Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lluosi yn cynnig ymarfer i'r corff a'r meddwl gyda chyrsiau mynydda a chyrsiau campfa

Sesiynau canfod y ffordd a sesiynau hyfforddi â phwysau yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau rhif wrth wella eu hiechyd corfforol a'u hunanhyder

Mae adran Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi helpu pobl i ymarfer eu corff a'u meddwl gyda sesiynau mynydda a sesiynau codi pwysau.

Mae Lluosi yn helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau, gyda’r Grŵp yn arwain ar y prosiect yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mewn dau gwrs diweddar, cafodd pobl y cyfle i ystwytho eu cyhyrau yn ogystal â’u sgiliau mathemateg, gyda dysgwyr yn datblygu eu rhifedd tra hefyd yn gwella eu ffitrwydd a'u hunanhyder.

Cafodd dysgwyr ar y cwrs 'Sgiliau Canfod y Ffordd Uwch ar gyfer Fforio'n Hyderus' gyfle i ddatblygu eu crefft ar y mynydd ym Mryniau Clwyd.

Yn dilyn sesiwn friffio, treuliodd y dysgwyr bump neu chwe awr yn canfod eu ffordd ar y bryniau - yn meistroli'r defnydd o fapiau, cwmpawdau, ac offer modern, wrth fireinio eu sgiliau mewn cynllunio llwybrau a dehongli tir.

Stephen Jones, sy'n diwtor Lluosi, a Matthew Rothwell, cyd-sylfaenydd cwmni antur awyr agored time4experience oedd yn cynnal y cwrs.

Dywedodd y dysgwr Richard Worsley: “Er fy mod yn gerddwr mynydd eithaf profiadol, roedd y cwrs yn werthfawr tu hwnt o ran cadarnhau rhai sgiliau sylfaenol yr oeddwn wedi eu hesgeuluso dros y blynyddoedd.

“Roedd dysgu'r sgil penderfynu ar gyflymder yn rhywbeth y gwnes i ei fwynhau, ac mae bellach wedi'i smentio yn fy meddwl. Roedd yr elfen rhifedd, a oedd yn hynod werthfawr, yn heriol i mi, ond roedd yn rhywbeth y rhoddais fy sylw llawn iddi.

“Roedd yn werth dod ar y cwrs yma, a gobeithio y bydd cyrsiau pellach yn y dyfodol.”

Dywedodd dysgwr arall, Gareth Jones: “Ro'n i’n teimlo bod hwn yn gwrs ardderchog. Cyflwynwyd y wybodaeth mewn ffordd wybodus, gefnogol a phroffesiynol. Dilynwyd y theori gan sesiwn ymarferol yn yr awyr agored er mwyn i ni allu cymhwyso'r technegau a ddangoswyd i ni a datblygu'n hyder. Mi wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr.”

Dywedodd Stephen Jones, tiwtor Lluosi: “Mae rhifedd o’n cwmpas ym mhob man, ac mae'n rhan fawr o ganfod y ffordd.

“O ddehongli graddfa’r map i ddeall rhifau'r cyfeirnodau grid, roedd yn wych gweld rhifedd ar waith yn helpu’r dysgwyr i ganfod eu ffordd yn ddiogel drwy gefn gwlad.”

Aeth myfyrwyr Prifysgol Bangor i’r gampfa ar gyfer ‘Gwneud i'r Reps Gyfrif: Cyflwyniad i Hyfforddiant Codi Pwysau a Rhifedd'.

Dros gyfnod o wyth wythnos datblygodd y cwrs Lluosi yng Nghanolfan Hamdden Colwyn, Bae Colwyn, hyder y cyfranogwyr yn eu sgiliau rhifedd trwy ymgorffori mathemateg yn yr hyfforddiant codi pwysau a ffitrwydd.

Helpodd yr hyfforddwr personol, Costa Yianni, y dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau yn y gampfa tra eu bod ar yr un pryd yn mesur pellteroedd, yn tracio gwybodaeth, yn cyfrif pwysau ac yn mesur cyfradd curiad eu calon.

Dywedodd Costa: “Dw i'n gweithio gyda'r hogiau yn y brifysgol i wella eu hyder, eu hiechyd meddwl, a'u sgiliau rhifedd - fel hyn mae eu hyder wrth ddefnyddio'r gampfa'n cynyddu.

"Er eu bod erioed wedi bod mewn campfa o'r blaen, maen nhw bellach yn gallu mynd yno ar eu pen eu hunain, dewis bar, codi pwysau, cofnodi'r pwysau'n gywir, defnyddio'r dechneg gywir i gofnodi'r pwysau mewn cilogramau, a mynd amdani i wella eu cryfder, eu gwytnwch a'u hyder.

Dywedodd y dysgwr Zach Mountford: Yn y gampfa dydi llawer o bobl ddim yn deall pa fath o bwysau rydych chi'n eu codi, a pha bwysau y dylech chi fod yn eu codi. Felly, mae'n llawer iawn gwell mynd yno gyda phobl eraill gan eich bod chi'n deall beth maen nhw'n gallu ei wneud, ac mae hynny yn ei dro yn eich helpu chi i ddeall beth allwch chi ei wneud.

Dywedodd Joe Lloyd-Jones, Cydlynydd Ymgysylltu Sir Conwy'r cynllun Lluosi, y gallai datblygu hyder dysgwyr yn eu rhifedd gael sgil-effaith gadarnhaol mewn meysydd eraill o’u bywydau.

“Sgil ydy rhifedd, fel unrhyw beth arall,” meddai. “Mae gallu datblygu sgiliau yn aml yn rhoi'r hyder i ni allu mynd ymlaen i wneud pethau eraill.

Felly er mai gwella rhifedd pobl yw'r prif nod, wrth i bobl gymryd rhan yn y cyrsiau hyn a magu hyder drwy ddefnyddio rhifedd rydym yn gweld yn aml fod hynny'n rhoi'r hyder iddyn nhw fynd ymlaen i wneud pethau eraill hefyd, a datblygu sgiliau eraill.

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau chwaraeon a gweithgareddau awyr agored, o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date