Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lluosi yn galluogi teuluoedd i fagu hyder yn eu sgiliau rhifedd yn ddwyieithog

Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi cyfieithu adnoddau National Numeracy Family Maths i’r Gymraeg, gan ddosbarthu’r pecynnau o weithgareddau i ysgolion ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn

Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi gweithio gyda’r elusen National Numeracy i gyfieithu'r pecynnau cymorth Mathemateg i'r Teulu i’r Gymraeg.

I nodi Diwrnod Rhifau'r NSPCC (Chwefror 7), dosbarthodd swyddogion Lluosi'r pecynnau o weithgareddau i ysgolion cynradd ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn.

Bydd y pecynnau’n helpu plant, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr y pedair sir a thu hwnt i fagu hyder mewn rhifedd gyda’i gilydd – gan helpu i sicrhau fod y prosiect Lluosi yn gwneud gwahaniaeth hirdymor.

Mae pecynnau National Numeracy yn rhad ac am ddim, ac yn llawn o syniadau difyr i helpu plant i fwynhau defnyddio rhifau.

Mae’r adnoddau wedi’u rhannu’n becynnau ar gyfer grwpiau blwyddyn, gyda phob un yn cynnwys 30 o weithgareddau wedi’u cynllunio i helpu plant a theuluoedd i archwilio mathemateg bob dydd gyda’i gilydd. Mae pob pecyn yn cynnwys trosolwg i athrawon hefyd, yn amlinellu dolenni i'r cwricwlwm ac awgrymiadau defnyddiol.

Gall ysgolion cynradd ofyn am gopïau papur o’r llyfrynnau hyn drwy gysylltu â lluosi@gllm.ac.uk

Yn ogystal â dosbarthu'r pecynnau cymorth wedi'u cyfieithu, dosbarthodd tîm Lluosi becynnau Numicon hefyd, yn cynnwys offer synhwyraidd fel blociau, pegiau, cardiau a mwy, i helpu plant i ddysgu am rifau.

Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:

Conwy:

  • Ysgol Awel y Mynydd, Cyffordd Llandudno
  • Ysgol Pant y Rhedyn, Llanfairfechan

Sir Ddinbych:

  • Ysgol Twm O'r Nant, Dinbych
  • Ysgol Bro Famau, Llanferres

Gwynedd:

  • Ysgol Pen y Bryn, Bethesda
  • Ysgol Penybryn, Tywyn

Ynys Môn

  • Ysgol Gynradd Beaumaris
  • Ysgol Gynradd Cemaes

Dywedodd Ed Barnes, prifathro Ysgol Awel y Mynydd: “Dw i'n credu y bydd y pecynnau hyn yn galluogi rhieni i ddeall y dulliau rydyn ni'n eu defnyddio i ddysgu mathemateg yn Awel y Mynydd. Mi fyddan nhw hefyd yn arf defnyddiol i ddangos bod addysg ddwyieithog ar gael i bawb, yn enwedig wrth gadw Cymraeg 2050 mewn cof.

“Ar hyn o bryd rydym yn gweld gwahaniaeth mawr yn ansawdd yr adnoddau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, felly mae’n dda bod plant yn cael mynediad at adnoddau o’r safon uchaf yn y ddwy iaith.”

Meddai Dafydd Davies, pennaeth Ysgol Twm O'r Nant: “Y cwestiwn rydyn ni'n ei gael gan rieni ydy 'Sut gallwn ni helpu?' Mi fydd hyn yn eu helpu i ddeall y rhifedd a'r eirfa, ac felly mae'n hynod ddefnyddiol.

“Mae gennym ni lawer o deuluoedd lle mae un rhiant yn gallu siarad Cymraeg, felly mae’n bwysig eu bod nhw’n deall y derminoleg a’r iaith rydyn ni’n ei defnyddio yn yr ysgol hefyd, fel bod modd iddyn nhw ddefnyddio'r un eirfa wrth wneud mathemateg yn y cartref.”

Dywedodd Nicola Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Cemaes: “Bydd y pecynnau yn werthfawr iawn i’r rhieni. Mae’n anodd iawn dod o hyd i adnoddau Cymraeg.

“Rydym ni yn ysgol Gymraeg, ond mae gennym ni nifer o deuluoedd Saesneg. Mae’r rhieni yn gefnogol iawn i’r disgyblion cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, felly mi fydd y pecynnau o fudd i’r rhieni a’r plant. Mi fydd y plant yn gallu defnyddio iaith yr ysgol yn gyfforddus o fewn y cartref.”

Dywedodd Bethan Wyn Jones, Pennaeth Ysgol Biwmares: “Mae'n hynod o bwysig gan ei fod yn galluogi plant i gael cymorth adref heb rwystrau ieithyddol, ac felly maen nhw’n gallu parhau i ddatblygu’u sgiliau rhifedd yn effeithiol.

“Mae'n gyfle hefyd i blant ddysgu gweithio'n effeithiol yn ddwyieithog. Mae rhai rhieni yn fwy cyfforddus mewn un iaith na’r llall, ond mae’r adnoddau dwyieithog yn rhoi cyfle iddyn nhw gefnogi datblygiad eu plant waeth beth fo’r iaith.”

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi arwain ar y prosiect Lluosi yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn ers ei sefydlu ym mis Medi 2023, gan helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd.

Disgwylir i'r cynllun Lluosi ddod i ben y mis hwn, gyda Grŵp Llandrillo Menai wedi rhagori ar ei dargedau o ran darparu cyrsiau sy’n rhoi hwb i hyder, a grymuso pobl i ennill cymwysterau cydnabyddedig naill ai mewn mathemateg neu rifedd.

Dywedodd Sioned Williams, Rheolwr Prosiect Lluosi'r Grŵp: “Rydym ni'n falch iawn o fod wedi gweithio ar gyfieithu adnoddau Family Maths yr elusen National Numeracy i’r Gymraeg. O hyn ymlaen gall mwy o deuluoedd ac ysgolion fanteisio ar yr adnoddau gwych yma yn eu hiaith gyntaf.

“Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod effaith gadarnhaol y prosiect Lluosi yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y prosiect, gan agor cyfleoedd newydd a diddorol i genedlaethau’r dyfodol.”

Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect Lluosi, mae Potensial, sef brand dysgu gydol oes Grŵp Llandrillo Menai, yn ymgysylltu ag ysgolion cynradd lleol ar draws Gogledd Cymru fel rhan o gynllun dysgu fel teulu sy’n cefnogi rhieni i helpu eu plant gyda gwaith cartref. ⁠ Mae'r rhaglen dysgu fel teulu hefyd yn cynnig cyrsiau megis coginio a chyllidebu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Potensial, neu cysylltwch â:

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date