Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynllun Lluosi yn gadael ei ôl yn barhaol drwy rwydwaith o hybiau addysg

Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi darparu offer i ganolfannau cymunedol ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn i sicrhau cefnogaeth barhaus i oedolion sy'n dychwelyd at ddysgu

Mae prosiect Lluosi wedi ariannu a sefydlu rhwydwaith o hybiau addysg mewn 25 o fannau cymunedol ar draws siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi buddsoddi mewn dodrefn ac offer TGCh i drawsnewid canolfannau cymunedol a lleoliadau awdurdodau lleol yn ystafelloedd dysgu pwrpasol.

Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i gyflwyno cyrsiau dysgu gydol oes a chyfleoedd hyfforddi i oedolion sy'n dychwelyd at ddysgu, gan sicrhau bod Lluosi yn gadael ei ôl yn barhaol ar draws y pedair sir.

Roedd y Grŵp yn arwain ar y prosiect Lluosi ar draws y pedair sir, gan gefnogi oedolion 19 oed a hŷn i ddatblygu eu hyder gyda rhifau.

Mae'r prosiect wedi dod i ben erbyn hyn, ond bydd y buddsoddiad mewn cyfleusterau addysgu a hyfforddi yn sicrhau datblygiad rhifedd parhaus, a chyfleoedd eraill ar gyfer yr ardaloedd a’r dysgwyr anoddaf eu cyrraedd.

Dywedodd Sioned Williams, Rheolwr Prosiect Lluosi: “Mae'r prosiect Lluosi yn ymgorffori cenhadaeth Grŵp Llandrillo Menai o 'Wella Dyfodol Pobl' drwy greu cyfleoedd parhaol ar gyfer dysgu ac ymgysylltu â'r gymuned.

“Trwy fuddsoddi yn y canolfannau addysg yma, rydym ni wedi sicrhau bod oedolion ar hyd a lled y rhanbarth yn cael mynediad at yr offer a’r lle sydd eu hangen arnynt i ddatblygu sgiliau newydd, i fagu hyder, ac i wella eu dyfodol. Bydd y gwaddol yma'n parhau i fod o fudd i gymunedau am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Caryl Jones, Age Cymru Bontnewydd: ⁠“Ers cyfnod Covid 19 mae llawer mwy o bobl hŷn eisiau datblygu eu sgiliau technoleg gwybodaeth.

“Doedd gennym ni ddim yr adnoddau yn Age Cymru ym Montnewydd i wneud hynny, er bod cyfleusterau gennym ni, a chysylltiadau trafnidiaeth da i’r pentref. Gyda’r offer newydd yma, rydyn ni'n gallu cynnig gwersi TG llawer gwell.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda Potensial, Grŵp Llandrillo Menai, i ddatblygu rhagor o gyrsiau amrywiol.

“Mae cael yr ystafell ddosbarth a'r offer yn golygu ein bod ni'n gallu cael pobl y pentref at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol yn y ganolfan yma yn Age Cymru, yn enwedig sesiynau addysgiadol.”

Dywedodd Lliwen Morris, Canolfan Cefnfaes, Bethesda: “Rydym ni'n gobeithio rhoi cyfleoedd i fwy o grwpiau i ddefnyddio Canolfan Cefnfaes, fel grwpiau pobl hŷn, a’r grŵp hanes, sydd heb le ar hyn o bryd ac sydd angen offer TG ar gyfer ei sesiynau. Rydyn ni hefyd eisiau denu grwpiau, sydd heb gael cyfle o’r blaen, i wneud bob math o ddosbarthiadau a gweithgareddau.

“Rydym ni'n gobeithio cychwyn gwersi Cymraeg yn y ganolfan, a gallu defnyddio’r dechnoleg yn y gwersi.

“Mae’r dysgwyr yn gallu defnyddio offer y ganolfan os nad oes ganddyn nhw eu hoffer offer eu hunain hefyd, ac mae’n rhywle cynnes a diogel i fynd.”

Dywedodd Hugh Kevin Lewis, Capel Bach Trawsfynydd: “Dw i’n gobeithio bydd yr offer yn help mawr i’r côr yng Nghapel Bach, ac yn help i ni ddatblygu côr merched. Bydd y ganolfan ar gael i’r clybiau ffermwyr ifanc i wneud cyrsiau busnes amaeth ac ati; a hefyd i grwpiau eraill o fewn y pentref a'r gymuned eangach.

“Wedi i ni orffen yr holl waith adnewyddu yng Nghapel Bach, mi fyddwn yn gwahodd trigolion y gymuned a chyn-aelodau'r côr i’w weld. Gobeithio y byddwn ni'n gallu cyflwyno a dysgu ychydig iddyn nhw am y deunyddiau ynni adnewyddadwy gafodd eu defnyddio yn ystod yr atgyweirio. Gobeithio y bydd hyn yn eu hannog i wneud cyrsiau am ynni adnewyddadwy yma.”

