Morgan ac Osian yn helpu Colegau Cymru i Guro Lloegr o 6 Gôl i 1
Roedd y ddau fyfyriwr o Grŵp Llandrillo Menai'n chwarae wrth i dîm Marc Lloyd Williams sicrhau eu buddugoliaeth orau erioed yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Colegau Lloegr
Helpodd Morgan Davies ac Osian Morris sy'n fyfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai Golegau Cymru i greu hanes ddydd Gwener drwy guro Lloegr o 6 gôl i 1.
Dechreuodd y ddau dros Gymru gyda Morgan yn chwarae yng nghanol y cae ac Osian yn ymosodwr wrth i'r tîm gael eu buddugoliaeth orau erioed yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Colegau Lloegr (ECFA).
Dilyn Safon Uwch yng Ngholeg Menai mae Morgan, tra bod Osian, oedd yn chwarae i Golegau Cymru am y tro cyntaf, ar flwyddyn gyntaf ei gwrs Peirianneg Lefel 3 yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.
Disgrifiodd Marc Lloyd Williams, rheolwr tîm Colegau Cymru ac arweinydd rhaglen chwaraeon a chydlynydd Academi Bêl-droed Coleg Menai'r fuddugoliaeth fel un “swmpus ac arbennig iawn”.
Dywedodd: “Cafodd un o'r hogia' anaf y diwrnod cynt, felly cyn y cyfarfod tîm roedd rhaid newid ein siâp a chwarae'n wahanol i sut roedden ni wedi arfer gwneud. Felly, chwarae teg i'r chwaraewyr am ddod i arfer yn syth â'r drefn dactegol newydd.
“Roedden ni un gôl ar ei hôl hi ar ôl pedwar munud, ond unwaith y deallodd yr hogia' beth roedd rhaid iddyn nhw ei wneud, mi aeth y gêm yn ardderchog.
“Mi wnaeth Morgan ac Osian chwarae'n dda iawn. Mi wnaeth Morgan ei waith yn effeithiol rhwng y ddau gefnwr canol, ac mi weithiodd Osian yn ddiflino ym mhen ucha'r cae gan gyfrannu at greu'r drydedd gôl.
“Ar y diwrnod mi chwaraeodd yr holl chwaraewyr yn wych, ac maen nhw wedi gosod safon uchel iawn iddyn nhw eu hunain. Mae gan Morgan ac Osian gyfle da rŵan o gael eu dewis i dîm dan 18 Ysgolion Cymru yn y Flwyddyn Newydd.”
Yn y fuddugoliaeth dros Golegau Lloegr yn stadiwm Met Caerdydd yng Nghyncoed, fe sgoriodd Caleb Demery (Coleg Gŵyr) bum gôl gyda Jack Jones (Coleg y Cymoedd) hefyd yn cael y bêl i gefn y rhwyd.
Mae Morgan ac Osian wedi cael eu dewis ar gyfer gêm nesaf Colegau Cymru yn erbyn Ysgolion Annibynnol Lloegr ym Mharc St George, Swydd Stafford ddydd Mercher 18 Rhagfyr.
Maent ill dau'n chwarae i dîm Academi Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn Uwch Gynghrair ECFA.
I gael rhagor o wybodaeth am Academi Bêl-droed Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.