Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Siaradwr Gwadd o Fanc Lloegr yn ymweld â'n Myfyrwyr Mentrus

Ian Derrick, o Fanc Lloegr a Geraint Hughes, sylfaenydd Bwydydd Madryn, oedd prif siaradwyr cynhadledd menter flynyddol Coleg Menai a drefnwyd gan ddysgwyr Busnes

Dirprwy Asiant Cymru Banc Lloegr, Ian Derrick oedd prif siaradwr cynhadledd a drefnwyd gan fyfyrwyr busnes Coleg Menai yn ddiweddar.

Cafwyd sesiwn hefyd gyda Geraint Hughes, sylfaenydd Bwydydd Madryn, sy'n cynhyrchu cynhyrchion yn cynnwys creision Jones o Gymru, sawsiau Calon Lân ac olew had rêp Blodyn Aur.

Trefnwyd y gynhadledd menter gan ddysgwyr Astudiaethau Busnes Lefel 3 ac fe’i cynhaliwyd ar gampws newydd y coleg ym Mangor. ⁠ Bydd myfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau yn mynychu'r digwyddiad blynyddol, sy’n cynnwys siaradwyr gwahanol o fyd busnes a chyllid.

Yn dilyn anerchiad agoriadol gan Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai, Aled Jones-Griffith, Mr Hughes, yr entrepreneur bwyd oedd y prif siaradwr cyntaf.

Siaradodd gyda'r dysgwyr am sefydlu Bwydydd Madryn a’i fusnes ymgynghori, Lafan, yn ogystal â phwysigrwydd dysgu o fethiannau, a’i angerdd dros gadw hunaniaeth Gymreig ei fusnesau.

Agorodd y llawr i gwestiynau gan y myfyrwyr yn ystod y sesiwn ddifyr, a rhoddodd gyngor ar sut sefydlu eu busnesau eu hunain yn y dyfodol.

Yna rhoddodd Ian Derrick fewnwelediad addysgiadol iawn i’r dysgwyr ar Fanc Lloegr – gan gynnwys ei hanes, ei rôl yn yr economi a gyrfaoedd posibl gyda’r sefydliad.

Soniodd am ei yrfa ei hun hefyd, gan ateb cwestiynau gan ddysgwyr a rhoi cyngor amhrisiadwy ar yrfaoedd ym maes cyllid iddynt. Yn ogystal â hyn, dyfarnodd wobr am y cwestiwn gorau a ofynnwyd gan fyfyrwyr.

Daeth y cwestiwn gorau gan Rhys Jones, dysgwr Busnes Lefel 3 sydd yn ei flwyddyn gyntaf, a ofynnodd sut y byddai gweithredu tariffau masnach posibl gan yr UDA yn effeithio ar dwf y DU.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Mr Derrick: “Rydw i bob amser yn mwynhau siarad â myfyrwyr oherwydd maen nhw fel arfer yn gofyn y cwestiynau gorau. Weithiau gall y cwestiynau fod yn gwestiynau eithaf syml ond maen nhw'n mynd at graidd yr hyn rydw i'n siarad amdano, ac weithiau dyma'r rhai anoddaf i'w hateb.

“Roedd amrywiaeth go iawn o gwestiynau o 'Sut ydyn ni'n rheoli chwyddiant?' a 'Sut mae newidiadau mewn cyfraddau llog yn effeithio ar yr economi?' i 'Sut y bydd tariffau'r UDA o bosibl yn effeithio ar economi'r DU?'.

“Dangosodd y cwestiynau fod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda yn barod, a gobeithio y bydd heddiw wedi helpu i ddatblygu hynny ymhellach.

“Rydw i a Banc Lloegr yn awyddus iawn i annog pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn cyllid a’r economi gan eu bod yn effeithio’n fawr ar eu bywydau bob dydd. Byddai'n wych pe byddai hyd yn oed un myfyriwr oedd yma heddiw yn ymuno â Banc Lloegr yn y dyfodol."

Wrth ofyn am ei gyngor i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes cyllid, dywedodd Mr Derrick: “Pa bynnag yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi, rydw i’n meddwl bod gan fusnesau a chyflogwyr heddiw fwy o ddiddordeb nag erioed yn nodweddion yr unigolion a’u rhinweddau personol.

“Felly fy nghyngor i fyddai peidio â phoeni gymaint am arholiadau. Yn amlwg, po fwyaf llwyddiannus y gallwch chi fod yn eich arholiadau, y mwyaf o gyfleoedd sydd ar gael i chi - ond peidiwch â digalonni os na fyddwch chi'n cael yr union ganlyniadau roeddech chi'n gobeithio amdanynt.

“Rydyn ni’n cyflogi pobl ar bob lefel ym Manc Lloegr, o’r rhai sy newydd adael yr ysgol i raddedigion, felly mae llawer o gyfleoedd.

“Hefyd, beth bynnag rydych chi am ei wneud, ceisiwch fod yn hyderus ac yn chwilfrydig.”

Roedd Freya Hucks, o Gaergybi, yn un o'r chwe myfyriwr a drefnodd y gynhadledd, ynghyd â Sion Griffiths, Rhys Jones, Thomas Jones, Cody Owen a Finley Strickland-Hewson.

Roedden nhw'n rhan o bob agwedd ar gydlynu’r digwyddiad, o wahodd y siaradwyr a chynllunio’r amserlen, hyd at drefnu lluniaeth a hyrwyddo’r gynhadledd i ddarpar gynadleddwyr.

Dywedodd Freya: “Mi wnaethon ni rannu’r rolau rhyngom ein hunain ar sail yr hyn oedd fwyaf addas i ni a’r hyn rydyn ni’n mwynhau ei wneud.

“Mi aeth yn dda – mi wnaeth fwy o bobl fynychu nag oedden ni’n disgwyl. Mi wnaethon ni fwynhau, yn enwedig cael gwrando ar y siaradwyr ar ôl trefnu’r cyfan. Roedd yn brofiad addysgol da i bawb a fynychodd.”

Daeth dysgwyr o gyrsiau Astudiaethau Busnes a Theithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor i'r digwyddiad.

Ydych chi eisiau llwyddo mewn busnes? Mae cwrs Astudiaethau Busnes Lefel 3 Grŵp Llandrillo Menai yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd - gan gynnwys rheolaeth, cyllid, y gyfraith, manwerthu ac adnoddau dynol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill nifer o gymwysterau ac i ddysgu sut i ddechrau eich busnes eich hun. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date