Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwrs Lluosi yn helpu saith rhiant i ddechrau busnesau newydd

Mae elusen Blossom & Bloom o’r Rhyl yn gweithio gydag adran Lluosi Grŵp Llandrillo Menai i gynnig cwrs sy’n galluogi pobl i sefydlu eu mentrau eu hunain.

Mae saith rhiant wedi dechrau eu busnesau eu hunain diolch i gwrs a gynhaliwyd gan Lluosi a Blossom & Bloom.

Mae’r busnesau newydd bellach yn gwerthu nwyddau fel anrhegion personol, danteithion cartref, triniaethau harddwch, wigiau a llawer mwy o Ganolfan Lles Blossom & Bloom yn y Rhyl.

Lansiwyd y mentrau ar ôl i’r elusen rianta weithio gydag adran Lluosi Grŵp Llandrillo Menai i gyflwyno cwrs chwe wythnos o hyd, ‘Dechrau Eich Busnes Eich Hun’.

Cafodd pawb a gwblhaodd y cwrs yn llwyddiannus grant bach tuag at gostau cychwynnol, yn ogystal â chyllid tuag at ddysgu parhaus gyda Grŵp Llandrillo Menai.

Bydd mwy o ddarpar entrepreneuriaid yn yr ardal nawr yn cael y cyfle i wneud yr un peth, a bydd y cwrs yn rhedeg eto o 7 Tachwedd.

Mae Lluosi yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM, gyda Grŵp Llandrillo Menai yn arwain ar y prosiect ar draws Gwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych. Mae Blossom & Bloom wedi gweithio gyda Lluosi ers mis Ebrill eleni, pan ddechreuodd yr elusen gynnal cyrsiau rhifedd i rymuso pobl leol. ⁠

Gwyddai’r sylfaenydd, Vicky Welsman-Millard, ble i droi pan benderfynodd ei bod eisiau helpu pobl leol i fod yn fos arnyn nhw eu hunain.

“Mae angen y sgiliau sylfaenol hynny arnoch chi o ran ffigurau a sut reoli arian, felly dyna pam wnes i gysylltu â Lluosi a dweud 'Mae gen i'r syniad gwych hwn. Allwn ni wneud hyn gyda'n gilydd?'

“Mae yna saith busnes wedi’u creu, sy’n anhygoel oherwydd ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb Blossom & Bloom a Lluosi. Ariannwyd y grant yn benodol gan Lluosi, felly ni fyddai'r cwrs wedi digwydd fel arall.”

Mae'r cwrs yn cynnwys pedair sesiwn gyda'r tiwtor Lluosi, Anthony Harrison ar sut i ddechrau busnes, ac yna dau gyfarfod un-i-un i roi cefnogaeth sy’n fwy penodol i’r busnes dan sylw. Trefnodd Blossom & Bloom ofal plant i alluogi rhieni i fynychu'r sesiynau, yn ogystal â chefnogaeth barhaus drwy roi gofod iddynt yng Nghanolfan Ddatblygu'r elusen yng Nghanolfan Siopa'r Rhosyn Gwyn.

Dywedodd Vicky: “Ro'n i eisiau cynnal y cwrs am bedair wythnos, ac yna cynnig cefnogaeth galw heibio am gyfnod o leiaf pedair i wyth wythnos fel y gallent ddod i ddefnyddio'r gofod i greu, i werthu, ac i fod ar gael i hyrwyddo eu busnes. Neu, os mai rheolaeth ariannol oedden nhw ei angen, bydden ni'n yn cynnig helpu gyda chynllun busnes.

“Dyma ffordd o feddwl yn greadigol a defnyddio'r gofod sydd gennym ar gyfer entrepreneuriaeth.

“Nid mamau yn unig sy’n ymgysylltu â ni ar hyn o bryd, mae'r cwrs ar gyfer unrhyw un yn yr ardal leol sydd â syniad busnes ac sydd eisiau cael mynediad at y cymorth hwn.”

Mae Erika Lloyd, un o'r dysgwyr a gwblhaodd y cwrs yn llwyddiannus, wedi dechrau busnes, 'Maisie's Makes', gan greu amrywiaeth o gylchau allweddi wedi'u hanelu at famau.

Defnyddiodd ei grant i brynu stoc ac offer i gynhyrchu’r cylchau allweddi, y mae’n eu creu gartref a'u gwerthu yng Nghanolfan Ddatblygu Blossom & Bloom.

Dywedodd Erika am y cwrs: “Mae wedi fy ysbrydoli i weithio i mi fy hun er mwyn gallu bod yn hyblyg wrth ofalu am fy merch.

“Mae wedi bod yn ddefnyddiol gan nad oeddwn i'n deall yr ochr gyfreithiol. Rydw i'n gwybod pan fyddaf yn barod i werthu, y bydd rhaid i mi gyfrifo pethau fel fy nghyllideb a faint o stoc sydd gen i. Rhan arall yw canolbwyntio ar beidio â thanwerthu fy hun hefyd.

“Mi oeddwn i'n arfer bod yn brysur drwy'r adeg, ond rydw i wedi cymryd cam yn ôl, a phan mae fy mabi yn y gwely, rydw i'n cael cyfle i wneud rhywbeth drosof fi fy hun.

“Fe wna i eistedd ar y soffa gyda hi a jest dylunio. Yna pan fydd hi'n mynd i'r gwely, dyna pryd rydw i'n meddwl 'Iawn, 'wan ydy fy nghyfle i'w wneud yn real'.”

Meddai Bethan Lloyd, Cydlynydd Ymgysylltu Lluosi yn Sir Ddinbych: “Rydw i wrth fy modd gweld yr effaith ein cyrsiau rhifedd am ddim ar draws gogledd Cymru.

“Mae’r cyrsiau yn Blossom & Bloom yn enghraifft wych o sut mae menter Lluosi nid yn unig yn meithrin hyder gyda rhifedd, ond hefyd yn grymuso unigolion i fynd ar ôl eu breuddwydion, fel dechrau eu busnesau eu hunain.

“Ar yr olwg gyntaf efallai ei bod hi’n anodd credu y gall cwrs rhifedd rhad ac am ddim arwain at ganlyniadau mor drawsnewidiol – nid yn unig i un person, ond i saith hyd yma.

“Mae’r llwyddiannau hyn yn amlygu’r creadigrwydd, y penderfynoldeb, a’r parodrwydd sydd gan yr unigolion hyn i roi tro ar rywbeth newydd. Diolch yn arbennig i Vicky a thîm Blossom & Bloom am eu hymrwymiad i'r gymuned, ac i Tony am ei agwedd ddiddorol a'i arbenigedd wrth gyflwyno'r cwrs.

“Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at glywed y straeon ysbrydoledig gan y rhai sy’n cymryd rhan yn y don nesaf o’r cwrs hwn!”

Hoffech chi wella eich sgiliau mathemateg? I fod yn gymwys ar gyfer cyrsiau Lluosi trwy Grŵp Llandrillo Menai, rhaid i chi fod yn 19 oed neu hŷn, ac yn byw yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy neu Sir Ddinbych.

I wneud cais, neu i drafod sut y gall Lluosi eich helpu, anfonwch e-bost i lluosi@gllm.ac.uk, ffoniwch 01492 542 338, neu llenwch y ffurflen ar-lein hon .

Mae prosiect Lluosi wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau yn Blossom & Bloom, cliciwch yma neu ewch i blossomandbloom.org.uk/events-courses-opening-times/


Pagination