwneud oriau lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn olaf ei chwrs.
Gwrandawodd y dysgwyr ar sgwrs cyn cymryd rhan mewn gweithdy, gyda thasgau’n ymwneud ag astudiaethau achos yn seiliedig ar unigolion sydd angen therapi galwedigaethol ac asiantaethau eraill i’w cynorthwyo i wella ar ôl cwympo neu ar ôl strôc.
Gofynnwyd i fyfyrwyr ystyried achosion, rhwystrau i ofal a chymorth, ac ystyriaethau eraill perthnasol wrth gefnogi'r unigolyn yn ei adferiad. Roeddent yn gallu cymharu, a chyferbynnu'r gwahaniaethau rhwng senarios ysbyty a senarios cymunedol.
Roedd arddangosiadau o offer, yn cynnwys dau wely a dau declyn codi, gyda dysgwyr yn gwirfoddoli i geisio eu defnyddio. Dangoswyd darn o offer arall iddynt hefyd a gofynnwyd iddynt geisio gweld ar gyfer beth y gellid ei ddefnyddio.
Roedd yr adborth gan y myfyrwyr yn gadarnhaol iawn. Dywedodd Awel Jones, sy’n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: “Roedd y sesiwn yn addysgiadol iawn. Rydw i wastad wedi bod eisiau gweithio gyda phlant, ond roedd y sesiwn hon yn agoriad llygad i mi ac wedi peri i mi feddwl o ddifri am weithio yn y sector gofal oedolion.
Roeddwn i’n hoffi sut gallai’r gwaith ddigwydd mewn gwahanol leoliadau, a’r syniad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Dw i hefyd yn hoffi’r syniad o gefnogi oedolion i fyw bywyd o ansawdd da a chefnogi eu hannibyniaeth."
Dywedodd Scarlett Smart, myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Blwyddyn 2: “Fe wnaeth hyn fy helpu i benderfynu mai bod yn therapydd galwedigaethol yw’r hyn rydw i eisiau ei wneud. Mi ddysgais i lawer o bethau newydd ac fe’m gwnaeth yn awyddus i weithio yn y maes meddygol hwn yn y dyfodol.”
Dywedodd Cerys Jones, sydd hefyd yn fyfyrwraig Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 Blwyddyn 2: “Roedd y sgwrs gyda therapyddion galwedigaethol yn ddiddorol iawn. Mae eu swydd yn hynod ddiddorol, ac mi wnes i fwynhau rhyngweithio â nhw, yn ogystal â’u helpu gyda’r offer gwahanol.”
Dywedodd Sophie Bryant, sydd hefyd yn astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: “Roedd y sgwrs gyda therapyddion galwedigaethol yn ddiddorol iawn. Mi ges i weld agwedd arall y mae’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ei ddarparu, oherwydd dydy swydd therapydd galwedigaethol ddim yn hysbys i bawb.”
Dywedodd Laura Carr, darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Roedd y sesiwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o rôl a chyfrifoldebau therapyddion galwedigaethol, sut maen nhw'n yn cyfrannu at gymdeithas a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i fywydau pobl.
Cafodd y myfyrwyr eu croesawu gyda gwen, a the a choffi, ac mi lwyddodd hynny i'n gwneud yn gyfforddus wrth gymryd rhan yn y gweithdy.
Roedd y sesiwn yn ddifyr gan fod myfyrwyr yn cael eu hannog i rannu eu syniadau a rhoi cysyniadau allweddol maen nhw wedi'u dysgu ar y cwrs yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar waith.
Cafodd y myfyrwyr arddangosiad o’r offer a ddefnyddir – ambell un yn ddrud iawn. Roedd hyn yn naturiol yn annog chwilfrydedd y myfyrwyr ac yn agor trafodaeth bellach ar fanteision offer o’r fath a phwy allai elwa o ddefnyddio'r offer.
“Derbyniwyd llawer o adborth cadarnhaol ar ôl y sesiwn, dangosodd un myfyriwr ddiddordeb mawr mewn bod yn therapydd galwedigaethol yn y dyfodol a newidiodd ei chais prifysgol ar unwaith.”
Diddordeb mewn astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.