Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr Lluosi yn magu hyder mewn gwaith coed

Yn ddiweddar cynhaliodd Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli gwrs 'Sgiliau Gwaith Coed a Rhifedd Ymarferol' fel rhan o brosiect Rhifedd Byw - Lluosi

Adeiladodd y dysgwyr fwrdd coffi, tŷ chwilod a mwy wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau mathemateg gyda Lluosi.

Mae prosiect Rhifedd Byw - Lluosi yn helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd, gan gynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Un cwrs o'r fath oedd 'Sgiliau Gwaith Coed a Rhifedd Ymarferol', a gynhaliwyd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli yn ddiweddar.

Dros bedair wythnos, bu dysgwyr yn cymryd rhan mewn dysgu ymarferol a theori, gan gwblhau prosiectau gwaith coed tra hefyd yn dysgu am y rhifedd oedd ynghlwm a hynny.

Bu myfyrwyr yn taflu syniadau am brosiectau, gan ddysgu a chymhwyso'r cysyniadau mathemategol perthnasol angenrheidiol - gan gynnwys mesuriadau, onglau, cyfrifiadau arwynebedd a pherimedr, ffracsiynau a rhifyddeg sylfaenol.

Yna aethant ati i gwblhau eu prosiectau, gyda'r holl ddeunyddiau ac offer wedi'u darparu, cyn mynd a'r eitem orffenedig adref gyda nhw.

Dywedodd y dysgwyr fod y cwrs wedi helpu gyda'u mathemateg, yn ogystal â rhoi hyder iddynt adeiladu eu prosiectau eu hunain.

Adeiladodd Paul Jenkinson dŷ pryfed, gan ddweud: "Dwi wrth fy modd hefo bywyd gwyllt, felly ro’n i eisiau gwneud rhywbeth, sy'n ymwneud â hynny.

"Ro'n i ar goll braidd gydag onglau, ond fe wnaeth Jakub helpu gyda hynny, a mynd trwy ychydig o gamau fel torri onglau 45-gradd oddi ar bren.

“Mae'r cwrs yn wych, mae'r strwythur yn wych, mae Jakub (tiwtor Lluosi) wedi bod yn wych. Rydyn ni'n cael defnyddio'r holl offer hefyd - dwi ddim yn meddwl y byddwn yn gadael i unrhyw un ddefnyddio fy offer gartref!

“Mae’r cyfan wedi bod yn hynod ddiddorol. Dwi'n gobeithio bod ag ychydig mwy o hyder i adeiladu rhai pethau gartref ar ôl hyn. Mae'n braf mynd allan hefyd. Gall y math hwn o weithgaredd eich cadw’n brysur, ac mae gweithio ar y tŷ pryfed wedi bos yn ffordd dda o dynnu fy sylw.”

Adeiladodd Jamie Walker, dysgwr arall ar y rhaglen Lluosi, fwrdd coffi i fynd adref. Dywedodd: “Mae wedi bod yn werth chweil i mi ddod draw. Rydyn ni wedi cael ein dysgu sut i gymryd mesuriadau mwy cywir yn ein crefftau, felly hyd yn oed yn yr agwedd ymarferol rydych chi'n gweld bod angen i chi ddibynnu ar rifedd yn eithaf aml.

“I mi, mae’r cwrs hwn wedi bod yn ymwneud ag adeiladu hyder. Dwi'n gwybod ychydig am dorri pren a phethau, ond dwi wedi cael bloc yn fy meddwl am sut i ddelweddu prosiect. Fe arweiniodd Jakub fi ar hyd y broses honno, a fy helpu i gynyddu fy hyder."

Adeiladodd Meinir Roberts focs i gario ei gwlân ynddo.

Dywedodd: “Dwi wedi mwynhau pob agwedd o’r cwrs. Hefo gwneud gwaith coed, mae 'na dipyn o fàths yn dod i mewn i’r peth - sut i weithio allan faint o goed mae rhywun isio ac ati, sut i fesur pethau.

“Mae o 'di bod yn gwrs da iawn. Dwi wedi cael budd ohono fo, a dwi wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi dysgu sgiliau newydd a gobeithio y medra i fynd a’r sgiliau yna adref hefo fi.”

Dywedodd Jakub Gawel, y Tiwtor Lluosi: “Mae tipyn o fathemateg y tu ôl i'r holl brosiectau yr hoffem eu hadeiladu.

"Yn y sesiynau yma rydan ni'n gwneud ychydig o fathemateg sy'n cynnwys mesur, cyfrifo, trosi unedau, ac yn gyffredinol popeth i gynllunio eich prosiectau personol. Cyn i chi ddechrau torri unrhyw beth, mae'n bwysig cael yr holl gyfrifiadau i lawr ar bapur."

Hoffech chi wella eich sgiliau mathemateg? I fod yn gymwys ar gyfer cyrsiau Lluosi trwy Grŵp Llandrillo Menai, rhaid bod yn 19 oed neu'n hŷn, a byw o fewn siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy neu Ddinbych.

I wneud cais, neu i drafod sut y gall Lluosi eich helpu chi, gyrrwch neges e-bost at lluosi@gllm.ac.uk, ffoniwch 01492 542 338, neu cwblhewch y ffurflen ar-lein hon.

Ariennir y cynllun Lluosi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lluosi, cliciwch yma.

Pagination