Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gyrfa newydd i Michelle ar ôl i gwrs dysgu gydol oes drawsnewid ei bywyd

Darlithydd yng Ngholeg Menai yw Michelle Adams sydd ar ail flwyddyn ei chwrs TAR – a dechreuodd y cyfan pan ymunodd â dosbarth nos

Pan gofrestrodd Michelle Adams ar gwrs dysgu cymunedol yng Ngholeg Menai, prin y gallai fod wedi dychmygu sut y byddai hynny'n trawsnewid ei bywyd.

Yn 2016, roedd Michelle yn teimlo “ar goll” ac angen newid cyfeiriad ar ôl cymryd diswyddiad gwirfoddol o'i gyrfa flaenorol i ofalu am ei mam oedd â salwch angheuol.

⁠Yn 40 oed, penderfynodd gymryd cam bach cyntaf yn ôl i fyd addysg, gan gofrestru ar gwrs TGAU Mathemateg yng Ngholeg Menai. Flwyddyn yn ddiweddarach, symudodd ymlaen i gwrs Lefel A Saesneg a chwrs cymunedol arall – y tro hwn mewn ysgrifennu creadigol.

A hithau bellach yn 2024, mae Michelle ar ail flwyddyn ei chwrs TAR yn y coleg, ar ôl cael gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Iaith Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Mae hi hefyd yn helpu i roi’r un cyfle i eraill newid eu bywydau, gan weithio ar gampysau Bangor a Llangefni fel darlithydd rhan-amser ar gyrsiau TGAU a Sgiliau Hanfodol mewn Saesneg.

Mae Michelle hyd yn oed wedi gallu ennill incwm ychwanegol o’i hysgrifennu, ar ôl i’w straeon byrion gael eu cyhoeddi ar-lein ac mewn print.

Mae’n ddechrau gyrfa newydd gyffrous a oedd prin yn ymddangos yn bosibl pan gafodd ei hun ar groesffordd gyda theulu ifanc i'w magu ac ymrwymiadau ariannol i’w cyflawni.

Dywedodd Michelle: “Mi wnes i gamu’n ôl i addysg am y tro cyntaf yn 2016. Ro'n i ar goll braidd ac yn ansicr ble roedd fy nyfodol.

“Ro'n i wastad wedi difaru peidio â gorffen fy Lefel A yn fy arddegau, ond fel llawer o bobl eraill, doedd yr amser ddim yn iawn. Ro'n i wedi trio dychwelyd i addysg ychydig o weithiau dros y blynyddoedd, ond heb lwyddo – roedd bywyd bob amser yn torri ar draws fy nghynlluniau.

“Ym mis Medi 2016, dyma ddod i noson agored yng Ngholeg Menai i edrych ar y cwrs Mynediad, ond do'n i ddim yn teimlo ei fod yn addas i mi. Bryd hynny wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n cael y cyfle i fynd i'r brifysgol. Roedd gen i ddau o blant ifanc, gŵr oedd yn gweithio oddi cartref y rhan fwyaf o'r flwyddyn a morgais i'w dalu.

“Rhywsut neu’i gilydd, erbyn i mi adael y digwyddiad agored hwnnw, ro'n i wedi cofrestru ar ddosbarth nos i ailsefyll fy TGAU Mathemateg – fy TGAU gwannaf. Roedd gen i radd D ond ro'n i’n gwybod y byddai angen gradd C neu uwch arna i fwy na thebyg i gofrestru ar gwrs llawn amser y flwyddyn ganlynol. Dw i'n falch iawn o ddweud fy mod i wedi pasio gyda B!”

Roedd cofrestru ar gwrs Lefel A yn gam nesaf naturiol ar ôl hynny, a dewisodd Michelle Saesneg, sef ei hoff bwnc yn yr ysgol.

Yn y pen draw byddai hyn yn arwain at gwrs addysg uwch, ond dywedodd Michelle fod ei thiwtor ysgrifennu creadigol, Ffion Humphreys yr un mor ddylanwadol wrth ei helpu i gyflawni ei huchelgais. ⁠Unwaith eto, mewn noson agored y daeth hi ar draws y cwrs.

“Ro'n i yno gyda ffrind oedd eisiau gwella ei mathemateg,” meddai. “Ro'n i newydd ddechrau ar y cwrs Lefel A mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mangor, ac ro'n i'n awyddus iawn i gefnogi fy ffrind i ymuno â chwrs ei hun.

“Wrth i ni adael, gofynnodd y ddynes wrth y ddesg i mi a oeddwn i wedi cofrestru ar gwrs. ⁠Pan ddywedais wrthi fy mod i'n astudio Lefel A Saesneg, soniodd am y cwrs ysgrifennu creadigol oedd yn dechrau'r wythnos ganlynol a holodd a fyddai gen i ddiddordeb ynddo. Mi wnes i gofrestru yn y fan a'r lle!

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau ysgrifennu, ac roedd angen gwneud ychydig o ysgrifennu creadigol ar fy nghwrs Lefel A. Ond roedd fy sgiliau braidd yn rhydlyd ac ro'n i'n gweld y dosbarth nos yn gyfle i gael hwyl, i ddefnyddio fy nghreadigrwydd ac i ddysgu rhywbeth newydd.” ⁠

Ychwanegodd Michelle: “Roedd dosbarthiadau Ffion yn rhagorol – roedd pob gwers yn ddifyr ac yn llawn o weithgareddau amrywiol i’r holl ddysgwyr, p'un ai oedden nhw'n ysgrifenwyr profiadol neu'n dechrau eu taith ysgrifennu.

