Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Madeleine ar restr fer gwobr ynni cenedlaethol

Enwebu prentis o Grŵp Llandrillo Menai a REW am wobr Rising Star yng Ngwobrau Gweithwyr Ifanc Proffesiynol ym maes Ynni yn Llundain

Mae prentis o Grŵp Llandrillo Menai, Madeleine Warburton, wedi ei henwi ar restr fer gwobr Rising Star yng Ngwobrau Gweithwyr Ifanc Proffesiynol ym maes Ynni eleni.

Mae Madeleine ar ail flwyddyn ei phrentisiaeth fel technegydd tyrbinau gwynt gyda chwmni ynni rhyngwladol RWE Renewables.

Mae’r ferch 19 oed wedi’i lleoli yng nghyfleuster hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy'r Grŵp ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth ag RWE.

Mae hi wedi cael gwahoddiad i fynychu Gwobrau Gweithwyr Ifanc Proffesiynol ym maes Ynni Energy UK yn Llundain ar 7 Tachwedd, pan fydd yn cystadlu yn erbyn chwech arall sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Rising Star.

Dywedodd Madeleine: “Dwi braidd yn nerfus, ond dwi'n edrych ymlaen yn fawr at fynd lawr i Lundain, i sgwrsio gyda gweithwyr eraill RWE a rhwydweithio ychydig gyda fy nghwmni a'r bobl eraill sydd ar y rhestr fer.

“Mi fydd hynny'n gyffrous ac mae'r digwyddiad ei hun yn un 'gwisg ffurfiol', y digwyddiad ffurfiol cyntaf i mi fod ynddo erioed. Mi fydd yn rhyfedd bod allan o fy esgidiau gwaith a throwsus gwaith.”

Yn gynharach eleni, enwyd Madeleine yng ngharfan y DU ar gyfer WorldSkills Lyon 2024, ar ôl cyrraedd rownd derfynol genedlaethol y gystadleuaeth yn y categori ynni adnewyddadwy.

Dywedodd: “Gyda'r Worldskills, mi ddysgais i am hynny drwy'r coleg, mae wedi bod yn anhygoel.

“Dw i wedi dysgu am bethau ar wahân i ynni tyrbin gwynt, pethau fel ynni solar a phethau gwahanol, a dw i wedi bod yn mynd i sesiynau hyfforddi yng Nghaeredin, Doncaster, a lawr yn Warwick.

“Dw i wedi cael llawer o gefnogaeth gan y coleg i fy rhoi trwy hyfforddiant ychwanegol i gystadlu ynddynt, a dwi'n mynd amdani eto eleni, mae wedi bod yn dda iawn i ymestyn fy hun.”

Mae cyfleuster hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy Grŵp Llandrillo Menai wedi'i leoli yn y Ganolfan Beirianneg newydd gwerth £12m ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.

Mae'r ganolfan yn cynnwys neuadd i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, sy'n brawf o'r ymrwymiad y Grŵp i arloesi a hyrwyddo addysg ym maes ynni adnewyddadwy.

Mae gan RWE gydberthynas hir sefydlog â'r Grŵp, ac mae'n cynnal ei raglen i brentisiaid ym maes ynni gwynt a'i hwb hyfforddi cenedlaethol i brentisiaid yng Ngholeg Llandrillo ers 2012.

Mae'r hwb yn cefnogi prentisiaid o bob cwr o'r wlad, ac maent yn mynd ymlaen i swyddi da ar safleoedd ynni gwynt niferus y cwmni ar y tir a'r môr.

Mae Canolfan Beirianneg o’r radd flaenaf Coleg Llandrillo wedi’i chynllunio i gyflwyno profiad dysgu o’r radd flaenaf, ac mae’n cynnwys ystod gynhwysfawr o offer hyfforddi hynod arbenigol, o beiriannau CNC ar raddfa ddiwydiannol i roboteg a pheiriannau phrototeipio cyflym.

Mae Gwobrau Gweithwyr Ifanc Proffesiynol ym maes Ynni Energy UK yn cydnabod gweithwyr proffesiynol y diwydiant ynni sydd â hyd at 10 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ynni neu i sefydliadau sy'n darparu gwasanaeth i'r diwydiant. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma neu ewch i energy-uk.org.uk/event/the-young-energy-professionals-yep-awards-2024/

Pagination