Lois yn dychwelyd i'r Coleg i rannu hanesion am ei hanturiaethau Adriatig
Llwyddodd Lois Roberts i gael swydd fel technegydd llynges yng Nghroatia ar ôl astudio Peirianneg Forol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, ac yn ddiweddar, dychwelodd i gampws Hafan i siarad am ei theithiau
Yn ddiweddar, gwnaeth Lois Roberts, sy'n gyn-fyfyriwr peirianneg forol, ddychwelyd i Goleg Meirion-Dwyfor i rannu straeon am ei hanturiaethau ar y Môr Adriatig gyda'r dysgwyr.
Mae Lois, sydd o Flaenau Ffestiniog, yn Dubrovnik ar hyn o bryd ar ôl cael swydd dymhorol fel technegydd llynges gyda chwmni gwyliau Sunsail.
Aeth i Groatia ar ôl cwblhau ei Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Forol ar gampws Hafan ym Mhwllheli'r haf hwn. Wrth ymweld â gartref yn ddiweddar dychwelodd i'r Coleg i siarad â'r garfan bresennol o fyfyrwyr am ei theithiau.
“Mae wedi bod yn wych,” meddai Lois, a ymgeisiodd am y swydd ar ôl mynd i gyflwyniad gan Sunsail ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. “Pan es i Groatia roeddwn i'n nerfus iawn gan nad oeddwn i erioed wedi bod yn unman ar fy mhen fy hun o'r blaen.
“Ond unwaith i mi gyrraedd yno sylweddolais fod pawb yn yr un sefyllfa, a oedd yn gwneud pethau ychydig yn haws. Rydych chi'n treulio amser gyda chriw gwych o bobl a gwneud ffrindiau newydd.
“Mi ddangosais luniau o rai o’n cychod i’r myfyrwyr, yn ogystal â siarad am ddiwrnod arferol ac am rai o’r cyfleoedd gwych a gewch chi wrth weithio.
“Roedden nhw’n awyddus iawn i ddysgu mwy am sut y gallan nhw gamu i'r byd gwaith ac rydw i’n gobeithio fy mod i wedi rhoi ychydig o ysbrydoliaeth iddyn nhw.”
Mae Sunsail yn cynnig gwyliau hwylio i westeion sydd â lefelau amrywiol o brofiad, o'r rhai sydd am hwylio cychod hwylio eu hunain i eraill sy'n llogi sgiper ar gyfer taith.
Wrth ddisgrifio diwrnod arferol, dywedodd Lois: “Rydych chi'n briffio gwesteion fel eu bod nhw'n gwybod sut mae'r systemau ar y cwch yn gweithio. Unwaith bydd y gwesteion wedi gadael am yr wythnos rydych chi'n mynd ati i wasanaethu cwch neu ddwy, gan eu cynnal a'u cadw a gwirio’r hwyliau ac ati.
“Mi gewch chi gyfle i fynd â rhai o'r cychod allan, weithiau byddwn ni'n gwneud ymarferion meithrin tîm, neu cewch ambell i gyfle i fynd allan am wythnos gyda llynges.
“Rydym wedi ein lleoli 10 munud y tu allan i Dubrovnik, felly ar ddiwrnodau i ffwrdd mae cryn dipyn o fynyddoedd gerllaw i fynd i gerdded. Gallech chi ymweld â hen dref Dubrovnik, sy’n eithaf diddorol a hanesyddol, neu gallech neidio ar gwch ac archwilio’r ynysoedd cyfagos.”
Ar ôl cael ei chyflogi tan ddiwedd mis Medi i ddechrau, yn ddiweddar cafodd cytundeb Lois ei ymestyn am ddau fis arall. Efallai y bydd hi'n aros gyda'r cwmni'n hirach os bydd mwy o gyfleoedd i fynd allan ar y dŵr.
“Wrth i'r tymor newid efallai y bydd yna gyfle i fynd i Wlad Thai, Awstralia neu’r Caribî,” meddai. “Mae gan Sunsail hefyd ganolfannau yn yr UDA, Gwlad Groeg, yr Eidal a’r Seychelles.”
Dywedodd Lois fod y cwrs yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wedi ei pharatoi’n dda, gan ychwanegu: “Mae Peirianneg Forol yn bwnc gwych i’w astudio. Mae'n rhoi llawer o gyfleoedd gwahanol i chi, ac nid oes lle gwell i astudio nag ym Mhwllheli.
“Roedd yna lawer o wersi ymarferol, a chyfle i ddysgu sut mae pethau’n gweithio yn hytrach na gwneud llawer o waith papur. Rydych chi'n treulio amser yn y gweithdy yn hytrach nag yn yr ystafell ddosbarth, yn gwneud rhywbeth â’ch dwylo, a gwnes i fwynhau.”
Wrth ofyn am ei chyngor i fyfyrwyr presennol, dywedodd Lois: “Gwthiwch eich hun i gael yr hyn rydych ei eisiau. Peidiwch â bod ofn - ewch amdani. Drwy wneud hyn, rydw i wedi dysgu llawer am hwylio a sut i ddefnyddio’r systemau, a hefyd rydw i wedi dysgu peidio â bod ofn rhoi cynnig ar bethau newydd.”
Dywedodd y darlithydd Ellis Morey: “Roedden ni’n hapus iawn bod Lois wedi dod yn ôl i rannu ei phrofiadau gyda’n carfan bresennol o fyfyrwyr.
“Fe adawon nhw ei sgwrs yn llawn brwdfrydedd a chymhelliant. O ganlyniad byddwn yn mynd â'n grŵp i Llandrillo-yn-Rhos eto i ddysgu am y cyfleoedd cyffrous a gynigir gan Sunsail.
"Mae'r hyn wnaeth Lois ei gyflawni yn ystod ei hamser gyda ni yn anhygoel, yn ogystal â'r hyn mae wedi mynd yn ei blaen i'w wneud. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth mai dim ond y dechrau ydy hyn i Lois ac edrychwn ymlaen at glywed i ble y bydd ei gyrfa yn mynd â hi nesaf.”
Bydd myfyrwyr peirianneg forol Coleg Meirion-Dwyfor yn mynd i gyflwyniad arall gan Sunsail ar gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau peirianneg forol ar gampws Hafan Coleg Meirion-Dwyfor, cliciwch yma.