Lia yn derbyn gwobr genedlaethol am ei dewrder
Derbyniodd myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor y wobr gan Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething mewn seremoni yng Nghaerdydd
Cyflwynwyd Gwobr Dewi Sant i Berson Ifanc i Lia Thomas, myfyriwr dewr o Goleg Meirion-Dwyfor, ar ôl cefnogi ei mam trwy gam-drin domestig.
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, sy’n dathlu pobl o bob rhan o’r wlad sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol.
Enwebwyd Lia, o Bwllheli, gan ei mam Swsan Williams am helpu eu teulu trwy gyfnod eithriadol o anodd.
Dywedodd Swsan wrth y BBC: “Rwy’n ofnadwy o falch o Lia. Mae hi'n ferch gwrtais a hapus. Roedd hi’n fy nghefnogi i a’i brawd yn gyson yn ystod y cyfnod anodd iawn hwnnw.
“Dw i eisiau iddi wybod pa mor hynod ddiolchgar ydw i a’i brawd iddi.”
Anogodd Lia ddioddefwyr cam-drin domestig i godi llais, gan ddweud: “Unrhyw un sy’n mynd drwyddi, dwi’n gwybod ei fod yn anodd ond jest dwedwch wrth rywun. Bydd yn eich helpu chi, a bydd eich teulu yn llawer gwell a bydd bywyd yn dod yn haws wrth i chi fynd ymlaen i fod yn hapusach.”
Mae Lia yn astudio Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli, yn ogystal â gweithio mewn cartref gofal. Dywedodd fod bywyd bellach yn llawer gwell i'r teulu.
Cyflwynwyd ei gwobr iddi gan Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething yn ystod seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Meddai Mr Gething: “Bob blwyddyn, mae Gwobrau Dewi Sant yn tynnu sylw at rai o’r rhai mwyaf disglair a dewr o bob rhan o’r wlad ac maen nhw’n gyfle i ddangos i weddill y DU beth rhai o ragoriaethau Cymru.
“Bydd gwobrau eleni, fy ngwobrau cyntaf fel Prif Weinidog, bob amser yn arbennig i mi, ac mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn wirioneddol ysbrydoledig. Rydym yn ffodus iawn i’w cael yn byw ac yn gweithio yma, ac mae wedi bod yn fraint dathlu eu cyfraniad i fywyd Cymru.”
Mae Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu 11eg flwyddyn, yn cydnabod pobl o bob cefndir yng Nghymru sydd wedi’u henwebu mewn categorïau gan gynnwys dewrder, busnes, ysbryd cymunedol, yr amgylchedd ac arloesi.
Ymhlith yr enillwyr eleni hefyd roedd Alan Bates, y cyn is-bostfeistr o Landudno a arweiniodd y mudiad i ddadorchuddio sgandal TG Horizon Swyddfa’r Post, Blaenoriaid Windrush Cymru, am eu gwaith i hybu dealltwriaeth o bryderon yr henoed o leiafrifoedd ethnig, a’r fforiwr sgowtiaid, Callum Smith, a achubodd ddyn ifanc ar fin cymryd ei fywyd ei hun.