Dreigiau Llandrillo yn ennill Cwpan Valorant Cymru
Cyflwynodd John Jackson, Prif Weithredwr Esports Wales, y tlws tra ar ymweliad â Choleg Llandrillo i gyflwyno gweithdy ar gyfleoedd gyrfa mewn chwarae gemau fideo cystadleuol
Cyflwynwyd tlws Cwpan Valorant Cymru i fyfyrwyr Coleg Llandrillo gan bennaeth Esports Wales, John Jackson.
Tra ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, bu hefyd yn cyflwyno gweithdai ar gyfleoedd gyrfa mewn chwarae gemau fideo cystadleuol, ac ar frandio yn y diwydiant.
Y llynedd enillodd tîm E-chwaraeon Dreigiau Llandrillo Gwpan Cymru yn y gêm saethu dactegol - Valorant.
Cyflwynwyd y tlws i Alfie Mitchell a Luke Openshaw, capteiniaid tîm Valorant buddugol Dreigiau Llandrillo.
Dywedodd Alfie: “Roedden ni’n falch iawn o’r tîm. Dyma’r tro cyntaf i ni ennill tlws, felly roedd yn cŵl bod yn rhan o'r tîm a wnaeth hynny.”
Ar ôl derbyn y tlws, cymerodd y tîm a’u cyd-fyfyrwyr ar y cwrs Diploma Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Chynhyrchu ran mewn gweithdy gyda John Jackson.
Rhoddodd Prif Weithredwr Esports Wales gipolwg i’r myfyrwyr ar sut y gallai eu sgiliau E-chwaraeon eu helpu yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol cystadleuol ac mewn gyrfaoedd eraill.
Meddai John: “Dwi wedi bod yn siarad â’r myfyrwyr am gymryd rhan yn y diwydiant E-chwaraeon, y cyfleoedd gyrfa, a sut y gallant ddefnyddio eu sgiliau trosglwyddadwy o’r cwrs E-chwaraeon i symud i swyddi mwy traddodiadol.
“Rydw i hefyd wedi gwneud gweithdy ar frandio, yn cynnwys sut maen nhw’n datblygu eu brandiau personol, sut maen nhw’n brandio eu hunain ar-lein, a sut mae digwyddiadau, busnesau a chlybiau’n cael eu brandio.”
Roedd y dysgwyr yn teimlo bod y gweithdy yn eu hysbrydoli. Dywedodd Luke: “Mi roddodd restr i ni o bob gyrfa sydd ar gael i ni, ac enghreifftiau o bobol o Gymru sydd wedi bod yn llwyddiannus, a sut ddechreuon nhw. Roedd yn ddefnyddiol iawn.”
Esports Wales yw’r corff cenedlaethol ar gyfer gemau fideo cystadleuol. Mae'n gofalu am yr holl ddisgyblaethau o’r llawr gwlad hyd at y timau cenedlaethol.
Mae’r corff llywodraethu’n rhedeg cynghreiriau, cystadlaethau a digwyddiadau amrywiol, gan gynnwys Cwpan Cymru, a gyflwynwyd y llynedd.
Meddai John: “Mae Cwpan Cymru yn ymwneud â chael colegau ac ysgolion Cymru i chwarae yn erbyn ei gilydd, i ddatblygu’r diddordeb cyffredin, ac i ddatblygu’r sîn yng Nghymru.
“Mae'r gystadleuaeth yn helpu pobl i ddatblygu eu set sgiliau wrth iddynt baratoi at symud i addysg uwch a chadw momentwm yr hyn maen nhw'n ei wneud yma yn y coleg, i fynd. Gall hefyd eu helpu i symud ymlaen i’r timau cenedlaethol fel y gallant, gobeithio, arddangos a hyrwyddo Cymru ledled y byd.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant chwarae gemau fideo? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau mewn Cyfrifiadura, Technolegau Digidol a Datblygu Gemau