Mared yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf i dîm hŷn Cymru
Yn ddiweddar, sgoriodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor ddwy gôl yn ei gêm gyntaf i Manchester United ac mae hi'n rhan o garfan Cymru ar gyfer eu gemau cyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd
Fe allai'r cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, Mared Griffiths gael ei dewis i chwarae i dîm hŷn Cymru am y tro cyntaf yn y gêm yn erbyn yr Eidal nos Wener.
Mae'r chwaraewr canol cae i Manchester United yn y garfan ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn erbyn yr Eidal a Sweden yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Chwaraeodd Mared, sy'n 17 oed, i United yn gynharach y mis hwn, gan ddod oddi ar y fainc i sgorio ddwywaith i'w thîm yn y fuddugoliaeth 6 i 0 dros Wolverhampton Wanderers yng Nghwpan yr FA.
Mae hi eisoes wedi cynrychioli Cymru ar y lefel dan 19 oed, ac fe allai fod yn rhan o'r tîm hŷn a fydd yn chwarae yn Monza nos Wener, neu nos Iau nesaf yn Wrecsam.
Lluniau: FAW
Dywedodd Mared mewn cynhadledd i'r wasg: “Rydw i'n dod o Drawsfynydd, ac yn ogystal â chynrychioli fy ngwlad mae'n anhygoel cael cynrychioli fy mhentref hefyd.
“Er nad ydw i wedi cael fy nghap cyntaf eto, mae bod yma ynddo'i hun yn rhywbeth rydw i a'm teulu yn falch iawn ohono.
“Rydw i'n ddiolchgar ’mod i'n cael y cyfle, ac mae bod yma'n fraint aruthrol.”
Cyn ymuno'r haf diwethaf â chlwb Manchester United sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair y Merched, roedd Mared yn dilyn cwrs Lefel 3 mewn Busnes ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau.
Ddiwedd y llynedd cafodd ei galw i ymuno â charfan hŷn Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2025. Sicrhaodd tîm Rhian Wilkinson le yn y twrnamaint yn y Swistir yr haf hwn trwy guro Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Ydych chi eisiau astudio a chymryd mewn chwaraeon lefel uchel yr un pryd? Dysgwch ragor am academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai yma