'Profiad anhygoel' Mabli yn gweithio ar Beetlejuice Beetlejuice
Bu’r cyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn helpu i greu darnau corff prosthetig a phropiau ar gyfer ffilm Tim Burton, ac mae hefyd wedi gweithio ar ddwy raglen deledu Star Wars
Dywedodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, Mabli Non Jones, ei fod yn “swreal” gweithio gyda Tim Burton ar Beetlejuice Beetlejuice.
Mae Mabli, o Gerlan ger Bethesda, yn creu mowldiau ar gyfer ffilm a theledu - gan helpu i wneud angenfilod, rhannau corff prosthetig a mwy.
Mae'r ferch 24 oed hefyd wedi gweithio ar raglenni Star Wars The Acolyte ac Andor yn y gorffennol, ac mae ei chreadigaethau wedi’u gweld yn ddiweddar yn un o ffilmiau mwyaf 2024.
“Roedd gweithio ar Beetlejuice Beetlejuice yn anhygoel, yn wahanol i unrhyw brofiad rydw i wedi’i gael o’r blaen,” meddai Mabli, a astudiodd y cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai ym Mangor o 2018 i 19.
“Cefais y cyfle i helpu gydag amrywiaeth o bethau, yn bennaf gwneud mowldiau. Roedd y rhain yn cynnwys (difethwyr!) y perfedd sy'n ffrwydro allan o Beetlejuice, Baby Beetlejuice, y mwydyn tywod, pwythau prosthetig Monica Bellucci, prosthetig y 'llif gron ar wyneb' (roedd gan yr holl brostheteg enwau gwallgof!), rhannau o'r mymi, modelau ffug o Winona Ryder, a mwy.”
Gwaith Mabli yw creu'r mowldiau ar gyfer y brostheteg, fel arfer allan o wydr ffibr, silicon neu blastr. Yna mae'r mowldiau'n cael eu trosglwyddo i eraill sy'n ychwanegu manylion fel paent neu wallt, cyn eu rhoi i'r adran animatroneg.
Dywedodd Mabli fod ei hadran wedi gweithio'n agos gyda Tim Burton drwy gydol y broses ddylunio, creu a ffilmio ar gyfer Beetlejuice Beetlejuice.
“Anaml iawn y cewch chi gydberthynas agos â’r cyfarwyddwr, ond gan fod Burton yn ddylunydd cymeriad ac artist ei hun, roedden ni'n gallu gweithio gydag o i ddod â’r cymeriadau yn fyw yn y ffordd yr oedd yntau'n hapus,” meddai.
“Bydden ni'n cael trafodaethau gyda Burton a byddai’n cyflwyno syniadau i ni, ac yna bydden ni'n dechrau’r broses ac yn rhannu’r datblygiadau gydag o. Bydden ni, neu fo, wedyn yn gallu newid y syniad neu gymryd llwybr ychydig yn wahanol i gael yr olwg a'r canlyniad orau.
“Roedd gweld y broses gyfan o ddylunio'r cymeriad/creadur i’w weld wedi’i ddatblygu’n llawn fel prostheteg a chreadur gweithredol mor cŵl. Roedd hynny'n wych gan fy mod yn cael bod ar y set i helpu gyda’r creaduriaid yn ystod y ffilmio; mi wnes i wir fwynhau gwneud hynny yn ogystal â bod yn y gweithdy.
“Mae’n deimlad cŵl iawn i allu dweud wrth bobol fy mod i wedi gweithio ar Beetlejuice 2, yn enwedig gan fy mod i’n ffan mawr o Tim Burton. Mae braidd yn swreal gan na fyddwn i erioed wedi dychmygu gwneud hyn, ond roedd yn brofiad mor cŵl.”
Roedd gwaith Mabli hefyd yn cynnwys creu 'lifecasts' - copïau tri dimensiwn o gorff dynol byw - gyda'r actorion Winona Ryder a Willem Dafoe yn cael eu mesur yn rheolaidd.
Mae Mabli wedi bod â diddordeb mewn creu creaduriaid ers yn tua saith oed, ac ychwanegodd: “Mae mam yn cofio i mi wneud cyfweliad radio ffug gyda fy mrawd a ofynnodd i mi beth ro'n i eisiau ei wneud pan o'n i'n hŷn, a fy ateb oedd 'gwneud estroniaid i Doctor Who!'
“Rydw i wastad wedi cael fy amgylchynu gan sci-fi, gyda thri brawd a thad a oedd yn ffans anferthol o Star Wars. Gwnaeth fy mrwdfrydedd gydol oes i greu creaduriaid, yn ogystal â chael fy amlygu i’r mathau hynny o ffilmiau wrth dyfu i fyny, wneud y profiad o weithio ar Star Wars yn un anhygoel - yn enwedig helpu i ddod â rhai o’r cymeriadau eiconig hynny yn ôl yn fyw a gweld BB8 rholio o gwmpas y gweithdy!”
