Heddwas profiadol yn ymuno â’r coleg fel darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ar ôl 30 mlynedd yn yr heddlu mae Dave Owens yn ysbrydoli myfyrwyr Coleg Menai yn ei swydd newydd fel darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Dave Owens wedi ymuno â Choleg Menai fel darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus ar ôl bod yn heddwas am dri degawd.
Mae’r gŵr o Gaergybi wedi bod yn heddwas a ditectif, gyda’i gyfrifoldebau’n amrywio o blismona cymunedol i ymchwilio i lofruddiaethau.
Un o'r agweddau a fwynhaodd fwyaf oedd hyfforddi swyddogion newydd gymhwyso, a'u gwylio'n ffynnu a datblygu yn eu swyddi.
Bellach mae Dave yn gobeithio ysbrydoli dysgwyr i gyflawni eu potensial yng Ngholeg Menai, lle bu ef yn dilyn cwrs diploma mewn hamdden a busnes ar ôl gadael yr ysgol.
“Mi wnes i fwynhau fy mhrofiad yn y coleg yn fawr iawn, ac es ymlaen i wneud gradd a chael gyrfa wirioneddol bleserus,” meddai Dave, a ddechreuodd fel darlithydd ym mis Medi.
“Rydw i'n gobeithio rhannu ychydig o fy mhrofiad gyda’r myfyrwyr presennol, ac y byddant yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus sy’n rhoi boddhad iddynt.
“Ymunais â’r heddlu yn 22 oed, gan ymddeol ar ôl 30 mlynedd. Wrth i mi ddod at ddiwedd fy nghyfnod gyda’r heddlu dechreuais feddwl am y pethau ro’n i’n eu mwynhau fwyaf am fy swydd.
“Roedd rhai pobl yn mwynhau gweithio ynghanol hwrlibwrli nos Sadwrn. Ro’n yn diwtor yn yr heddlu am gyfnod hir, ac roedd hyn yn golygu helpu swyddogion newydd i ddysgu o'u profiadau, eu harwain a'u mentora, ac asesu eu perfformiad. Roedd hynny'n rhoi boddhad mawr.
“Mae’r swyddogion newydd yn dod at diwtor am y 10-15 wythnos gyntaf ar ôl gadael yr ysgol hyfforddi. Erbyn diwedd y deg wythnos byddech chi'n gweld eu bod nhw wedi magu hyder, eu bod yn gallu patrolio'n annibynnol a'u bod yn mwynhau'r rôl – ac roedd eu gweld yn llwyddo'n rhoi pleser mawr i mi.
“Ar ôl gadael yr heddlu ro'n i eisiau gwneud rhywbeth tebyg i hynny er mwyn cael yr un synnwyr o gyflawniad.”
Mae Dave yn cyflwyno modiwlau ar sut mae’r gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiadau, bygythiadau i ddiogelwch y DU, effeithiau troseddau, ymchwiliadau troseddol, a chynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae ei brofiad yn y byd go iawn yn gwneud cynnwys y cwrs yn fwy diddorol i'r myfyrwyr.
Meddai: “Mae’r dysgwyr yn hoffi clywed fy straeon, ac am y profiadau rydw i wedi eu cael. Enghreifftiau o fywyd go iawn, fy rhai fi fy hun a'r bobl rydw i wedi gweithio efo nhw. Gallwch sôn rhywfaint am hynny mewn gwersi, er bod yn rhaid i mi gofio mai pobl ifanc ydyn nhw.
“Ond os ydyn nhw’n paratoi i fynd ymlaen i addysg uwch neu fyd gwaith, mae’n bwysig eu bod nhw’n cael dealltwriaeth realistig o’r hyn fydd o'u blaenau nhw.”
Pan ofynnwyd iddo beth oedd rhai o’i brofiadau mwyaf cofiadwy fel heddwas, dywedodd Dave: “Mae plismona am yr holl flynyddoedd wedi arwain at bob math o brofiadau unigryw.
“Ro'n i’n ymwneud â phob math o weithgareddau, o helpu grwpiau cymunedol a helpu pobl ifanc i fynd yn ôl ar y llwybr cywir, i ddelio â digwyddiadau hynod drist neu fod yn rhan o dimau oedd yn ymchwilio i achosion o ddynladdiad.
“Cefais ambell wobr gymeradwyaeth – ond digon syml yw rhai o'r digwyddiadau mwyaf cofiadwy.
“Un sy’n gofiadwy iawn i mi oedd pan ddaeth merch ysgol a’i mam i orsaf yr heddlu yn Llanrwst, lle’r oeddwn i’n gweithio ar y pryd.
“Roedd y ferch yn cael ei bwlio, a dydw i ddim yn cofio’n union beth wnes i, ond ychydig wythnosau’n ddiweddarach ges i gerdyn ganddyn nhw yn diolch i mi ac yn dweud bod bywyd wedi newid yn llwyr iddi. Roedd yn braf clywed hynny.”
Mae Dave, sydd hefyd yn rheolwr gweithrediadau i'r RNLI yn ei amser hamdden, wedi trefnu siaradwyr gwadd hynod ddiddorol i'w fyfyrwyr. Mae ditectif gwrthderfysgaeth eisoes wedi rhoi sgwrs, tra bod swyddogion cymorth i ddioddefwyr a swyddogion chwilio arbenigol hefyd ar fin ymweld â Choleg Menai.
Mae hefyd yn cynllunio taith i Borthladd Caergybi er mwyn i'r dysgwyr gael gweld drostynt eu hunain sut mae swyddogion diogelwch ffiniau yn gweithio.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Plismona a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.