Ymweliad hwyliog myfyrwyr Lefel A Ffrangeg ag ysgol gynradd leol
Trefnodd myfyrwyr o gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli brynhawn llawn hwyl ar thema Ffrengig yn Ysgol Abererch
Aeth myfyrwyr Lefel A Ffrangeg o Goleg Meirion-Dwyfor i ysgol gynradd leol yn ddiweddar i helpu disgyblion gyda'u sgiliau dysgu iaith.
Mae Angharad Thomas, Tesni-Lois Madoc, Umut Baysan a Violet Ellis yn dilyn cwrs Lefel A/AS Ffrangeg ar gampws y coleg ym Mhwllheli.
Trefnodd myfyrwyr o gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli brynhawn llawn hwyl yn Ysgol Abererch ger Pwllheli, yn chwarae gemau, siarad Ffrangeg a blasu bwydydd Ffrengig.
Dywedodd y myfyrwyr mai'r gobaith oedd y byddai'r ymweliad yn ysbrydoli'r disgyblion i barhau i astudio Ffrangeg.
Dywedodd Angharad Thomas (A2 Ffrangeg): “Roedd treulio amser gyda disgyblion Ysgol Abererch i wneud gweithgareddau a chwarae gemau yn Ffrangeg yn brofiad arbennig.
“Roedd pawb yn groesawgar tu hwnt, ac roedd pob un o’r plant yn cyfrannu a chymryd rhan yn wych. Roeddwn i wedi synnu â'r lefel o Ffrangeg oedd ganddyn nhw yn barod, a dwi'n gobeithio bod y profiad wedi ysbrydoli rhai i barhau i astudio Ffrangeg. Diolch yn fawr i Ysgol Abererch am ein gwahodd a'n croesawu - roedd hi'n brynhawn bythgofiadwy.”
Ychwanegodd Tesni-Lois Madoc (A2 Ffrangeg): “Mi ges i hwyl efo'r plant yn ystod yr ymweliad. Y foment orau oedd pan chwaraeon ni ‘Simon Says’. Mi wnes i fwynhau ateb cwestiynau’r plant, yn holi oeddwn i wedi bod i Ffrainc ac mi wnes i fwynhau gwrando ar hanesion eu hymweliadau â Ffrainc hefyd. Mi ges i brofiad bythgofiadwy a gobeithio y bydd gan y plant fwy o ddiddordeb yn yr iaith Ffrangeg.”
Dywedodd Helen McFarlane (athrawes Ffrangeg, Coleg Meirion Dwyfor): “Hoffwn ddiolch i chi, Madame Lewis, eich cydweithwyr a’ch disgyblion hyfryd, am rannu eich prynhawn Ffrangeg arbennig iawn gyda ni. Roedd hi’n braf sgwrsio a chwarae gyda’r disgyblion yn Ffrangeg - roedden nhw mor barod i gyfrannu, yn hyderus, ac yn awyddus iawn i drafod yr holl bethau maen nhw’n mwynhau eu dysgu gyda chi. Merci mille fois!”
Ychwanegodd Mrs Rebecca Lewis (athrawes, Ysgol Abererch): “Rydym yn ddiolchgar iawn i Madame McFarlane a'i myfyrwyr am ddod atom i ddathlu ac ymarfer yr hyn rydym wedi bod yn ei ddysgu yn ein gwersi Ffrangeg. Roedd yn gyfle gwych i'r plant clywed a defnyddio'r iaith mewn modd hwyliog.”
Mi wnaeth y digyblion fwynhau'r ymweliad, a dywedodd Sophia o flwyddyn 4: “Roeddwn i’n hoffi dysgu iaith newydd a dysgu am Ffrainc. Mi wnes i fwynhau'r Prynhawn Ffrangeg, cael blasu bwyd newydd a chwarae bingo yn Ffrangeg hefo'r myfyrwyr.”
Dywedodd Jayden, Blwyddyn 6: “Mi wnes i fwynhau cael chwarae gemau i ymarfer fy Ffrangeg gyda'r myfyrwyr. Fy hoff gêm oedd 'Jaques a dit'!”
Ychwanegodd Ceti, Blwyddyn 6: “Roedd yn gyfle da i atgoffa ni o’r pethau ‘dan ni wedi’u dysgu dros yr wythnosau diwethaf, ac roedd gwneud hynny hefo'r myfyrwyr yn hwyl.”
Ar y cwrs Lefel A Ffrangeg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, cewch ddysgu cyfathrebu’n hyderus, yn glir ac yn effeithiol, ar lafar ac ar bapur, drwy gyfrwng y Ffrangeg. Dysgwch ragor yma.