Graddiodd Mabli ddwy flynedd yn ôl gyda gradd mewn effeithiau 3D o University of the Arts London. Ar hyn o bryd mae’n gweithio mewn stiwdio ffilm yn Llundain mewn gweithdy propiau ac effeithiau arbennig sydd hefyd yn creu prostheteg at ddibenion hyfforddi ar gyfer sefydliadau fel y GIG, y gwasanaethau brys ac eraill.
Dywedodd mai cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai oedd y dylanwad mwyaf ffurfiannol ar ei gyrfa hyd yma.
“Yn bendant ni fyddwn i wedi mentro i'r diwydiant yma oni bai am y cwrs,” meddai Mabli. “Ro'n i ychydig yn ansicr pan ddechreuais y cwrs o ran beth oeddwn i eisiau ei wneud wedyn, ond erbyn agosáu at y diwedd roedd gen i syniad eithaf cryf o ba lwybr ro'n i eisiau ei ddilyn. Rydw i'n meddwl mai’r rheswm am hynny oedd gan fy mod i wedi cael y lle a’r rhyddid i brofi fy holl syniadau oedd ychydig yn wallgof.
“Mae’n debyg mai'r cyfnod hwn oedd yr un fwyaf gwerthfawr i mi ei gael yn ystod fy nghyfnod mewn addysg o ran yr hyder a roddodd i mi a’r rhyddid artistig y caniataodd i mi ei gael. Dyma'r cyfnod pryd y datblygais fwyaf yn bersonol ac yn broffesiynol. Ro'n i wrth fy modd, ac roedd cael arweiniad artistiaid profiadol a allai gynnig syniadau a safbwyntiau newydd a chyffrous yn fy ngwthio ymhellach fyth.
“Fy hoff amseroedd oedd y cyfnod cychwynnol o brofi’r holl gyfryngau, yn enwedig y sesiynau bywluniad a cherflunio, yn ogystal â’r wythnosau olaf yn arwain at yr arddangosfa gyda’r cyffro o weld y cyfan yn dod at ei gilydd.
“Roedd cael stiwdio wag braf hefyd yn help mawr, gan wneud i ni deimlo y gallen ni ddatblygu unrhyw beth roedden ni eisiau a pheidio â theimlo wedi ein cyfyngu - a dyna pam y penderfynais greu siandelïer 12 troedfedd wedi'i wneud o freichiau a choesau!
“Rydw i'n meddwl bod fy niddordeb mewn anatomi yn ogystal â phethau ychydig yn arswydus fel ffilmiau Stanley Kubrik wedi rhoi’r syniad i mi greu’r math yna o beth. Ers i mi fod yn hogan fach ro'n i wastad wedi mwynhau dychryn pobl yn yr ystyr yna, fel creu colur effeithiau arbennig rhyfedd ar fy hun neu fy ffrindiau i weld ymateb pobl eraill.
“Ro'n i eisiau astudio gradd a oedd yn arbenigo yn y maes hwnnw, a ro'n i'n ffodus i gael lle ar yr unig un oedd yn cynnig yr union beth ro'n i eisiau ei wneud, o gerflunio i wneud mowldiau i ddylunio a saernïo animatronig.
“Ond rydw i’n meddwl bod rhyddid y cwrs Sylfaen Celf wir wedi rhoi cyfle i mi ddod yn gyfforddus gyda dilyn y syniad yna, ac fe helpodd fod pawb yn gefnogol i fy nymuniadau ac wedi gadael i mi gael llonydd i ddilyn fy llwybr fy hun, gyda'u harweiniad wrth gwrs.
“Mi wnes i wneud ffrindiau oes hefyd diolch i’r cwrs, a does dim byd yn curo ffrindiau sy’n meddwl yr un peth!”
Mae Mabli yn gobeithio am fwy o waith ffilm yn y dyfodol, gan ddweud: “Rydw i'n mwynhau’r amgylcheddau cyflym ac yn wir yn teimlo’r hud a lledrith sy’n mynd i mewn i wneud ffilmiau o safbwynt gwneud propiau/creu creaduriaid.
“Rydw i hefyd yn agored i unrhyw gyfleoedd eraill, boed hynny mewn theatr neu unrhyw fath o ofodau celf weledol. Cyn belled ag y gallaf ddefnyddio fy nwylo byddaf yn hapus! Pwy a ŵyr, efallai y byddai gweithio ar Star Wars arall yn braf, neu ffilm David Lynch fyddai orau gen i, ond mae gen i amser ar gyfer hynny o hyd!”
Ydych chi eisiau gyrfa fel artist neu ddylunydd proffesiynol? Mae'r cwrs Sylfaen Celf wedi ei gynllunio'n benodol i'ch paratoi ar gyfer dilyn cwrs Addysg Uwch a gweithio ym maes Celf a Dylunio. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.