Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Gradd Lockheed Martin o'r Radd Flaenaf

Mae cyn-brentis o Grŵp Llandrillo Menai wedi profi y gallwch ennill gradd heb gronni dyled. Graddiodd Jack Edwards yn ddiweddar gyda gradd BEng anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Systemau Peirianneg Drydanol ac Electronig Cymhwysol.

Dechreuodd ei yrfa a'i hyfforddiant yn RAF Fali fel Prentis Peirianneg gan ennill profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol wrth weithio i Lockheed Martin, un o brif gwmnïau awyrofod ac amddiffyn y byd.

Roedd y profiad ymarferol hwn yn RAF Fali yn allweddol wrth lunio ei yrfa gynnar; rhoddodd sylfaen gadarn iddo mewn egwyddorion ac arferion peirianneg i symud ymlaen i ddilyn rhaglen y Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Peirianneg, ac yn y pen draw ei radd mewn Systemau Peirianneg Drydanol ac Electronig Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd y brentisiaeth gradd hon yn gyfle i Jack ddyfnhau ei wybodaeth, ymgymryd ag astudiaethau uwch, a chyflawni prosiectau heriol. Arweiniodd amgylchedd academaidd trwyadl Prifysgol Bangor, ynghyd â'r profiad ymarferol a gafodd trwy gydol ei brentisiaeth, at Jack yn ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Mae llwyddiant Jack nid yn unig yn gyflawniad personol ond hefyd yn gymeradwyaeth sylweddol o'r model prentisiaeth gradd. Trwy gyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad gwaith ymarferol, llwyddodd Jack i raddio heb ddyled, gyda gradd a sawl blwyddyn o brofiad gwaith perthnasol.

Erbyn hyn, fel peiriannydd newydd raddio, mae Jack wedi dechrau ei rôl fel Peiriannydd Cynnal a Chadw Efelychydd ar Sgwadron 72, y sgwadron Hyfforddiant Hedfan Sylfaenol yn Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 yn RAF Fali. Mae'n gyfrifol am gynnal a chadw a sicrhau parodrwydd gweithredol efelychwyr hedfan, sy'n offer hanfodol wrth hyfforddi peilotiaid RAF.

Dywedodd Jack ar ôl iddo raddio:

“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i gwblhau fy mhrentisiaeth gradd gyda Lockheed Martin. Mae'n profi, gydag ymroddiad, y cyfleoedd cywir a chefnogaeth cyflogwr gwych, y gallwch chi gyflawni'ch breuddwydion heb faich dyled. Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad i yn ysbrydoli eraill i ddilyn eu breuddwydion yn hyderus.”

Mae Prifysgol Bangor ynghyd â Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig portffolio o gymwysterau wedi'u hariannu'n llawn sy'n cwmpasu Peirianneg Meddalwedd, Seiberddiogelwch, Gwyddor Data a Pheirianneg Fecanyddol a Thrydanol.

Mae prentisiaethau gradd yn opsiwn deniadol i gyflogwyr ymgorffori gwybodaeth flaengar wrth ddatblygu unigolyn mewn rôl allweddol. Gellir eu defnyddio i uwchsgilio aelod presennol o staff neu i benodi i rôl Prentisiaeth Gradd newydd. Dros gyfnod o dair blynedd wrth weithio, mae’r Prentis Gradd yn astudio yng Ngrŵp Llandrillo Menai a’r Brifysgol am ddiwrnod a noson yr wythnos. Mae Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai ar hyn o bryd yn gweithio gyda chyflogwyr ledled gogledd Cymru, yn fawr a bach, cyhoeddus a phreifat yn ogystal â mentrau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/apprenticeships/degree-apprenticeships