Madeleine yn ymuno â charfan y Deyrnas Unedig ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills 2026
Mae'r prentis o Grŵp Llandrillo Menai ac RWE wedi cael ei dewis i fod yn rhan o'r garfan Ynni Adnewyddadwy sy'n hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol yn Shanghai y flwyddyn nesaf
Yr wythnos hon mae Madeleine Warburton, prentis o Grŵp Llandrillo Menai ac RWE, wedi ymuno â charfan hyfforddi WorldSkillsUK ar gyfer Shanghai 2026.
Prentis ym maes technoleg tyrbinau gwynt yw Madeleine ac mae'n dilyn cyrsiau Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch a Pheirianneg Ynni Trydanol ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.
Mae’r ferch 19 oed wedi’i dewis i fod yn rhan o'r garfan sy'n hyfforddi i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy'r flwyddyn nesaf.
Bydd aelodau'r garfan yn cyfarfod am gyfres o sesiynau hyfforddi i ddatblygu eu sgiliau cyn i un cystadleuydd gael ei ddewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn Tsieina.
Yr wythnos hon, maent yn Newcastle-upon-Tyne ar gyfer y gyntaf o’r sesiynau hyn, lle byddant yn cael eu hyfforddi i drin y 'nacelle' mewn tyrbinau gwynt ac yn canolbwyntio ar sgiliau cydweithio a gweithio mewn tîm.
Roedd Madeleine hefyd yn y garfan hyfforddi ar gyfer Lyon 2024, ar ôl cymhwyso trwy gystadlaethau WorldSkillsUK, a dywed ei bod wedi elwa’n fawr ar y broses.
“Mae wedi bod yn anhygoel,” meddai. “Rydw i wedi mwynhau’r broses yn fawr hyd yn hyn, yn enwedig y cyfnod yn arwain at Lyon ’24 y llynedd.
“Mae’n wych gallu gwneud y cyfan eto. Mae’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu yn werthfawr iawn, ac mae’n braf hefyd cyfarfod â phobl newydd sydd â’r un diddordebau â fi.”
Mae Madeleine yn dysgu ei chrefft yn y cyfleuster hyfforddi ym maes tyrbinau gwynt sy'n rhan o'r ganolfan beirianneg gwerth £14 miliwn a agorwyd yn ddiweddar ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl. Dyma ganolfan ragoriaeth a adeiladwyd i feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar bobl yng Ngogledd Cymru i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector. Datblygwyd y neuadd gwasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol mewn partneriaeth â chyflogwr Madeleine, y cwmni ynni adnewyddadwy blaenllaw RWE.
Dywed Madeleine fod ei phrofiad cystadlu eisoes wedi ei helpu yn ei rôl gydag RWE, ac mae’n edrych ymlaen at ehangu ei gwybodaeth trwy hyfforddi gyda charfan WorldSkillsUK.
“Rydw i'n gobeithio dysgu mwy am ynni solar a hefyd am wahanol brosesau ar y tyrbin gwynt rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi, er enghraifft, prosesau fel aliniad siafftiau,” ychwanegodd.
“Rydw i'n meddwl ei fod wedi bod yn help mawr i mi ddysgu sgiliau newydd, a chael profiad ymarferol mewn amgylchedd lle mae popeth ar raddfa lai. Pan es i ar y môr dros yr haf ro'n i'n deall pethau ychydig yn well gan nad oeddwn i'n hollol newydd i'r gwaith. Gobeithio hefyd y byddaf yn gallu dysgu llawer mwy o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i sectorau eraill yn y diwydiant.”
Wrth siarad am ei phrentisiaeth, dywedodd Madeleine: “Rydw i wedi mwynau'r profiad yn fawr. Ro'n i wrth fy modd efo'r elfennau ymarferol. Gyda'r cyfleusterau sydd gennym ni yn y coleg, rydw i'n gallu delweddu'r hyn rydw i'n mynd i fod yn gweithio arno, ac mae hyn yn ddefnyddiol tu hwnt.
“Mae’r cyfleoedd rydw i wedi eu cael – fel cymryd rhan yn y cystadlaethau sgiliau – wedi bod yn anhygoel.”