Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan Dysgu Gydol Oes i agor yng nghanol Bangor

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi dadlennu cynlluniau i agor canolfan dysgu gydol oes ar Stryd Fawr Bangor.

Gan weithio gyda ‘Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru’ ac adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, mae adeilad yr hen Topshop yng nghanol y ddinas wrthi'n cael ei droi'n gyfleuster amlddefnydd o'r enw Tŷ Cyfle. Y gobaith yw creu canolfan fywiog a llewyrchus y gall trigolion Bangor a'r cyffiniau gael budd ohoni.

Gan ehangu'r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael yng nghanolfannau Tŷ Cyfle yng Nghaernarfon a Chaergybi, bydd y ganolfan ym Mangor yn dod â mantais i'r gymuned leol trwy:

  • l Gynnig cyrsiau rhan-amser ar lythrennedd, llythrennedd digidol, sgiliau cyflogadwyedd, cymorth dysgu, magu hyder, rhifedd, a llawer mwy. Bydd y rhain i gyd yn cael eu harwain gan staff cymwys a phrofiadol.
  • l Sesiynau rhagflas yn gysylltiedig â sgiliau cyflogaeth mewn meysydd y mae galw amdanynt yng ngogledd-orllewin Cymru (e.e. STEM) a ‘digwyddiadau cwrdd â'r cyflogwr’.
  • l Cefnogaeth gyda Sgiliau Bywyd – e.e. rheoli arian, coginio ar gyllideb, magu hyder, llesiant, iechyd ac ati.

Bwriad y darparwr addysg yw gweithio gyda phartneriaid fel Prifysgol Bangor a'r Awdurdod Lleol i gefnogi trigolion lleol trwy gynnig dewis helaeth o ddosbarthiadau, gweithdai a sesiynau un i un.

Bydd Tŷ Cyfle yn cynnwys pedair ystafell ddosbarth yn ogystal â swyddfeydd ac ystafelloedd i gynnal cyfarfodydd a chyfweliadau. Bydd yr adeilad amlddefnydd hefyd yn fan i fyfyrwyr llawn amser ymwneud â chymuned Bangor trwy gynnal perfformiadau stryd a vox pops.

Meddai Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yng Ngrŵp Llandrillo Menai,

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael presenoldeb ar y stryd fawr ym Mangor a bod yn rhan ganolog o'r gymuned. Gan ei fod yng nghanol y ddinas ac yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n lleoliad delfrydol i ddysgwyr allu ei gyrraedd mewn ffordd gynaliadwy.”

Ychwanegodd, “Rydyn ni'n ddiolchgar tu hwnt i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth gyson ac mi fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda nhw'n ystod y misoedd nesaf i gadarnhau rhaglen gyllido ar gyfer y cynllun.”

Disgwylir y bydd Tŷ Menai yn agor ym mis Ionawr 2025, yn dilyn agoriad diweddar campws newydd Bangor ym mharc busnes Parc Menai.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date