Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coroni Mitchel yn bencampwr bocsio Prydain

Enillodd Mitchel Bencampwriaeth Iau Tair Gwlad Prydain yn ddiweddar ac mae'n bwriadu astudio chwaraeon yng Ngholeg Menai yn Llangefni

Mae Mitchel Jones ar fin dychwelyd i Goleg Menai ym mis Medi ar ôl cael ei goroni'n bencampwr Iau Tair Gwlad Prydain yn ddiweddar.

Bu'r myfyriwr 16 oed o Fangor yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Prydain, ar ôl ennill pencampwriaeth Cymru deirgwaith.

Enillodd ym Mhencampwriaeth Prydain yn ei ymgais gyntaf yn y gystadleuaeth, gan guro pencampwyr cenedlaethol o Loegr a'r Alban yn y categori 70kg.

Dywedodd Mitchel, sydd ar fin dechrau Diploma BTEC mewn Chwaraeon ar gampws Llangefni: “Dydw i erioed wedi cystadlu yn y gystadleuaeth o’r blaen felly roedd yn brofiad newydd i mi.

“Roeddwn i’n hyderus oherwydd fe wnes i hyfforddi’n ddigon caled ar ei gyfer, ac i ddweud y gwir roeddwn i’n hapus i gael fy newis i fod yn y garfan.

“Roeddwn i braidd yn nerfus gan ei fod yn gyfle mawr yr oeddwn wedi bod yn aros amdano ers amser maith, ond roeddwn yn llawn cyffro i gystadlu yn fwy na dim.”

Mae Mitchel yn hyfforddi gyda Chlwb Bocsio Amatur Llandudno, ac yn y gorffennol mae wedi bod yn bencampwr Cwpan Bocsio Denmarc HSK a Chwpan Bocsio Manceinion. Mae hefyd yn gobeithio cystadlu yng ngornest yr Emerald BoxCup yn Nulyn eleni.

Yn ddiweddar bu mewn gwersyll hyfforddi yn Sbaen gyda thîm datblygu Cymru, a’i nod nesaf yw cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ewrop.

Mae Mitchel yn gobeithio symud ymlaen i garfan elitaidd Cymru, a dywedodd fod ei fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Prydain wedi ei helpu gyda'i uchelgais.

“Nawr fy mod i wedi ennill Pencampwriaeth Prydain ac wedi cael fy newis i gynrychioli fy ngwlad rydw i wedi sylweddoli y gallaf fynd ymhellach yn y gamp,” meddai.

“Ar hyn o bryd fy nod yw bocsio ym Mhencampwriaethau Ewrop. Ond mi fyddwn i wrth fy modd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, ac efallai hyd yn oed yn y Gemau Olympaidd.”

Mae Mitchel wedi bod yng Ngholeg Menai ers dwy flynedd, ac wedi cwblhau cwrs Lefel 1 Llwybr i Sgiliau Adeiladu yn y coleg tra'n dal yn fyfyriwr yn Ysgol Friars.

Felly mae eisoes yn gyfarwydd â champws Llangefni lle bydd yn astudio Chwaraeon, ac yn credu y bydd y cwrs yn hwb mawr i'w ddyheadau bocsio.

“Mae’r coleg wedi bod yn dda iawn,” meddai. “Pan es i am gyfweliad, fe ddywedon nhw os bydd rhaid i mi fynd i ffwrdd oherwydd bocsio, ar gyfer cystadleuaeth neu wersyll hyfforddi er enghraifft, yna byddaf yn gallu trefnu fy astudiaethau o gwmpas hynny. Felly os ydw i eisiau cymryd y bocsio o ddifrif, bydd yn help mawr i allu gwneud hynny a pharhau fy nghwrs coleg.

“Fe wnes i'r cwrs adeiladu am ddwy flynedd, felly rydw i wedi dod yn gyfarwydd â'r coleg. Fe wnes i fwynhau hynny ond bydd gwneud y cwrs hyfforddi chwaraeon yn gweddu'n well i mi. Rydw i'n meddwl y gwnaf fwynhau’r cwrs yn fawr.”

Noddir Mitchel gan The Slate Restaurant Tal y Bont, Surfacing Experts Ltd, Bangor Tyres, yr osteopath chwaraeon Zac Laraman a Deion Homme Barbers.

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiannau chwaraeon neu addysg awyr agored? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau o Lefel 1 i lefel Gradd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Pagination