Dysgwyr Lluosi yn targedu gorwelion newydd ar ôl ennill cymwysterau mathemateg
Cyfleoedd gyrfa newydd yn dod i'r amlwg ar gyfer dysgwyr sydd wedi pasio Cymhwyso Rhif Lefel 2 ar ôl cael tiwtora unigol gan Lluosi
Mae dysgwyr Lluosi yn dathlu ar ôl ennill cymwysterau rhifedd a fydd yn helpu i fynd â'u gyrfaoedd i'r lefel nesaf.
Mae Olwen Rowlands, Hafwen Ellis, Jessica Williams a Wendy Harrison i gyd wedi pasio Cymhwyso Rhif Lefel 2 - cymhwyster sy'n gyfwerth â TGAU.
O ganlyniad, gall y pedwar anelu at eu huchelgeisiau - ar ôl cael eu dal yn ôl yn flaenorol gan nad oedd ganddynt TGAU mathemateg Gradd C neu uwch, diolch i diwtora unigol gan gynllun Lluosi.
Mae Jessica, o Gonwy, yn gwneud cais i wneud gradd nyrsio ar ôl i’w dealltwriaeth o fathemateg gael ei drawsnewid gan sesiynau gyda Paul Goode y tiwtor Lluosi.
Dywedodd: “Dyma beth rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed, ond dydw i ddim wedi gallu ei wneud heb gymhwyster mathemateg.
“Mae gen i agwedd hollol wahanol tuag at rifau rŵan o gymharu â 12 mis yn ôl, a dw i'n gallu dweud fy mod i'n deall mathemateg o'r diwedd.
“Mi hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i’r tiwtor, Paul, fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn hebddo fo. Mae'n eich gwthio chi hyd eithaf eich gallu ond mae hefyd yn credu ynoch chi, ac weithiau dyna'r cyfan sydd ei angen arnoch chi. Diolch am fod yr unig athro sydd wedi gwneud mathemateg yn hawdd i mi ei ddioddef!”
Cofrestrodd Olwen, o Wynedd, ar gyfer Cymhwyso Rhif gan ei bod eisiau astudio Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
“Ro'n i’n hollol bendant fy mod i eisiau cael y diploma galwedigaethol uwch, a (peidio â chael TGAU mathemateg) oedd yr unig beth oedd yn fy atal,” meddai.
“Mi welais i bod Grŵp Llandrillo Menai yn hysbysebu’r prosiect Lluosi, ac mi wnaeth y cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf ges i hefo'r tiwtor Jill Paddock ei hoelio fo. Roedd hi'n hawdd siarad â hi, roedd hi'n deg, ac roedd hi'n diwtor rhagorol.
“Roedd hi'n rhoi'r amser i mewn, ac yn gwneud yn siŵr bod gen i ddigon o adnoddau i ddod adref hefo fi, wythnos ar ôl wythnos.
“Do'n i ddim yn teimlo'n dwp yn gofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro mewn sefyllfa un i un, fel efallai y byddwn i mewn grŵp. Roedd hi mor agored, a gofynnodd i mi 'Efo be' wyt ti'n cael trafferth? Be' sydd angen i ni weithio arno?'. Roedd yna anogaeth hefyd, ro'n i’n meddwl ei fod yn wych.”
Mae Hafwen, o Flaenau Ffestiniog, yn bwriadu hyfforddi fel technegydd fferyllol ar ôl cyflawni ei chymhwyster Cymhwyso Rhif.
Dywedodd: “Roedd yn wych cael sesiynau un i un yn lle bod mewn dosbarth. Rydych chi'n dysgu mwy.
“Do'n i ddim yn dda mewn mathemateg yn yr ysgol. Rŵan fel oedolyn, ro'n i'n teimlo ei fod mwy yn mynd i mewn, a'i fod o'n sticio'n well.
“Dw i'n meddwl bod nifer o bobl fyddai'n elwa o wneud y cwrs, roedd yn help mawr i mi – a dw i am ddiolch i Jill (y tiwtor) hefyd.”
Mae Wendy, o Sir Ddinbych, yn teimlo y gall nawr gael mynediad at fwy o gyfleoedd gwaith ar ôl ennill ei chymhwyster.
Dywedodd: “Dw i wedi dysgu cymaint mewn pedwar mis gyda'r hyfforddiant a'r ffocws yma. Gyda'r cymhwyster hwn, mi alla' i gael yr help sydd ei angen i sicrhau cyfweliad swydd ar gyfer newid gyrfa. Mi fydd hefyd yn fy helpu yn fy hunangyflogaeth.
“Dw i'n 49 ac yn teimlo fy mod wedi colli allan ar lawer o gyfleoedd i wneud cais am swyddi, oherwydd doedd y cymwysterau ddim gen i. Rŵan bod gen i gymhwyster mathemateg a'r hyder i fynd hefo fo, mae gwneud cais am swyddi newydd yn teimlo o fewn fy nghyrraedd."
Nod rhaglen Lluosi ydy helpu oedolion i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau yn eu bywyd bob dydd.
Grŵp Llandrillo Menai sy'n arwain y prosiect yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn, gan gynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws y pedair sir.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at lluosi@gllm.ac.uk neu ewch i gllm.ac.uk/cy/lluosi