Digwyddiadau Lluosi yn gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol dynion
Mae cyrsiau saer coed a dosbarthiadau hyfforddiant codi pwysau wedi helpu i chwalu ynysu cymdeithasol tra hefyd yn datblygu sgiliau rhifedd a sgiliau ymarferol dysgwyr
Mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn cynnal digwyddiadau Tashwedd i gefnogi iechyd meddwl a chorfforol dynion.
Mae Tashwedd/Movember yn elusen fyd-eang sy'n ceisio helpu dynion i fyw bywydau hapusach, iachach a hirach.
I gefnogi'r elusen, cydlynodd Lluosi ddigwyddiadau oedd yn cynnwys sesiynau gwaith coed, lle'r oedd y cyfranogwyr yn adeiladu meinciau a gwelyau llysiau wedi'u codi, a dosbarthiadau codi pwysau.
Mae 'Gwneud i'r Reps Gyfrif: Cyflwyniad i Hyfforddiant Codi Pwysau a Rhifedd', wedi bod yn cael ei gynnal yn The Barn ym Mharc Eirias, Bae Colwyn (sesiynau sy'n weddill ar Ionawr 15, 22 a 29).
Mae'r cwrs, sy'n cael ei gynnal mewn cydweithrediad â thîm Pêl-droed Americanaidd Muddogs Bangor, yn adeiladu hyder y dysgwyr yn eu sgiliau rhifedd tra hefyd yn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Mae Costa Yianni, sy'n hyfforddwr personol cymwys, yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau yn y gampfa, tra byddant hefyd yn defnyddio sgiliau rhifedd i fesur pellteroedd, olrhain gwybodaeth, cyfrifo pwysau a mesur cyfradd curiad eu calon.
Dywedodd Costa: “Mae ymarfer corff yn wych ar gyfer iechyd meddwl pobl a dw i'n gallu gweld bod y rhaglen hon yn gweithio i'r hogiau.
“Dw i wedi sylwi yn y sesiynau rydyn ni wedi bod yn eu gwneud hefo'r Muddogs, bod 'na bobl sydd ddim yn siŵr am ddod i'r dosbarth - maen nhw'n meddwl na allan nhw wneud ymarfer corff, neu na fyddan nhw'n adnabod unrhyw un. Yna, o fewn 10 neu 20 munud, maen nhw'n sylweddoli y dylen nhw fod wedi gwneud hyn amser maith yn ôl.
“Os allwch chi gymryd y cam cyntaf i mewn i’r dosbarth mi welwch fod y gefnogaeth yno, sy’n wych ar gyfer iechyd meddwl.”
Yn Llandudno, cynhaliwyd dosbarthiadau gwneud meinciau yn siop Happitat Crest Cooperative, mewn cydweithrediad â Hwb Cyflogaeth Conwy.
Nod y sesiynau oedd chwalu rhwystrau ynysu cymdeithasol, tra hefyd yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau a allai eu helpu i ddod o hyd i gyflogaeth. Bydd y meinciau a adeiladwyd gan y dysgwyr yn cael eu rhoi i grwpiau cymunedol lleol.
Dywedodd Judith Roberts, mentor cyflogaeth gymunedol ar gyfer Hwb Cyflogaeth Conwy: “Pan fydd pobl wedi gwneud y cyrsiau, pan fyddant yn dod yn teimlo'n fwy hyderus ac yn gofyn am wneud mwy - mae hynny'n beth da iawn.
“Rydyn ni’n ceisio creu amgylchedd dysgu cadarnhaol ac yn gobeithio y bydd yn arwain at bobl yn cael yr awydd i ddysgu, a mynd ymlaen i wneud pethau eraill a chyflawni eu potensial.”
“Mae’n ymwneud â grymuso pobl a’u helpu i sylweddoli y gallan nhw wneud mwy nag y maen nhw'n feddwl.”
Yng Nghaernarfon, bu Jakub Gawel, sy'n ddarlithydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ac yn diwtor Lluosi, yn arwain sesiynau adeiladu gwelyau pren wedi'u codi yng nghanolfan gymunedol Porthi Dre.
Un o’r dysgwyr oedd yn cymryd rhan oedd Cai Samuel, Cydlynydd Caban y Cofis yng Nghaernarfon.
Dywedodd: “Roedd cydweithio yn creu amgylchedd cefnogol, lle roedden ni'n gallu siarad yn agored a chanolbwyntio ar ein llesiant.
“Wrth gymryd rhan yn y gweithgaredd, roedden ni'n cael cyfle i siarad, cael ychydig o hwyl a dysgu mwy am waith coed. Rydyn ni'n edrych ymlaen at dyfu llysiau yn yr haf!”