Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Un o Artistiaid Marvel yn Rhoi Dosbarth Meistr i'r Myfyrwyr

Daeth yr artist cysyniadol Mel Cummings i Goleg Llandrillo i roi cyflwyniad i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau Celf a Dylunio a Datblygu Gemau

Daeth yr artist cysyniadol Mel Cummings i Goleg Llandrillo i roi Dosbarth Meistr i'r myfyrwyr

Artist llawrydd yw Mel sy'n canolbwyntio ar greu cerbydau, propiau a dyluniadau mecanyddol ar gyfer rhaglenni teledu a gemau fideo.

Mae hi wedi gweithio ar gemau Marvel fel Secret Invasion, Battlefield Mobile, Apex a PlayerUnknown's Battlegrounds.

Yn ddiweddar, daeth Mel i gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos i roi cyflwyniad i ddysgwyr sy'n dilyn cyrsiau Celf a Dylunio a Datblygu Gemau.

Yn dilyn ei hymweliad, dywedodd: “Roedd yn bleser gallu trafod fy ngwaith fel artist cysyniadol gyda'r myfyrwyr.

“Yn dilyn y sgwrs, mi wnes i gynnal dosbarth meistr er mwyn helpu'r myfyrwyr i ddeall pwysigrwydd rhoi sylw i ddylunio siapiau wrth greu syniadau. Dangosodd pob un o'r myfyrwyr allu creadigol gwirioneddol wrth ddefnyddio chwedlau i ddylunio cymeriadau, propiau a golygfeydd.

“Roedd rhaid iddyn nhw wneud gwaith gwahanol i'r arfer a goresgyn problemau, ond mi ddylen nhw i gyd fod yn falch o'r hyn wnaethon nhw ei gyflawni a gobeithio y bydd y profiad yn help iddyn nhw yn eu gyrfa.

“Er mwyn cael diwydiant gemau amrywiol a diddorol, mae'n hanfodol bod gan y genhedlaeth nesaf o ddatblygwyr gemau'r sgiliau, y wybodaeth a'r adnoddau i wireddu eu breuddwydion, waeth beth fo'u rhyw, ethnigrwydd neu statws economaidd-gymdeithasol.

“Ers 2020, rydw i wedi canolbwyntio ar hyn wrth fentora, darlithio a rhoi sgyrsiau i fyfyrwyr. Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi annog, grymuso ac addysgu eraill yn y gobaith y bydd hynny'n eu helpu i ddod un cam yn nes at wireddu eu breuddwyd o weithio yn y diwydiant gemau.”

Bu Mel yn gweithio i TT Games fel Profwr Sicrhau Ansawdd cyn symud ymlaen i faes celf gysyniadol. Mae hi'n ddarlithydd cyswllt ym mhrifysgol Leeds Arts ac yn rhoi sgyrsiau rheolaidd am yrfaoedd a chelf gysyniadol mewn ysgolion a cholegau ledled y Deyrnas Unedig. Cewch wybod rhagor am waith Mel ar ei gwefan artofmel.com.

Dywedodd y myfyriwr Datblygu Gemau, Tesni Evans: “Mi wnes i ddysgu llawer o'r sgwrs a'r wers a roddodd Mel i ni ac yn sicr bydd yn ddefnyddiol i mi yn fy nghelf gysyniadol yn y dyfodol.

“Roedd yn ddiddorol iawn gweld sut roedd hi wedi datblygu'n broffesiynol yn y diwydiant a sut mae hi'n rheoli ei hamser a'i llwyth gwaith.”

A dywedodd James Huang, sydd hefyd yn astudio Datblygu Gemau: “Roedd rhai o'r pwyntiau gododd hi'n ddefnyddiol dros ben, ac mi fydda i'n bendant yn defnyddio rhai o'r technegau wnaeth hi eu dangos yn fy ngwaith.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant gemau? ⁠I gael gwybod rhagor am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai ym maes Cyfrifiadura, Technolegau Digidol a Datblygu Gemau cliciwch yma.