Aelod o'r Senedd yn canmol y dysgwyr am eu gwaith ar long feddygol
Ymwelodd Sam Rowlands â’r Island Reach sydd wedi cael ei hadnewyddu gan wirfoddolwyr, yn cynnwys rhai o’r myfyrwyr peirianneg forol o Goleg Llandrillo
Canmolodd Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, y dysgwyr o Goleg Llandrillo a wnaeth atgyweiriadau hanfodol i’r llong ysbyty.
Bu’r myfyrwyr Peirianneg Forol o gampws Llandrillo-yn-Rhos yn adnewyddu injan ar The Island Reach, cyn iddi gychwyn ar daith ddyngarol i Fadagascar ym mis Ebrill.
Yn ddiweddar, ymwelodd Mr Rowlands â'r llong a siaradodd â myfyrwyr yn yr adran peirianneg forol.
Dywedodd: “Mae’n wych gweld myfyrwyr lleol yn cael profiad ymarferol go iawn drwy gymryd rhan mewn achos mor werthfawr ac yn helpu i atgyweirio’r llong ysbyty wrth iddi baratoi ar gyfer ei thaith feddygol i Fadagascar.
“Mae’r Island Reach, sydd wedi’i hangori yng Nghonwy ar hyn o bryd, wedi denu llawer o sylw ers iddi symud i’r harbwr, a dw i’n siŵr y bydd llawer ohonom yn falch iawn o glywed y bydd y llong yn hwylio’n fuan.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n helpu i gael y llong yn barod i hwylio, gyda chlod arbennig i adran peirianneg forol y coleg a’i myfyrwyr.”
Bydd yr Island Reach, sy'n eiddo i'r elusen Gristnogol 'Youth With a Mission' (YWAM), yn mynd i'r ynys ym mis Ebrill i ddarparu cymorth meddygol y mae mawr ei angen.
Un o'i brif ddibenion fydd cynnig gofal deintyddol, oherwydd dim ond un deintydd ar gyfer pob 150,000 o bobl sydd yn y rhannau mwyaf anghysbell o Madagascar.
Mae'r Island Reach, oedd yn llong gyflenwi gyda'r Llynges, yn addas i deithio i fyny afonydd a chilfachau bach, sy'n golygu y gall gyrraedd cymunedau sy'n anodd iawn eu cyrraedd fel arall.
Mae ystafell ddeintyddol ar y llong 24 metr o hyd, ynghyd ag ardal ymgynghori â meddygon, fferyllfa a man dosbarthu â stoc dda, uned archwilio llygaid ac uned lawfeddygol, a chabanau ar gyfer staff meddygol.
Mae wedi’i hangori yng Nghonwy ar hyn o bryd, ac mae gwirfoddolwyr, yn cynnwys myfyrwyr a staff o adran Peirianneg Forol Coleg Llandrillo, wedi'i hailwampio’n llwyr.
Dywedodd capten y llong, Jeremy McWilliam: “Mae MV Island Reach sydd wedi’i hangori yn Harbwr Conwy yn ddiolchgar iawn am y cymorth a’r gefnogaeth a gafodd gan Goleg Llandrillo i baratoi'r llong ar gyfer taith feddygol dyngarol i Fadagascar ym mis Ebrill eleni.
Hoffem ddiolch i’r adran peirianneg forol am eu cymorth i dynnu un o’n generaduron, am ei wasanaethu a’i atgyweirio yn y coleg, cyn ei ddychwelyd a’i ailosod yn y llong lle mae’n gweithio’n dda erbyn hyn.
Hefyd mi fuodd myfyrwyr o’r coleg yn cynorthwyo gyda llawer o swyddi llai yn ystafell injan y llong, yn gwasanaethu, glanhau a thrwsio. Os byddwn yn angori rhagor o’n cychod yng Nghonwy rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â’r berthynas waith hon.”
Eisiau gweithio ym maes Peirianneg Forol? Cliciwch yma i ddarllen rhagor am gyrsiau Technoleg Forol Grŵp Llandrillo Menai.