“Nid yn unig wnes i ddarganfod 'mod i'n wirioneddol mwynhau ysgrifennu, ond 'mod i hefyd yn eithaf da am wneud hynny! Mi helpodd fi hefyd i brosesu rhai emosiynau anodd ynghylch colli fy mam – mae’n nodwedd o lawer o fy ngwaith ysgrifennu. Do'n i ddim wedi sylweddoli bod ysgrifennu'n gallu bod mor gathartig a'i fod hefyd yn llesol i iechyd meddwl.”

Ers dilyn y cwrs ysgrifennu creadigol, mae nifer o straeon byrion Michelle wedi cael eu cyhoedd, gan gynnwys ei ffefryn, ‘More than Words’ a gyhoeddwyd yng nghasgliad print ‘Best Of’ CafeLitMagazine.

Er nad oedd hi wedi ystyried dysgu fel gyrfa o'r blaen, cafodd ei hysbrydoli gan ei thiwtor.

“Rydw i'n ddyledus iawn i Ffion,” meddai Michelle. “Mi roddodd hi hwb mawr i'm hyder a hi wnaeth awgrymu y dylwn i ystyried dysgu fel gyrfa.

“Do'n i ddim wedi bwriadau mynd i'r brifysgol ar ôl gorffen fy nghwrs Lefel A, ond ar ôl cael fy ysbrydoli yn y coleg ac wrth i'r arholiadau terfynol ddod yn nes ac i'r myfyrwyr eraill ddechrau sôn am y prifysgolion roedden nhw am fynd iddyn nhw, dyma sylweddoli 'mod inna am ddal ati hefyd!”

Dilynodd Michelle ei chwrs gradd drwy'r Brifysgol Agored, gan gael gradd dosbarth cyntaf, cyn dychwelyd i Goleg Menai i wneud ei chwrs TAR.

“Erbyn hyn dw i bron â gorffen fy nghymhwyster addysgu, ac eisoes yn dysgu Saesneg i ddysgwyr yn Llangefni a Bangor,” meddai Michelle. “Mae graddio a dechrau ar y cwrs TAR yng Ngholeg Menai wedi bod yn benllanw blynyddoedd lawer o waith, ac rydw i bellach bron â chyrraedd fy nod.

“Ro'n i eisiau newid fy mywyd a dod o hyd i yrfa y byddwn i’n ei mwynhau ac yn ffynnu ynddi, ac rydw i ar ran olaf y daith.

“Rydw i wedi cael llawer o help ar y ffordd ac yn ddiolchgar am bob gair ac awgrym calonogol. Mae’r gefnogaeth rydw i wedi ei chael gan bawb yn y coleg wedi bod yn wych – o Ffion a'm tiwtor Lefel A Alison, i'm tiwtoriaid presennol ar y cwrs TAR.

⁠“Rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o gymuned Coleg Menai, fel aelod o staff ac fel myfyriwr. Mae’n gynhwysol, yn gyfeillgar ac yn gefnogol.

“Os galla i ysbrydoli un dysgwr yn unig yn fy nosbarthiadau fel y gwnaeth Ffion, Alison a sawl aelod arall o staff y coleg fy ysbrydoli i, yna bydd pob sesiwn astudio hwyr y nos, pob aseiniad rydw i wedi chwysu drosto a phob aros pryderus am ganlyniadau arholiadau wedi bod yn werth chweil.”

Un enghraifft yn unig yw stori Michelle o sut mae bywydau dysgwyr wedi cael eu trawsnewid ar ôl iddynt gofrestru ar un o gyrsiau Dysgu Gydol Oes Grŵp Llandrillo Menai.

Mae'r Grŵp yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau o dan y brand Potensial (Dysgu Gydol Oes) – o lefel mynediad i gymwysterau proffesiynol, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg sylfaenol, sgiliau cyfrifiadura a TG, TGAU a llawer rhagor.

Pan ofynnwyd iddi am ei chyngor i unrhyw un sy’n ystyried ymuno â chwrs, dywedodd Michelle: “Peidiwch â gadael i nerfau neu ansicrwydd eich rhwystro rhag gwneud unrhyw beth y credwch y gallech ei fwynhau.

“Y camau cyntaf yn bendant yw’r rhai mwyaf brawychus, ond bydd staff y coleg ar gael i’ch helpu, p'un ai i help i wella’ch sgiliau astudio neu i roi hwb i’ch hyder a’ch ffydd ynoch chi eich hun. Os na rowch chi gynnig arni, fyddwch chi byth yn gwybod beth allwch chi ei wneud.”

Beth bynnag yw eich rheswm dros fod eisiau datblygu sgiliau newydd, mae gan Grŵp Llandrillo Menai gwrs a all eich helpu. I gael rhagor o wybodaeth am ein hamrywiaeth eang o gyrsiau Potensial (Dysgu Gydol Oes), cliciwch yma

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date