Dysgwyr Lluosi yn dathlu llwyddiant TGAU Mathemateg a Rhifedd
Dysgwyr yn cymryd y camau nesaf tuag at ddod yn athrawon, nyrsys a bydwragedd ar ôl rhoi hwb i’w rhagolygon gyrfa gyda Grŵp Llandrillo Menai a Lluosi
Mae dysgwyr rhaglen Lluosi Grŵp Llandrillo Menai yn dathlu ar ôl ennill y graddau A-C mewn TGAU Mathemateg a Rhifedd.
Derbyniodd y dysgwyr eu canlyniadau yn ddiweddar ar ôl sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych sy'n helpu oedolion i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau yn eu bywyd bob dydd.
Ledled y pedair sir, enillodd 21 o ddysgwyr y rhaglen Lluosi graddau A-E yn eu TGAU – gyda 15 o’r rheini’n ennill gradd C neu uwch. Dysgodd rhai trwy sesiynau un-i-un, tra mynychodd eraill ddosbarthiadau grŵp ar safleoedd coleg, mewn gweithleoedd a lleoliadau cymunedol.
Diolch i'r dull hyblyg a deinamig hwn, mae dysgwyr bellach yn barod i symud ymlaen â'u cynlluniau gyrfa gyda TGAU Mathemateg neu Rifedd ar eu CV.
Elizabeth Riddle (Sir Ddinbych)
Mae Elizabeth bellach yn gobeithio hyfforddi fel athrawes ysgol gynradd ar ôl ennill gradd B mewn TGAU Rhifedd.
Dywedodd: “Rydw i'n hapus dros ben gyda’r radd a gefais a diolch i’r cwrs hwn rydw i wedi ailddarganfod fy nghariad at addysg.
“Ar ôl llawer o feddwl, rydw i wedi penderfynu gwneud cais i'r brifysgol i astudio Addysg Gynradd, yn y gobaith y gallaf ddod yn athrawes ysgol gynradd. Rydw i hefyd newydd gyfweld ar gyfer swydd wirfoddolwr mewn ysgol leol i gael profiad mewn ystafell ddosbarth. Penderfynu astudio gyda'r rhaglen Lluosi oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud.”
William Beckett (Deiniolen, Gwynedd)
Roedd William yn mwynhau bod y sesiynau'n cael eu teilwra’n benodol i unigolion a grwpiau. Ar ôl ennill gradd A mewn TGAU Mathemateg, mae bellach yn gobeithio astudio Lefel A Mathemateg.
Meddai: “Roedd y sesiynau tiwtorial yn amhrisiadwy gan eu bod yn cynnwys cwblhau cyfres o gyn-bapurau a oedd yn dangos yn glir pa feysydd oedd ychydig yn anodd i mi.
“Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i fy nhiwtor Jillian Paddock, yn rhannol am sylweddoli mai cwblhau ffug-arholiadau oedd y ffordd orau i mi allu symud ymlaen ond hefyd am esbonio mewn termau dealladwy y meysydd hynny a oedd yn peri dryswch i mi.”
Christina Georgiadou (Conwy)
Mae Christina wedi gwneud cais i’r brifysgol i hyfforddi fel nyrs, wedi iddi ennill gradd C mewn Rhifedd ar ôl mynychu sesiynau Lluosi ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
“Mae'n rhaid i mi wneud mathemateg yn fy mywyd bob dydd wrth weithio fel gweinyddes,” meddai Christina. “Rydw i wedi sylwi gwahaniaeth wrth wneud mathemateg hawdd bob dydd. Doeddwn i ddim eisiau defnyddio cyfrifiannell ddim mwy, felly fe helpodd fi yn fawr. Mae'n llawer cyflymach rŵan i mi wneud y gwaith yn fy mhen yn hytrach na defnyddio cyfrifiannell; mae hynny'n dweud y cyfan.
“Fy mreuddwyd ydy bod yn nyrs. Y cam nesaf fydd mynd i’r brifysgol i gwblhau diploma gofal iechyd, felly dyna beth rydw i’n ei wneud ym mis Medi.”
Ashleigh Mills Brown (Sir Ddinbych)
Yn debyg i Christina, mae Ashleigh bellach yn gweld mathemateg bob dydd yn haws yn dilyn ei sesiynau un-i-un gyda Lluosi. Mae hi rŵan yn bwriadu hyfforddi fel bydwraig ar ôl ennill gradd C mewn Rhifedd.
“Pethau bach yn y gwaith, fel pan mae angen i mi gyfrifo canrannau, does dim angen i mi ddefnyddio cyfrifiannell,” meddai Ashleigh, o Sir Ddinbych. “Mi alla i wneud hynny yn fy mhen rŵan. Felly mae'n helpu mewn bywyd bob dydd.
“Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth pan agorais i’r canlyniadau. Roeddwn i wedi gwirioni. Mi allai rŵan fynd i wneud cwrs Mynediad er mwyn mynd i'r brifysgol i wneud cwrs bydwreigiaeth. Roedd rhaid i mi wella fy sgiliau mathemateg er mwyn gwneud hynny. Mae wedi helpu’n aruthrol – rydw i un cam yn nes at yr yrfa honno.”
Debbie Day (Conwy)
Cafodd Debbie yr anrheg pen-blwydd perffaith pan ddaeth i wybod ei bod wedi ennill gradd B mewn Rhifedd.
Dywedodd: “Daeth y prosiect Lluosi ar yr amser perffaith i mi. Wnes i ddim ennill gradd C pan oeddwn i'n yr ysgol, a rydw i wedi treulio 30 mlynedd yn difaru peidio ag ailsefyll yr arholiad ar y pryd.
“Mae peidio â chael gradd C mewn Mathemateg wedi fy nal yn ôl o ran gyrfa mewn rhai ffyrdd. Doeddwn i ddim yn bodloni'r meini prawf i wneud cais am rai swyddi roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n eu mwynhau ac roedd gen i'r gallu i'w gwneud, ac mi oedd hynny'n rhwystredig dros ben.
“Felly, pan ddarllenais am y prosiect lluosi, penderfynais y byddwn yn mynd amdani. Cefais sesiynau tiwtora un-i-un yn bennaf trwy Zoom am dair i chwe awr yr wythnos - gweithiodd hyn yn dda iawn i mi er mwyn cynyddu fy hyder.
“Ar ôl sefyll yr arholiadau, mi oeddwn i'n nerfus am fy nghanlyniad, a oedd fod i gael ei gyhoeddi ar fy mhen-blwydd -
roeddwn i wedi pasio o'r diwedd! Mi syfrdanais fy hun wrth gael gradd B a minnau dim ond wedi meiddio gobeithio am C.
“Rydw i mor ddiolchgar am gael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect hwn. Rydw i'n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi gweithio gyda thiwtor a oedd yn credu ynof, wnaeth fy annog ac a wnaeth beidio fy ngadael i roi’r gorau iddi.”
James Purcell (Ynys Môn)
Bellach mae gan James y radd C sydd ei hangen arno i ymgeisio am ddyrchafiad yn y gwaith - a gall hefyd helpu ei blant gyda'u gwaith mathemateg.
Meddai: “Mi wnes i fwynhau’r dosbarthiadau mathemateg yn fawr. Rydw i rŵan yn sylwi bod fy hyder mathemategol wedi cynyddu felly nid oes angen i mi wirio cyfrifiadau sylfaenol ddwywaith, ac ers ennill fy nghymhwyster newydd rydw i'n gweld fy mod i'n llawer mwy abl i helpu a chefnogi fy mhlant gyda'u gwaith ysgol.
“Bydd cyfleoedd am ddyrchafiadau yn fy ngwaith yn fuan ac rydw i'n gwybod y gallaf wneud cais gyda fy nghymhwyster mathemateg newydd - ond nid oedd hyn yn wir o'r blaen gan fod angen o leiaf TGAU mewn Mathemateg arnoch chi.
“Roedd y staff Lluosi i gyd yn gymwynasgar ac yn gefnogol iawn - yn enwedig fy athrawes Kerry a aeth i ba bynnag hyd oedd ei angen i mi ennill fy ngradd TGAU.”
Nododd Sioned Williams, Rheolwr Prosiect Lluosi Grŵp Llandrillo Menai:
“Rydw i'n falch iawn o’r hyn y mae’r dysgwyr wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr.
“Mae'n hyfryd clywed adborth cadarnhaol gan y dysgwyr am eu profiadau ar y prosiect a sut mae'r cyflawniad hwn yn mynd i'w cefnogi i symud ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth.
“Hoffwn ddiolch i’r tiwtoriaid Lluosi am eu hymdrechion a’u hymroddiad i gefnogi'r dysgwyr i gwblhau’r cymwysterau hyn.”
Ydych chi eisiau gwella eich sgiliau Mathemateg a Saesneg? Mae Potensial, sef brand dysgu gydol oes Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnig ystod eang o gyrsiau gan gynnwys TGAU Mathemateg a Saesneg. Tydi hi bydd yn rhy hwyr i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymwysterau hanfodol hyn, a all agor y drysau i gyfleoedd addysg a gyrfa newydd. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.