Dywedodd Vicky Welsman, sylfaenydd Blossom & Bloom yn y Rhyl: “Bydd hyn yn galluogi Blossom & Bloom i ddarparu amrywiaeth ehangach o gyfleoedd datblygu i rieni yn y Rhyl. Bydd rhieni bellach yn gallu defnyddio offer TG trwy gydol y dydd tra bod eu plant mewn gofal plant, mewn meithrinfa neu yn yr ysgol, gan gynyddu’r cyfleoedd i ddysgu a gynigir i rieni yng nghanol ein tref.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Lock Up Heritage Centre, Llangollen: “Does 'na ddim un lleoliad arall yng nghanol y dref sydd hefo'r cyfleusterau y mae’r grant offer gan Lluosi wedi’u darparu. Bydd hyn yn galluogi cynnig mwy o amrywiaeth o addysg oedolion yn Llangollen, a bydd yn galluogi Grŵp Llandrillo Menai i barhau i ddarparu addysg yma drwy'r rhaglen Potensial.”

Meddai Elizabeth Kennett, Hwb LlanNi yn Llannerchymedd: “Bydd yr offer sydd wedi ei ariannu gan y grant yn gwneud ein Hwb yn lle addas ar gyfer pob math o gyrsiau a digwyddiadau.

“Mae Hwb Llannerchymedd yn edrych ymlaen at y cyfle i gynnal amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys: rhai ar gyfer pobl sy’n ddihyder yn defnyddio’r rhyngrwyd a derbyn negeseuon e-bost ac ati, dosbarthiadau Cymraeg, sgyrsiau hanes lleol, a chyrsiau eraill y mae’r gymuned leol yn eu hystyried yn ddefnyddiol ac yn angenrheidiol.”

Dywedodd Beth Whitney, Hen Ysgol Borth, Amlwch: “Gan fod Porth Amlwch yn ardal ddifreintiedig o’r ynys, mae’n braf cael newyddion da am ganolfannau lleol yn derbyn cyllid.

“Rydw i wedi siarad â dau o grwpiau defnyddwyr ers i’r offer gyrraedd. Roedd adborth y ddau grŵp yn gadarnhaol, ac roedden nhw'n edrych ymlaen at ei ddefnyddio. Gall grwpiau ddefnyddio’r sgrin ryngweithiol ar gyfer cyflwyniadau, a gallai’r Hen Ysgol gael ei gweld fel y lle i fynd ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau, sgyrsiau a chyfarfodydd.”

Dywedodd Elfed Morris, Ysgol Gymuned Moelfre: “Rydym ni'n hynod ddiolchgar am y cyllid yma. Mae o wedi ein galluogi i greu gofod dysgu croesawgar sydd ag adnoddau da, a fydd hefyd yn ganolbwynt ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned. Mi fydd hyn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng yr ysgol a thrigolion lleol.

“Bydd y fenter hon yn grymuso aelodau'n cymuned, gan gau'r bylchau mewn sgiliau rhifedd a meithrin cyfleoedd dysgu gydol oes. Mae’r gefnogaeth gan Lluosi wedi bod yn allweddol i wireddu’r weledigaeth yma, ac mi rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y manteision hirdymor i’n dysgwyr.”

Dywedodd Patricia Hughes, Neuadd Bentref Llanddona: “Mi fydd yr offer yma yn ein galluogi i ymateb i anghenion y gymuned hefyd drwy ddarparu cyfleoedd i hyfforddi a dysgu wedi'u teilwra.

“Rydym ni'n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael yr adnoddau yma, ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai fel ein bod yn gallu gwneud defnydd llawn o’n cyfleusterau er budd y gymuned.”

Dywedodd Katie Edwards o’r Ganolfan yn Rhuthun: “Mi fydd hwn yn le i helpu pobl i wella eu rhagolygon gwaith, eu sgiliau TG a'u sgiliau mathemateg.

“Bydd cael mynediad at yr offer TG yma yn y Ganolfan yn galluogi’r rhai sy’n cael trafferth cael gafael ar offer TG i ennill sgiliau gwerthfawr, gwella eu CV, a chynyddu eu dysgu a’u gwybodaeth.”

Meddai Simon Williams, o Ganolfan Dewi Sant yn Eryrys, Sir Ddinbych: “Rydym yn gobeithio bydd y cyfleusterau gwell yn cynyddu nifer y digwyddiadau addysgiadol i oedolion, a fydd yn y pen draw yn gwella addysg oedolion yn yr ardal, ac yn gwella hyder a lles pobl.”

Dywedodd Ffion Lois, Neuadd Rhydymain: “Mae’r grant yma wedi'n galluogi ni i gael yr offer ar gyfer cynnig cyrsiau hyfforddi i bobl leol nad ydym ni wedi gallu eu cynnig yn y gorffennol.

“Rydym ni'n gobeithio ehangu rŵan, drwy ofyn i'r gymuned pa sesiynau hyfforddi maen nhw eisiau, a threfnu digwyddiadau i ateb y galw.”

Ariannwyd Lluosi gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. ⁠Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi arwain ar y prosiect Lluosi yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn ers ei sefydlu ym mis Medi 2023, gan helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd.

⁠Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect Lluosi, mae Potensial, sef brand dysgu gydol oes Grŵp Llandrillo Menai, yn ymgysylltu ag ysgolion cynradd lleol ar draws gogledd Cymru fel rhan o gynllun dysgu fel teulu sy’n cefnogi rhieni i helpu eu plant gyda gwaith cartref. ⁠ Mae'r rhaglen dysgu fel teulu hefyd yn cynnig cyrsiau megis coginio a chyllidebu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Dudalen Potensial, neu cysylltwch â:

  • Gwynedd ac Ynys Môn: communitymenai@gllm.ac.uk 01248 370 125
  • Conwy a Sir Ddinbych: enquiries.cdpotensial@gllm.ac.uk 01492 546 666
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date