Dysgu enwogion i goginio yn null Raymond Blanc
Mae'r cyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn brif diwtor yn Ysgol Goginio Raymond Blanc
Mae Michael John, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, wedi dysgu rhai o sêr mwya'r byd i goginio - gan gynnwys Stormzy, Kylie Minogue a David Beckham.
Mae Michael yn brif diwtor yn Ysgol Goginio Raymond Blanc, ar ôl gweithio gyda'r cogydd enwog ers gorffen yn y coleg 17 mlynedd yn ôl.
Yn ystod ei gyfnod ar y cwrs NVQ Lefel 3 Paratoi Bwyd a Choginio Proffesiynol, cafodd Michael gyfle, drwy gyswllt yn y coleg, i fynd am ddeuddydd prawf yng ngwesty byd-enwog Le Manoir aux Quat'Saisons, lle mae Raymond Blanc wedi hyfforddi mwy na 40 o gogyddion safon seren Michelin.
Ar ôl creu argraff yn ystod ei gyfnod prawf, mae Michael wedi gweithio yn y sefydliad dwy seren Michelin ers hynny. Yn ei rôl bresennol mae wedi dysgu dulliau ac athroniaeth Raymond i amrywiaeth eang o gleientiaid – gan gynnwys enwogion fel y gantores opera Katherine Jenkins a’r diva dawns Jess Glynne.
“Rydw i'n addysgu pobol o bob cefndir,” meddai. "Pobl enwog weithiau – pwy bynnag sydd eisiau dysgu sut i goginio. Dydych chi ddim yn gwybod pwy sydd gennych chi nes iddyn nhw gyrraedd.
"Mae’r holl gyrsiau’n seiliedig ar lyfrau Raymond, ac yn dysgu pethau i bobl y gallant eu coginio gartref.
"Weithiau byddwch chi'n dysgu'r un peth am nifer o ddiwrnodau yn olynol, ond mae bob amser yn wahanol oherwydd bod y gynulleidfa'n wahanol. Dw i wrth fy modd.
"Mae’n rhywbeth dw i wrth fy modd yn ei wneud, rhannu cymaint o wybodaeth ag y galla’ i, a dyna sut ddyn ydy Raymond. Mae'n ein dysgu i ddeall pwysigrwydd meithrin pobl. Mae’n ymwneud â hyfforddi a meithrin, datblygu pobl a’u gwylio’n datblygu."
Mae Michael wedi gweithio gyda Raymond ar sioeau teledu fel The Restaurant, Kitchen Secrets, Saturday Kitchen, Sunday Brunch, Good Food Show a Simply Raymond.
“Mae Raymond yn anhygoel,” meddai. “Mae o'n un o'r bobl sy'n mynnu bod ei weithwyr yn gweithio'n galed, ond fo hefyd ydy'r bos gorau dwi erioed wedi’i gael, a'r un gorau a gaf i. Mae’n ofalgar iawn, ac mae eisiau gwella ar y pethau rydyn ni’n eu gwneud bob dydd.”
Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Menai, bu Michael yn gweithio yn Poachers yng Nghricieth, y Pen y Bryn ym Mae Colwyn a gwesty seren Michelin The Chester Grosvenor. Cymerodd ran mewn cystadlaethau yn Venue Cymru yn Llandudno ac ar Chez Dudley ar S4C, aeth ar deithiau profiad gwaith i'r Eidal a Ffrainc, a dyna a'i ysbrydolodd i weithio gyda dulliau coginio o ddiwylliannau eraill.
Mae Michael yn dweud bod y sgiliau a ddysgodd yn y coleg wedi rhoi'r sylfaen iddo lwyddo wrth fynd ati i weithio i un o gogyddion mwyaf medrus y byd.
“Pan ddes i i Le Manoir am gyfnod prawf, roeddwn y diwrnod cyntaf yn cynnwys cyfnod yn gweithio gyda Raymond yn yr ysgol goginio, ac roedd hynny’n frawychus,” meddai.
“Roedden nhw eisiau rhywun i weithio yn yr ysgol ar unwaith, ond mi wnaethon gytuno i aros chwe wythnos er mwyn caniatáu i mi orffen fy nghwrs yn y coleg.
"Dydych chi ddim yn sylweddoli hyn pan fyddwch chi yma, ond y sylfaen a gewch chi yn y coleg ydy'r peth sydd mor allweddol.
"Mae’n bwysig cael yr amser yma a threulio tair blynedd yn dysgu pethau. Mi wnes i fwynhau'r tair blynedd yn fawr, a heb y sylfaen honno fyddwn i ddim wedi gallu dod yma a gwneud yr hyn a wnes i.
"Mae’r coleg hefyd yn agor eich llygaid i'r diwydiant ac yn eich helpu i ehangu eich gorwelion. Roedd fy mhrofiadau yn gweithio yn Ffrainc a'r Grosvenor mor allweddol, oherwydd ar ôl treulio amser yn Ffrainc roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau parhau i goginio bwyd mewn dull Ffrengig, ac ar ôl mynd i'r Grosvenor roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau mynd i ginio bwyd moethus.
"A dw i wedi llwyddo i weithio ym maes cinio bwyd mewn Ffrengig - yn Swydd Rydychen!”
Ydych chi eisiau gweithio ym maes lletygarwch ac arlwyo? Cliciwch yma I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai.